ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Teithio i Abertawe

Mae ein campws yn Abertawe yn cynnwys sawl lleoliad ar draws y ddinas. Dyma ganolfan addysg ac arloesedd ddeinamig, wedi’i lleoli mewn dinas fywiog sy’n adnabyddus am ei harfordir hardd a’i threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog. 

Mae’r dudalen hon wedi’u chreu er mwyn rhoi’r holl wybodaeth y byddwch ei hangen er mwyn cyrraedd yn ddidrafferth a theithio o gwmpas ein campysau yn rhwydd. Boed yn drip lleol neu’n daith o bell, ein nod yw sicrhau bod eich taith mor ddi-ffwdan â phosibl. 

Lleoliadau ein Campysau yn Abertawe

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Adeilad IQ, SA1 Campws y Glannau, Ffordd y Brenin, Abertawe, SA1 8EW

°Õ±ð¾±³Ù³ó¾±´Ç&²Ô²ú²õ±è;…
  • Mae Adeilad IQ Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn SA1 Glannau Abertawe o fewn taith gerdded o ganol y ddinas, gorsaf bysys ganolog a gorsaf drenau Abertawe. 

    Cynlluniwch eich Taith
  • Mae’n rhwydd cyrraedd Adeilad IQ Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn SA1 Glannau Abertawe ar nifer o lwybrau seiclo Abertawe, sydd ar gael ar wefan .

    Cynlluniwch eich Taith
  • Mae gan Orsaf Abertawe gysylltiadau gwych gyda threnau’n rhedeg yn rheolaidd o Gaerfyrddin, Caerdydd,  Piccadilly Manceinion ac Abertawe ac yn ôl. Gallwch gynllunio eich taith trên yn Traveline.cymru.

  • Mae Adeilad IQ Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn SA1 Glannau Abertawe, Heol y Brenin, Abertawe, SA1 8EW yn hygyrch gan y gwasanaethau bws rheolaidd ar draws y ddinas.

    Gallwch ddefnyddio Cynlluniwr Myunijourney PCYDDS i’ch helpu i gynllunio’ch taith bws.

  • Mae parcio am ddim* ar Adeilad IQ Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn SA1 Glannau Abertawe, Swansea, SA1 8EW. 

    Cynlluniwch eich Taith

°Õ±ð¾±³Ù³ó¾±´Ç&²Ô²ú²õ±è;…
  • Mae Campws Alex o fewn taith gerdded o ganol y ddinas, gorsaf bysys ganolog a gorsaf drenau Abertawe. 

    Cynlluniwch eich Taith
  • Mae’n rhwydd cyrraedd Campws Alex ar nifer o lwybrau seiclo Abertawe, sydd ar gael ar wefan e.

    Cynlluniwch eich Taith
  • Mae gan Orsaf Abertawe gysylltiadau gwych gyda threnau’n rhedeg yn rheolaidd o Gaerfyrddin, Caerdydd, Piccadilly Manceinion ac Abertawe ac yn ôl. Gallwch gynllunio eich taith trên yn Traveline.cymru.

  • Gellir cyrraedd Campws Alex yn rhwydd ar wasanaethau bysys rheolaidd y ddinas.

    Gallwch ddefnyddio Cynllunydd Myunijourney PCYDDS i’ch helpu i gynllunio eich taith bws.

  • Y maes parcio agosaf yw NCP Stryd y Berllan, SA1 5AS.

    Cynlluniwch eich Taith

°Õ±ð¾±³Ù³ó¾±´Ç&²Ô²ú²õ±è;…
  • Mae Adeilad Dinefwr o fewn taith gerdded o ganol y ddinas, gorsaf bysys ganolog a gorsaf drenau Abertawe.

    Cynlluniwch eich Taith
  • Mae’n rhwydd cyrraedd Adeilad Diefwr ar nifer o lwybrau seiclo Abertawe, sydd ar gael ar wefan .

    Cynlluniwch eich Taith
  • Mae gan Orsaf Abertawe gysylltiadau gwych gyda threnau’n rhedeg yn rheolaidd o Gaerfyrddin, Caerdydd, Piccadilly Manceinion  ac Abertawe ac yn ôl. Gallwch gynllunio eich taith trên yn Traveline.cymru.

  • Gellir cyrraedd Adeilad Dinefwr yn rhwydd ar wasanaethau bysys rheolaidd y ddinas.

    Gallwch ddefnyddio Cynllunydd Myunijourney PCYDDS i’ch helpu i gynllunio eich taith bws.

  • Y maes parcio agosaf yw Stryd y Berllan NCP, SA1 5AS.

    Cynlluniwch eich Taith
Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded ar lwybr

Teithio Gwyrdd

Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.

Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.

Parcio*

Cyflwynodd Campws Abertawe System Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig ym mis Chwefror 2023.

Mae parcio ar y campws yn rhad ac am ddim i ddeiliaid trwydded yn unig, gall ymwelwyr barcio ar y campws ond rhaid talu i barcio trwy un o’r mesuryddion talu neu’r Ap PayByPhone ar yr arwyddion sydd ar gael.

Sylwer bod ein cyfleusterau parcio wedi’u cyfyngu i’r mannau sydd ar gael ac nid yw trwydded yn sicrhau lle i chi. Gall ein cyfleusterau fynd yn brysur iawn yn ystod y tymor ac fe’u defnyddir gan staff ac ymwelwyr hefyd. Os oes gennych opsiwn ar gyfer trafnidiaeth amgen neu rannu car, mae’n cael ei argymell a’i annog yn fawr.