
Cymorth Dysgu
Cymorth Dysgu sydd ar gael
Rydym wedi ymrwymo i’ch llwyddiant academaidd ac yn credu bod taith addysgu pob myfyriwr yn unigryw. Mae ein Tîm Cymorth Dysgu wedi’i gynllunio i’ch grymuso â’r offer a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i ragori yn eich astudiaethau.
P’un ai a ydych yn chwilio am help gyda strategaethau astudio, rheoli amser, neu bwnc penodol, mae ein tîm yma i’ch helpu. Gall pob myfyriwr gael mynediad i’n sesiynau Sgiliau Astudio a threfnu amser i weithio un-i-un gyda’n tîm sgiliau astudio.
Cymorth Sgiliau Astudio
Mae cymorth Sgiliau Astudio ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant sydd angen cymorth â’u hastudiaethau.
Dydd Llun |
|
Dydd Mawrth |
|
Dydd Mercher |
|
Dydd Iau |
|
Dydd Gwener |
|
Mae’r holl sesiynau’n cael eu gwneud yn bell ar hyn o bryd.
Dewch i loywi’ch sgiliau astudio er mwyn cyflawni’ch potensial o’r lefel Sylfaen i’r lefel Ôl-raddedig. Cynlluniwyd y gefnogaeth hon i ychwanegu at, ac ni cymryd lle, addysgu a chyngor pwnc-benodol a ddarperir gan eich tiwtoriaid academaidd.
-
- cyfeirnodi
- cynllunio a threfnu
- meddwl critigol
- ´Ç²õ²µ´Ç¾±&²Ô²ú²õ±è;±ô±ôê²Ô-±ô²¹»å°ù²¹»å
- pharatoi ar gyfer arholiadau
- sgiliau cyflwyno
- ymchwil
- ysgrifennu academaidd
Nid sesiynau prawf-darllen yw sesiynau Sgiliau Astudio!
SoCom
Grŵp Cymorth Cymdeithasol a Chyfathrebu
- Ydy normau cymdeithasol yn peri dryswch i chi?
- Ydych chi weithiau’n siarad yn swrth, neu’n gweithredu’n ddifeddwl, ac wedyn wrthi am oes yn dadwneud y canlyniadau?
- Ydych chi’n cael trafferth deall mân siarad a jôcs?
- Ydy lleoedd llawn pobl yn codi ofn arnoch chi?
- Ydych chi’n teimlo’n unig, yn ynysig neu heb gymorth?
- Ydych chi’n anhrefnus ac anniben ac yn teimlo dan straen?
Mae SoCom yn cynnig syniadau a gweithgareddau sydd wedi’u hanelu at annog mwy o hunan-barch, a’r gallu i ddeall ac ymdopi â materion yn ymwneud ag anawsterau cymdeithasol a chyfathrebu, gyda’r potensial o ddatblygu grŵp newydd o ffrindiau a rhwydwaith cymorth newydd. Mae cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd yn ddewisol.
°Õ³ó±ð³¾Ã¢³Ü’r&²Ô²ú²õ±è;³§±ð²õ¾±²â²Ô²¹³Ü
- Trefn ac arfer.
- ±Ê°ù´Ç²õ±ð²õ³Ü’r&²Ô²ú²õ±è;²ú²â»å.
- Perthnasoedd a chyfathrebu.
- Targedu aseiniadau.
- Datrys gwrthdaro a seicoleg.
- Cyflogadwyedd a newid.
Bydd llyfrgell o adnoddau ar gael drwy gydol y flwyddyn i chi eu defnyddio hyd yn oed os na fyddwch yn mynychu’r sesiynau grŵp.