
Manteision i Gyn-fyfyrwyr
Manteision i Gyn-fyfyrwyr
Rydym ni yma i’ch cefnogi a darparu gwasanaethau ar eich cyfer ymhell ar ôl i chi raddio. Beth am fanteisio ar y buddion niferus sydd ar gael i chi fel cyn-fyfyrwyr?
Rydym ni’n parhau i weithio ar y cynigion hyn, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru ar gyfer ein e-gylchlythyrau fel eich bod yn derbyn ein gwybodaeth ddiweddaraf.
Manteision i Gyn-fyfyrwyr
Ydych chi eisiau astudio ymhellach ar ôl cwblhau eich gradd israddedig er mwyn adeiladu ar eich gwybodaeth a’ch arbenigedd? I’ch cynorthwyo i fynd ymlaen i ddilyn cwrs Ôl-raddedig yn PCYDDS, efallai y bydd disgownt ffioedd dysgu o hyd at £2,500 yn berthnasol trwy’r Disgownt Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir i Gyn-fyfyrwyr.
Pwy sy’n gymwys?
Gweler y meini prawf llawn ar dudalen Disgownt Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir i Gyn-fyfyrwyr
P’un a ydych yn chwilio am gyfleoedd i raddedigion neu wybodaeth am y farchnad swyddi, cewch eich cefnogi mewn nifer o ffyrdd drwy Gymorth Gyrfaoedd am hyd at ddwy flynedd.
Manteisiwch ar MyCareer sef platfform ar-lein am ddim sy’n rhoi mynediad i chi at fwrdd swyddi byw, cynllunydd gyrfa, gwiriwr CV awtomataidd, profiad ffug gyfweliad rhithwir, a llawer mwy. Yn syml, newidiwch i gyfrif ‘Alumni’ ar ôl i chi raddio.
Gall ein Cynghorwyr Gyrfaoedd hefyd gynnig help llaw gydag archwilio opsiynau gyrfa a chwilio am gyfleoedd, ac os ydych wedi cofrestru ar gyfer ein e-gylchlythyrau, cewch eich gwahodd i Ffeiriau Gyrfaoedd a drefnir lle gallwch rwydweithio a dod o hyd i gyfleoedd drwy ystod o gyflogwyr.
Pwy sy’n gymwys?
Pob cyn-fyfyriwr hyd at ddwy flynedd ar ôl gorffen astudio
Os ydych chi’n berchennog busnes neu’n weithiwr llawrydd, neu hyd yn oed â syniad rydych chi am ei ddatblygu, fel cyn-fyfyrwyr, gallwch gael mynediad at bob math o gefnogaeth i’ch helpu chi i dyfu eich busnes presennol neu ddatblygu eich syniadau newydd.
Gall ein Tîm Menter cyfeillgar a phrofiadol gynnig arweiniad un-i-un yn ogystal â’ch gwahodd i fynychu cwrs Dechrau Busnes a Gweithwyr Llawrydd am ddim sy’n ymdrin â hanfodion rhedeg busnes - o farchnata, cyllid a strwythurau cyfreithiol a threthi.
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i wneud cais am eu o hyd at £500 i helpu i ariannu eich menter fusnes newydd.
Pwy sy’n gymwys?
Mae cymorth ar gael i raddedigion am hyd at ddwy flynedd, gyda rhai gwasanaethau ar gael y tu hwnt i hynny lle bo hynny’n bosibl.
Gall cyn-fyfyrwyr ddefnyddio detholiad o’n hadnoddau ar-lein gan ddefnyddio cynllun cerdded i mewn sydd ar gael o gyfrifiaduron dynodedig ar ein campysau yng Nghaerfyrddin ac Abertawe
Mae croeso i chi ddefnyddio ein llyfrgelloedd at ddibenion cyfeiriol, a gallwch chwilio ein catalog i ddarganfod adnoddau sydd ar gael yn y lleoliadau amrywiol.
Os hoffech fenthyg eitemau ffisegol, gallwch ymuno â’r llyfrgell fel Benthyciwr Allanol drwy neu - bydd angen i chi wirio os ydych yn gymwys.
Os ydych wedi bod yn defnyddio RefWorks fel myfyriwr, gallwch newid i gyfrif alumni cyn graddio a chysylltu hwn â chyfeiriad e-bost personol er mwyn parhau i’w ddefnyddio.
Mae gofod ein llyfrgelloedd hefyd ar gael ar gyfer astudio neu ddarllen, ac os ydych yn ymweld, byddwch yn gallu cysylltu â’n Wi-Fi i Westeion yn rhad ac am ddim.
Pwy sy’n gymwys?
Cyn-fyfyrwyr y DU ond mae mynediad corfforol dim ond ar gael yng Nghaerfyrddin ac Abertawe
-
Ydych chi’n chwilio am le hyblyg gyda desgiau poeth yn Abertawe? Rydym yn cynnig 6 mis am ddim yn y Matrics Arloesi ar ein campws SA1 Glannau Abertawe i gyn-fyfyrwyr sydd wedi graddio o fewn y ddwy flynedd diwethaf.
Gallwch fwynhau amryw o fuddion, gan gynnwys:- Trwydded barcio am ddim
- Wi-Fi cyflym
- Mynediad i orsafoedd te cymunedol
- Mannau cyfarfod, gan gynnwys ystafell gynadledda a phodiau cyfarfod preifat
I hawlio eich chwe mis am ddim, cysylltwch â ni ar: im@pcydds.ac.uk
-
Beth am briodi ar eich campws prifysgol? Efallai mai dyma ble y gwnaethoch chi a’ch partner gyfarfod a syrthio mewn cariad? Mae cyn-fyfyrwyr yn gymwys i gael gostyngiad o 10% ar briodasau ar gampws Caerfyrddin neu Llambed. Bydd cydlynydd priodas hefyd yn eich tywys drwy’r manylion bob cam o’r ffordd.
Rhowch gipolwg ar y lleoliadau ac archebwch eich ymweliad ar wefan
-
Ydych chi’n ymweld â’r ardal ac yn chwilio am rywle i aros? Beth am aros ar y campws. Gall cyn-fyfyrwyr dderbyn gostyngiad o 20% ar archebion gwely a brecwast ar gampysau Llambed a Chaerfyrddin.
Archebwch eich arhosiad drwy ein tîm lletygarwch ar wefan
-
Ydych yn teithio i Abertawe? Rydym wedi partneru â Village Hotel Abertawe i gynnig cyfradd arbennig i’n cyn-fyfyrwyr ar wely a brecwast. Os hoffech dderbyn y cynnig hwn, cysylltwch â alumni@uwtsd.ac.uk.
-
-
Os ydych chi’n byw yn lleol neu yn yr ardal ac eisiau gweithio mas, mae ein Canolfannau Chwaraeon yng Nghaerfyrddin a Llambed yn cynnig bargeinion aelodaeth ardderchog i gyn-fyfyrwyr.
Aelodaeth Flynyddol: £145
Misol (Debyd Uniongyrchol): £20
Talu wrth fynd: £4
Ymwelch neu Cysylltwch â’n Canolfannau Chwaraeon a chymrwch olwg ar ein Cyfleusterau Chwaraeon.
-
Rydym wedi taro bargen â LC Abertawe sy’n cynnig bargeinion aelodaeth gwych i gyn-fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant.
Aelodaeth flynyddol: £270 (sy’n gyfystyr â £22.50 y mis)
Aelodaeth 3 mis: £70 (sy’n gyfystyr â dim ond £23 y mis)
Misol (Debyd Uniongyrchol): £30
Hefyd bydd aelodau’n cael budd o fynediad i gyfleusterau Freedom Leisure Abertawe i gyd, yn cynnwys:
-
Hyfforddi yn unrhyw un o’u 6 campfa’n cynnwys Llandeilo Ferwallt, Cefn Hen-goed, LC Abertawe, Treforys, Pen-lan a Phen-yr-heol
-
4 pwll â sesiynau nofio rhad ac am ddim
-
Timau ffitrwydd mewnol sydd wrth law i helpu gyda’ch cynnydd drwy raglenni ffitrwydd personol heb unrhyw gostau ychwanegol
-
3 awr o barcio RHAD AC AM DDIM yn Arena Abertawe
-
Mwy na 300 o ddosbarthiadau ffitrwydd yr wythnos ar draws pob un o’n canolfannau – mae modd eu bwcio i gyd ar-lein
-
Gostyngiad 20% yn Costa Coffee yn LC Abertawe, Treforys, Pen-lan, Pen-yr-heol
-
Gostyngiad 10% oddi ar driniaethau prydferthwch a chyfannol yn Sba LC.
-
Gostyngiad 10% oddi ar y lleoliadau canlynol: grŵp Secret Hospitality (The Lighthouse, Verdi’s, the Green Room) The Swigg, a’r Pump House
-
Gostyngiad 20% yn Plantasia drwy ddangos eich cerdyn LC
Rhowch wybod iddynt eich bod yn gyn-fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant wrth gofrestru am aelodaeth. Mae’n debyg y bydd angen cadarnhau hyn gyda’r tîm cyn-fyfyrwyr, wedyn byddwch yn barod i fynd!
Pwy all gael mynediad i’r gostyngiadau hyn?
Pob cyn-fyfyriwr.
-

Siop ar-lein
Ydych chi am goffáu eich amser yn y Drindod Dewi Sant drwy nwyddau a phethau cofiadwy? Yn Siop PCYDDS, mae cyn-fyfyrwyr yn cael budd o ostyngiad o 10% gan ddefnyddio cod ALUMNI10 a disgownt wrth brynu hwdi a het bobl gyda’i gilydd gan ddefnyddio cod TWOFOR30.
Yn ogystal â nwyddau, fe welwch ddeunydd ysgrifennu a chyflenwadau celf am brisiau gwych yma.
Digwyddiadau ac Aduniadau
Cyn belled â’ch bod wedi cofrestru ar gyfer e-gylchlythyrau ac wedi diweddaru eich manylion, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am unrhyw ddigwyddiadau rydym ni wedi’u cynllunio, yn cynnwys aduniadau, digwyddiadau rhwydweithio neu hyfforddi proffesiynol, ffeiriau gyrfaoedd a mwy. Mae bob amser croeso cynnes i chi ddod yn ôl i ymweld â’r campws lle roeddech chi’n astudio.
Mae gennym ni becynnau aduniad gwych ar gyfer campysau Caerfyrddin a Llambed a gallwn gynnig cymorth os hoffech chi drefnu aduniad i chi a’ch cyd-fyfyrwyr.