Coleg Celf Abertawe

Profiad Ysgol Gelf mewn Prifysgol Gyfoes
Nid oes addysg brifysgol arall yn debyg i addysg coleg celf. Mae’n unigryw yn y ffordd y mae’n meithrin, cyfarwyddo ac annog unigoliaeth, creadigrwydd ac arloesi.
Mae gan y DU ystod gyfoethog ac amrywiol o golegau celf sydd â threftadaeth arbennig o gynhyrchu artistiaid, dylunwyr, animeiddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau a pherfformwyr a gydnabyddir ar draws y byd. Yn goleg celf hynaf a mwyaf sefydledig Cymru, mae Coleg Celf Abertawe yn rhan uchel ei pharch o’r traddodiad hwnnw.
Beth gallaf astudio?
Mae gan ein holl gyrsiau athroniaeth gyffredin; galluogi unigoliaeth, rhyddid creadigol a hyblygrwydd academaidd, ac rydym yn credu bod y rhain i gyd yn hanfodol wrth ddod o hyd i’ch llais eich hun o fewn eich dewis faes creadigol.

I Ôl-raddedigion
Mae ein Portffolio MA Deialogau Cyfoes yn creu llwyfan dysgu unigryw a ddefnyddir i annog myfyrwyr i ehangu eu profiad creadigol trwy arbrofi, cydweithio a disgwrs ryngddisgyblaethol.

Sioeau Haf
Mae ein Sioeau Haf yn arddangos gwaith eithriadol ein myfyrwyr sy’n graddio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol.
Bydd yr arddangosfeydd a pherfformiadau yn cael eu cynnal yng Ngholeg Celf Abertawe, Caerfyrddin, Chaerdydd a Llundain trwy gydol mis Mai, Mehefin a Gorffennaf.
Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i artistiaid, dylunwyr a pherfformwyr sefydlog yn ogystal â darpar artistiaid, darlunwyr a pherfformwyr brofi’r gwaith arloesol ac ysbrydoledig a gynhyrchwyd gan ein myfyrwyr.
Statistics
Mwy o opsiynau

I Brentisiaid
Cydnabyddir Coleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant yn un o ganolfannau rhagoriaeth y DU mewn gwydr lliw. Mae gan yr adran dreftadaeth gyfoethog mewn addysg gwydr lliw ac mae ganddi archif gwefreiddiol o ddyluniadau’n rhychwantu 80 mlynedd, sy’n darparu adnodd addysgu amhrisiadwy.

Dosbarthiadau Nos i Chi
Mae’r rhaglen Celf Liw Nos yn cael ei chynnal drwy’r flwyddyn ac mae’n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau creadigol, gan gynnwys serameg, ffotograffiaeth, a darlunio.

Y Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP)
Y Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP) yw cainc fasnachol yr adran enwog yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe.
Newyddion
Mae’r cwrs BA Darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi croesawu 40 o fyfyrwyr o Brifysgol Technoleg Wuhan yn rhan o Ysgol Haf Tsieineaidd ehangach PCYDDS, menter sydd â’r bwriad o gynnig profiad dynamig a throchol i fyfyrwyr rhyngwladol yn addysg uwch y DU.

Mae Katie Rees, a raddiodd yn BA (Anrh) mewn Dylunio Graffeg o Goleg Celf Abertawe ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi cael ei hanrhydeddu â Gwobr Llywydd Cymdeithas yr Hen Dy'voriaid yn seremoni raddio'r brifysgol a gynhaliwyd yn Neuadd Brangwyn yn Abertawe.

Llongyfarchiadau i Nancy Akuffobea, graddedig BA Darlunio Coleg Celf Abertawe o’r Brifysgol, y mae ei murlun trawiadol, a ddadorchuddiwyd yng nghanol y ddinas y tu allan i Adeilad Dynevor y Brifysgol, eisoes yn dod â lliw beiddgar a chyfoeth diwylliannol i ofod cyhoeddus ac yn nodi carreg filltir bwysig mewn taith greadigol bersonol a phwerus iawn. Â

Mae wal goncrit a oedd gynt yn ddi-nod yn Fferm Brynau, sef sefydliad Woodland Trust, yng Nghastell-nedd, wedi’i thrawsnewid yn ddarn o gelf fywiog ac ysbrydoledig, diolch i Ellie Jones, sy’n graddio heddiw gyda BA mewn Darlunio o Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (UWTSD). Â

Llongyfarchiadau i fyfyriwr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Lewis Parry sy'n graddio heddiw gyda BA mewn Dylunio Cynnyrch a Dodrefn. Mae cadair wedi'i hysbrydoli gan ganol y ganrif a ddyluniwyd gan Lewis eisoes wedi denu sylw nid yn unig am ei chrefftwaith cain ond hefyd am y stori nodedig y tu ôl i'w chreu, gan arwain at gyflwyniad i Abaty Westminster ei hun.Â

Mae myfyrwyr blwyddyn olaf rhaglen Dylunio Patrymau Arwyneb a Thecstilau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu ar ôl creu argraff arbennig yn New Designers 2025, un o brif arddangosfeydd dylunio graddedigion y DU.

Digwyddiadau
Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth - Sioe Diwedd Blwyddyn
Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth - Sioe Diwedd Blwyddyn

New Designers: Wythnos 1
New Designers: Wythnos 1

±Ê±ð²Ô²õ²¹±ð°ù²Ôï²¹±ð³Ù³ó - Sioe Diwedd Blwyddyn
±Ê±ð²Ô²õ²¹±ð°ù²Ôï²¹±ð³Ù³ó - Sioe Diwedd Blwyddyn

New Designers: Wythnos 2
New Designers: Wythnos 2

Arddangosfa Celf Gain a Ffotograffiaeth - Oriel Copeland, Llundain
Arddangosfa Celf Gain a Ffotograffiaeth - Oriel Copeland, Llundain

Goodwood Festival of Speed
Goodwood Festival of Speed

Cynhadledd Ryngwladol Residuum 2025
Cynhadledd Ryngwladol Residuum 2025

Noson Agored Coleg Celf Abertawe (PCYDDS)
Ymunwch â ni yn ein Noson Agored yn SA1 Glannau Abertawe

Diwrnod Agored Coleg Celf Abertawe (PCYDDS)
Ymunwch â ni yn ein Noson Agored yn SA1 Glannau Abertawe

Coleg Celf Abertawe SIOEAU GRADDIO HAF 2025
Coleg Celf Abertawe SIOEAU GRADDIO HAF 2025
