Svitlana yn PCYDDS
Enw: Svitlana Ulianych
Cwrs: BA (Anrh) Dylunio Graffig
Astudiaethau Blaenorol: Prifysgol Feddygol Genedlaethol Kharkiv (Meddyg), Grŵp Coleg NPT (EASOL)
Tref eich cartref: Abertawe (nawr), Kharkiv (Wcráin)
Profiad Svitlana ar BA (Anrh) Dylunio Graffig

Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?
Dwi wrth fy modd yn cael fy amgylchynu gan ddylunio; mae’r campws o hyd yn f’atgoffa o bwy dwi eisiau bod ac o bwysigrwydd dylunio. Mae posteri, lluniau, pecynnu, llyfrau, ac ychydig o anhrefn creadigol yn creu awyrgylch ysbrydoledig. Hefyd, mae’r labordy cyfrifiadurol sydd â thechnoleg rhagorol yn un o fy hoff lefydd, dwi’n treulio llawer o amser yno, hyd yn oed ar ôl i’r dosbarthiadau orffen.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Ges i fy nghyflwyno i’r brifysgol hon drwy gwrdd â phobl wych, a syrthiais i mewn cariad gyda’r lle yn gyflym. I fi, mae’r bobl yn ogystal â’r lleoliad yn ei wneud yn arbennig. Mae’r staff addysgu yma yn anhygoel o gefnogol ac yn fy ysbrydoli.
Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Dwi’n mwynhau ymweld â Bae Abertawe, braslunio gyda dyfrlliwiau neu acrylig, ac yn aml yn ymgolli mewn dylunio digidol i ganol y nos.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Mae gen i freuddwydion uchelgeisiol. Dwi’n gobeithio dod yn ddylunydd UI/UX llwyddiannus a gweithio i un o’r cwmnïau FAANG enwog neu gwmni mawr arall.
Beth yw eich hoff beth am y cwrs?
Dwi’n gwerthfawrogi bod y rhaglen yn gytbwys ac yn dysgu sgiliau ymarferol i ni sy’n angenrheidiol ar gyfer ein gyrfaoedd. Mae yna lawer o brofiad ymarferol, gan gynnwys gweithio gyda chleientiaid go iawn. Mae’r wybodaeth yn ddefnyddiol iawn ac yn cael ei chyflwyno mewn ffordd ddiddorol.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Mae’r awyrgylch cyfeillgar, teuluol bron, y staff addysgu rhagorol, y rhaglen ddiddorol a chynhwysfawr, a’r teithiau maes a’r gwibdeithiau yn ystod y flwyddyn academaidd yn gwneud PCYDDS yn lle gwych i astudio.