Ҵý

Skip page header and navigation

Bydd Paul Corry, Rheolwr Technegol Cynhyrchu yn LSN Diffusion yn Llandybie, yn graddio ym mis Tachwedd gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf BEng mewn Gwyddor Deunyddiau. Yn 52 oed, cychwynnodd Paul ar y rhaglen gradd - brentisiaeth yn PCYDDS yn 2020, gan nodi carreg filltir bwysig yn ei yrfa ar ôl dros 35 mlynedd yn gweithio ym maes peirianneg. 

A man wearing a branded work shirt sitting at a desk with a lap top and a hard hat on display.

Er iddo raddio gyda BSc mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddegawd ynghynt, dywedodd Paul ei fod yn cydnabod yr angen i ddyfnhau ei arbenigedd technegol mewn peirianneg. Ysgogwyd ei benderfyniad i ddilyn gradd-brentisiaeth mewn Gwyddor Deunyddiau gan awydd i wella ei wybodaeth a’i sgiliau, yn enwedig o ran deall y prosesau y tu ôl i dechnegau cynhyrchu. 

Mae Peirianwyr Defnyddiau ar reng flaen darganfod a datblygu’r datrysiadau defnydd gorau ar gyfer cynhyrchion. Mae graddedigion y llwybr Gwyddor Deunyddiau hwn yn dod o hyd i ystod eang o gyfleoedd gwaith yn ffocysu ar y diwydiannau metelegol, fel meysydd awyrofod, modurol, biofeddygol a datblygu cynaliadwy.

“Roedd y radd Gwyddor Deunyddiau yn berffaith ar gyfer cynyddu fy ngwybodaeth dechnegol, ac mae wedi rhoi’r offer i mi feddwl yn wahanol am broblemau peirianneg ,” meddai.

Fel rhan o’i brentisiaeth gradd, ymgymerodd Paul â phrosiect seiliedig ar waith ar gyfer ei draethawd hir, gan ganolbwyntio ar optimeiddio prosesau atomeiddio o fewn y cwmni. Arweiniodd ei brosiect, a oedd yn cynnwys newid o ddulliau seiliedig ar nwy i ddulliau dŵr, at arbedion cost sylweddol a gwelliannau effeithlonrwydd ynni i LSN Diffusion. Mae llwyddiant y prosiect hwn yn tynnu sylw at yr effaith uniongyrchol y mae ei daith academaidd wedi’i chael ar weithrediadau ei gwmni.

Dywedodd Paul fod ei brofiad fel myfyriwr aeddfed wedi rhoi persbectif unigryw iddo yn yr ystafell ddosbarth. Gyda degawdau o brofiad yn y diwydiant, canfu y gallai gymhwyso damcaniaethau academaidd yn uniongyrchol i senarios ymarferol, gan bontio’r bwlch rhwng theori ac ymarfer. 

“Helpodd fy mhrofiad i uno’r dotiau rhwng yr hyn roeddwn i’n ei ddysgu a’r hyn roeddwn i wedi bod yn ei wneud yn y maes ers blynyddoedd ,” ychwanegodd.

Y tu hwnt i’w lwyddiant academaidd ei hun, mae Paul hefyd wedi bod yn eiriolwr dros brentisiaethau yn ei weithle. Mae wedi mentora prentisiaid newydd yn LSN Diffusion, gan eu tywys trwy heriau’r rhaglen a rhannu ei angerdd am ddysgu gydol oes. 

“Mae prentisiaethau’n amhrisiadwy ar gyfer datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, proffesiynoldeb a datrys problemau. Rwy’n annog pawb i fynd amdani gydag ymrwymiad a meddwl agored ,” meddai.

Dywedodd Paul fod cydbwyso gwaith llawn amser gydag astudiaethau academaidd a bywyd personol wedi bod yn heriol. 

“Roedd dychwelyd i addysg ar ôl 35 mlynedd yn anodd, yn enwedig wrth weithio’n llawn amser. Ond mae’r gefnogaeth gan fy nheulu, fy nghwmni a’r brifysgol wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Mae wedi bod yn hynod werth chweil ,” meddai. Roedd yn aml yn ymroi ei benwythnosau a’i egwyliau cinio i astudio, gan ddangos y ddisgyblaeth a’r ymroddiad yr oedd eu hangen i lwyddo.

Mae Paul yn bwriadu parhau â’i daith academaidd gyda gradd meistr, ac yn y pen draw mae’n gobeithio trosglwyddo i rôl fentora.

“Rwyf wedi dod o hyd i ymdeimlad newydd o bwrpas drwy’r brentisiaeth hon. Rwy’n cyfrannu at rywbeth mwy, ac rwyf am helpu eraill i gyflawni hynny hefyd ,” meddai.

Gradd-brentisiaethau yn PCYDDS

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ddarparwr blaenllaw o brentisiaethau gradd, sy’n cynnig amrywiaeth o raglenni ar draws gwahanol ddiwydiannau: 

Ar hyn o bryd rydym yn darparu prentisiaethau gradd ar gyfer dros 100 o gyflogwyr ac wedi sefydlu perthnasoedd cryf â sefydliadau’r sector preifat a chyhoeddus, yn cynnwys Busnesau Bach, Awdurdodau Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG.

Mae ein gradd-brentisiaethau’n cynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth, a phrofiadau. Gallwch gymryd gradd-brentisiaeth i uwchsgilio neu ailsgilio os ydych eisoes mewn swydd.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon