ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Oliver Kucyj - Peirianneg Drydanol ac Electronig (BEng)

Oliver Kucyj yn PCYDDS

The UWTSD coat of arms fixed to a modern wall of red brick.

Enw: Oliver Kucyj

Cwrs: BEng Peirianneg Drydanol ac Electronig

Astudiaethau Blaenorol: HNC Peirianneg Drydanol ac Electronig, Coleg Sir Benfro 

Tref eich cartref: Aberdaugleddau

Profiad Oliver ar BEng Peirianneg Drydanol ac Electronig

Yr olygfa ar draws doc sych Tywysog Cymru sydd o dan ddŵr, tuag at Adeilad IQ, Llyfrgell y Fforwm a thri bloc o fflatiau modern.

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Roeddwn i’n meddwl bod y cyfleusterau’n fodern iawn ac yn cynnig popeth y byddai rhywun ei angen.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais i PCYDDS gan fy mod i wedi clywed pethau da am y brifysgol, ac fe wnes i fy HNC yng Ngholeg Sir Benfro trwy PCYDDS. Roedd hwn yn llwybr amlwg i astudio fy nghwrs gradd. 

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Bues i’n gweithio i Consort Ltd fel Peiriannydd Trydanol am y ddwy flynedd gyntaf. Wedyn, 12 mis cyn diwedd fy nghwrs, dechreuais weithio i EDF. Y tu allan i’r gwaith, rwy’n mwynhau mynd ar deithiau cerdded, pysgota a mynd i’r gampfa. 

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Byddaf yn graddio yr haf hwn, ac rwy’n gweithio i EDF yn HPC. Dros yr haf, byddaf yn mynd i Baris am 9 mis i gael hyfforddiant.

Rwy’n credu bod y cyfuniad o weithio ym maes peirianneg ac astudio yn PCYDDS wedi bod yn allweddol i fy natblygiad, ac yn bendant mae wedi fy helpu i gael y swydd sydd gen i nawr.

Ddysgais i am ochr ymarferol pethau yn fy ngwaith gyda Consort (fy hen swydd), tra bo’r darlithwyr yn PCYDDS yn dysgu’r ochr ddamcaniaethol i mi, er eu bod nhw hefyd yn dda iawn am ddysgu’r pynciau mewn cyd-destun ymarferol go iawn hefyd.

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Fy hoff beth am y cwrs oedd dysgu gwybodaeth fanwl am amrywiol bynciau o fewn Peirianneg Drydanol ac Electronig.

Cell waith rheoli diwydiannol: bwrdd cymhleth yn cynnwys switsys rheoli, silindrau niwmatig a goleuadau LED.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn yn argymell PCYDDS i unrhyw un. Mae’r cyfleusterau’n ardderchog, ac mae’r darlithwyr yn gwneud eu gorau glas i’ch helpu.

Fe wnaethon nhw fy nghefnogi trwy’r cyfnod o newid swydd. Gyda’r swydd newydd, a symud i Baris yn yr haf, byddai wedi bod yn anodd i mi barhau i astudio’r 12 mis oedd yn weddill o’m cwrs. Fe wnaeth PCYDDS ganiatáu i mi orffen fy holl waith yn gyflym, erbyn mis Ionawr 2024. Roedd hyn yn amhrisiadwy i mi. 

Gwybodaeth Gysylltiedig