
Graddio
Graduation gyda PCYDDS
Y Seremonïau Graddio yw uchafbwynt y calendr academaidd. Maent yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddathlu eu llwyddiannau gyda theulu a ffrindiau.
Seremonïau Graddio 2025
-
Dydd Iau, 26ain Mehefin 2025 – 11am a 4pm
Eastside Rooms, Birmingham -
Dydd Llun, 7fed Gorffennaf 2025 - 6pm
Dydd Mawrth, 8fed Gorffennaf 2025 – 10am a 2pm
Theatr Halliwell, Campws Caerfyrddin -
Dydd Gwener, 11eg Gorffennaf 2025 - 2pm
Campws Llambed -
Dydd Mawrth, 15fed Gorffennaf 2025 – 2.30pm
Dydd Mercher, 16eg Gorffennaf 2025 – 10.30am a 2.30pm
Neuadd y Brangwyn, Abertawe -
Dydd Mawrth, 22 Gorffennaf 2025
11.30am and 2.30pm
Barbican, Llundain -
Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2025
Amser y seremoni i’w gadarnhau
Neuadd y Brangwyn, Abertawe
Newyddion Graddio
FAQs
-
E-bostiwch marchnata@ydds.ac.uk ar unwaith. Bydd y tîm yn gwirio eich cofnod ac yn ailanfon y gwahoddiad os yn briodol.
-
Ewch i a theipio eich rhif myfyriwr a’ch cyfrinair. Ewch i ‘Graddio Myfyrwyr’ ar y dudalen Gartref a dilyn y cyfarwyddiadau.
-
Bydd angen i chi gyrraedd oddeutu ddwy awr cyn i’r seremoni ddechrau er mwyn rhoi amser i chi gasglu eich gwisg, rhif sedd a thocynnau gwestai. Fe fyddwn yn anfon gwybodaeth bellach ynghyd ag amserlen o ddigwyddiadau atoch wythnos cyn y seremoni.
Bydd angen i chi fod yn eich sedd 45 munud cyn amser dechrau’r seremoni ac yn ystod yr amser hwn byddwch yn eistedd yn y sedd a ddyrannwyd i chi a bydd y Prif Dywysydd yn eich briffio.
-
Os oes gennych chi neu’ch gwesteion anabledd / gofynion mynediad penodol y mae angen i ni wybod amdanynt, rhowch. manylion yn y blwch ‘Manylion pellach’ ar MyTSD a byddwn yn ymdrechu i ddiwallu eich anghenion.
Hefyd rhowch wybod i’r staff ar y diwrnod fel y gellir cynnig cymorth.
-
Gall gwesteion eistedd unrhyw le yn y lleoliad ar wahân i’r seddi neilltuedig a fydd wedi’u nodi’n glir. Ceir mynediad i’r lleoliad trwy docyn yn unig a rhaid rhoi tocynnau i’r Stiwardiaid wrth y drysau. Bydd y drysau’n agor i westeion tua awr cyn dechrau’r seremoni.
-
Rhaid i raddedigion wisgo gwisg academaidd trwy gydol eu seremoni. Mae pawb sy’n mynychu fel arfer yn gwisgo gwisg gymharol ffurfiol.
-
Ar ddechrau’r seremoni, bydd graddedigion a gwesteion yn sefyll fel y staff academaidd i’r neuadd. Yn dilyn croeso, bydd yr Is-Ganghellor a/neu uwch swyddogion eraill y Brifysgol yn eich annerch.
Ar ôl darlleniad o’r Cyhoeddiad, cyflwynir graddedigion i’r Is-Ganghellor (neu ei henwebai). Bydd staff yn eich annog i symud ymlaen yn y drefn yr ydych yn eistedd.
Bydd cyflwynydd yn darllen eich enw ar goedd ac ar yr adeg honno byddwch yn esgyn i’r llwyfan, yn cerdded tuag at yr Is-Ganghellor, yn ysgwyd ei llaw. Byddwch wedyn yn gadael y llwyfan ac yn dychwelyd yn ôl i’ch sedd.
Yna bydd yr Is-ganghellor yn gofyn i bob myfyriwr sefyll a bydd hi wedyn yn eich llongyfarch yn ffurfiol. Dylech “doff” mewn ymateb a pharhau i sefyll i dderbyn Cyfarchion y Brifysgol.
-
Gan edrych ar yr Is-Ganghellor, plygwch eich pen ychydig a naill ai cydiwch ym mhigyn blaen eich cap neu codwch eich cap ychydig.
-
Mae hyd y seremoni yn dibynnu ar nifer y myfyrwyr sy’n mynychu, ond fel arfer mae rhwng awr a 2 awr o hyd. Heblaw am eich cyflwyniad mae’n ofynnol i chi a’ch gwesteion aros yn eich sedd trwy gydol y seremoni.
-
Ѳ‵&Բ;RHAID i chi sicrhau eich bod chi wedi talu unrhyw ddyledion academaidd i’r Brifysgol. Cysylltwch â’r Swyddfa Gyllid ar unwaith i drafod eich opsiynau. Os oes gennych unrhyw ddyledion academaidd heb eu talu ac os nad ydych wedi gwneud unrhyw drefniadau gyda’r Swyddfa Gyllid i’w clirio, gallech chi gael eich eithrio o’r seremonïau graddio.
-
Cymuned o’n raddedigion yw’r Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr. Byddwch yn dod yn aelod yn awtomatig unwaith byddwch wedi gorffen astudio - does dim angen cofrestru. Byddwch yn derbyn e-bost croeso, felly mae’n bwysig cadw eich manylion cyswllt yn gyfredol ar MyTSD.
Dysgwch fwy am ddod yn a’r hyn sydd ar gael i chi.
-
Bydd tystysgrifau’n cael eu postio i raddedigion o fewn tua wyth wythnos i’r Bwrdd Dyfarnu.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich tystysgrif ar ôl yr amser hwn, cysylltwch â’r Gofrestrfa.Ni roddir tystysgrifau i fyfyrwyr nad ydynt wedi gwneud trefniadau gyda’r i glirio dyledion heb eu talu.
-
O hwdis i deis, tedis a matiau diod, gallwch brynu amrywiaeth o nwyddau Y Drindod Dewi Sant yn y Siop Raddio ar wefan neu ymwelwch â’r stondin nwyddau ar Ddiwrnod Graddio.
Dewch yn rhan o’n teulu o gyn-fyfyrwyr

Dewch yn rhan o’n teulu o gyn-fyfyrwyr
Rydym yma i’ch cefnogi a darparu gwasanaeth ar eich cyfer ymhell ar ôl i chi raddio. Beth am fanteisio ar y buddion niferus sydd ar gael i chi fel cyn-fyfyrwyr.