ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Llety yn Abertawe

Os ydych yn bwriadu byw oddi cartref tra byddwch yn y brifysgol, mae’n debyg mai llety sydd ar frig eich rhestr o ystyriaethau. Mae poblogaeth enfawr o fyfyrwyr yn byw yn Abertawe, ac felly bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn rhoi digon o ddewis i chi.


Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich tywys drwy eich opsiynau a chynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr gyda ni.


Bydd myfyrwyr sy’n aros mewn llety nad yw’n eiddo i’r brifysgol yn dal i allu defnyddio gwasanaethau fel y tîm iechyd meddwl, cyngor ariannol a mwy. 


Bydd y swyddfa lety ar gael i gefnogi a rhoi cyngor ynghylch ble mae myfyrwyr PCYDDS yn aros er mwyn i chi allu bod o gwmpas myfyrwyr sy’n astudio gyda ni.

Watch our Swansea Student Living video.

Yr hyn sydd gan Lety Preifat yn Abertawe i’w Gynnig

Ar hyn o bryd rydym yn argymell y llety preifat canlynol yn Abertawe:

St Davids (Student Roost)

Crown Place

Wedi’i leoli yng nghanol Abertawe.


Mae amrywiaeth eang o lety myfyrwyr ar gael yn ein lleoliad yn Abertawe, o stiwdios chwaethus i ystafelloedd en-suite mawr, pob un â’r biliau wedi’u cynnwys. 

Wedi’i leoli ar y glannau ac yn edrych dros Farina Abertawe ac Afon Tawe, mae Crown Place mewn lleoliad perffaith ar gyfer ein campws SA1.


Mae sawl math o ystafell i ddewis ohonynt. P’un ai eich bod eisiau preifatrwydd eich stiwdio eich hun neu gymysgu â myfyrwyr o’r un anian mewn clwstwr o ystafelloedd en-suite. 

  • Os ydych chi’n chwilio am tÅ· yw rannu neu fflat stiwdio, bydd y wefan hon yn rhoi amrywiaeth o opsiynau i chi. 

    Maen nhw’n cynnig amrywiaeth o tai a allai weddu i’ch anghenion, p’un a ydych ar ôl rhannu tÅ· eang neu fflat stiwdio clyd.

  • Os ydych yn chwilio am dÅ·, fflat neu lety pwrpasol i fyfyrwyr, bydd y wefan hon yn rhoi amrywiaeth o opsiynau i chi. Yn cynnig dewis o gartrefi i gwrdd ag anghenion amrywiol.

Beth sydd gan y Llety Preifat yn Abertawe i’w gynnig

01
Mae fflatiau stiwdio a fflatiau clwstwr gydag ystafelloedd gwely en-suite ar gael ledled y ddinas, sy'n golygu bod digon o opsiynau i ddewis ohonyn nhw.
02
Mae llawer o ddarparwyr yn cynnig ystafelloedd sinema, bariau, lle i storio beic a mannau astudio cymunedol.
03
Mae biliau cyfleustodau a WI-FI wedi’u cynnwys.
04
Diogelwch 24 awr.
05
Hunanarlwyo.
06
Mae rhai darparwyr yn gofyn am flaendal, tra bod eraill ddim.
  • Unwaith y byddwch wedi cael ystafell mewn neuadd, efallai y bydd arnoch eisiau dechrau meddwl am beth i’w ddod gyda chi i’r campws.

    Siop ar-lein yw UniKitOut sy’n cynnig arbedion ENFAWR ar lawer o’r eitemau a ganlyn:

    • Pecynnau Dillad Gwely
    • Pecynnau Cegin
    • Pecynnau Ystafell Ymolchi a Thyweli
    • Pecynnau Cyfun Myfyrwyr
    • Offer Trydanol
    • Ategolion a llawer iawn mwy!

    Unwaith y byddwch yn prynu eitemau, gallwch ofyn iddynt gael eu hanfon yn uniongyrchol i’ch ystafell fel eu bod yn aros yno amdanoch chi pan fyddwch yn cyrraedd.

Myfyrwyr Caerfyrddin yn gwenu gyda phâr o gadeiriau plygu wedi'i brandio.

Cysylltu â'r Tîm Llety

Mae ein tîm llety yma i’ch helpu chi i wneud y dewis cywir er mwyn helpu i greu’r profiad prifysgol rydych chi’n ei ddymuno.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lety boed yn ymwneud â hygyrchedd, opsiynau llety neu gwestiynau penodol am eich sefyllfa mae ein tîm llety wrth law i helpu.