ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Introduction

Mae tîm Recriwtio Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i ysgolion a cholegau, yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae’r tîm yn darparu gwybodaeth allweddol ar gyrsiau, cyllid, bywyd myfyrwyr, sgiliau academaidd a llawer mwy. Ein nod yw hyrwyddo mynediad i Addysg Uwch i bawb, darparu gwybodaeth a chyngor o safon, a helpu i arwain myfyrwyr ar eu taith i’r brifysgol.

Rydym yn gweithio gyda myfyrwyr y DU, eu rhieni a’u gwarchodwyr, athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd, gan ddarparu gwybodaeth gywir am gyrsiau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ogystal â chyngor diduedd ar Addysg Uwch. Fel aelodau gweithredol o Gymdeithas y Swyddogion Cyswllt Addysg Uwch (HELOA) fe’ch sicrheir bod y wybodaeth a’r cyngor a ddarperir gan ein tîm yn wybodus ac o safon broffesiynol.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am yr hyn y gallwn ei gynnig i’ch Ysgol neu Goleg.

Introduction

Students working together in 1822 Cafe

Ymestyn Yn Ehangach

Nod Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De Orllewin Cymru yw cynyddu cyfranogiad mewn addysg uwch gan bobl o grwpiau a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol yn Ne Orllewin Cymru.

four students on beach playing in shallow water

Cwrs Preswyl Haf

Mae cyrsiau preswyl yn rhoi blas i fyfyrwyr 16-17 oed o fywyd prifysgol unigryw Y Drindod Dewi Sant.