
Sut i gyrraedd ein campws Llambed
Teithio i Lambed
Mae’r campws wedi’i leoli yng nghanol tref Llanbedr Pont Steffan (Llambed). Dyma dref llawn hanes a diwylliant. Mwynhewch groeso a lletygarwch y gymuned leol.
Rydym wedi creu’r dudalen hon er mwyn rhoi’r holl wybodaeth byddwch ei hangen i gyrraedd ein campws yn Llanbed yn ddidrafferth. Boed yn drip lleol neu’n daith o bell, ein nod yw sicrhau bod eich taith mor ddi-ffwdan â phosibl.
Lleoliad ein Campws Llambed
PCYDDS, Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan SA48 7ED
-
Gorsafoedd trenau agosaf Llambed yw Caerfyrddin ac Aberystwyth ac mae trenau’n rhedeg yn rheolaidd o ddinasoedd a threfi mawr. Gallwch gynllunio eich taith trên yn Traveline.cymru.
O Gaerfyrddin ac Aberystwyth, gallwch ddal un o’r bysiau rheolaidd sy’n rhedeg i Lambed. Ceir manylion am y gwasanaethau bws o dan yr adran ‘Bws’ uchod.
-
Mae gwasanaeth bws lleol Llambed yn cynnig llwybrau rheolaidd sy’n cysylltu gwahanol rannau o’r dref, gan gynnwys ein campws. Mae bysys yn rhedeg yn o ddwy dref gyfagos Caerfyrddin ac Aberystwyth
-
Os ydych chi’n gyrru i PCYDDS, Campws Llambed, Ffordd y Coleg, Llambed, SA48 7ED
Diwrnodau Agored
Os ydych chi’n mynychu diwrnod agored, mae parcio ar gael ar gampws Llambed.
Parcio i Ymwelwyr
Rhaid i ymwelwyr â’r Drindod Dewi Sant dalu am barcio. Rhaid cofrestru pob cerbyd, boed wedi’i gymeradwyo ymlaen llaw ai peidio, wrth gyrraedd, ac mae taliadau parcio yn berthnasol yng Nghaerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan, gydag oriau gorfodi a chyfraddau penodol; Mae’n rhaid i unrhyw HTC a roddir cael eu trin trwy Parking Eye.
Parthau Parcio
Er mwyn sicrhau ateb ymarferol o ran rheoli parcio, mae’r lleoedd ar y campws wedi eu rhannu’n barthau, fel y gwelir ar Fapiau Parcio Llambed. Mae’r rhain yn cynnwys:
Mannau dynodedig ar gyfer:
- staff
- deiliaid bathodyn glas (wedi eu marcio yn y meysydd parcio)
- myfyrwyr
Cynllunio eich Taith

Teithio Gwyrdd
Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.
Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.
Parcio
Cyflwynodd Campws Llambed System Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig ym mis Chwefror 2023.
Mae parcio ar y campws yn rhad ac am ddim i ddeiliaid trwydded yn unig, gall ymwelwyr barcio ar y campws ond rhaid talu i barcio trwy un o’r mesuryddion talu neu’r Ap PayByPhone ar yr arwyddion sydd ar gael.