ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Disgownt Ôl-raddedig a Addysgir i Gyn-fyfyrwyr Rhyngwladol

Disgownt Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir i Gyn-fyfyrwyr

Amdan y Bwrsari Disgownt ffioedd dysgu er mwyn i Raddedigion Rhyngwladol PCYDDS symud ymlaen i astudiaeth Ã´l-raddedig.
Cymwys/Meini Prawf
  • Bydd pob myfyriwr rhyngwladol presennol (ac eithrio rhai’r UE) sy’n astudio a chwblhau cwrs israddedig sy’n dwyn dyfarniad, llawn amser neu ran amser, yn PCYDDS, yn gymwys wrth symud ymlaen i gwrs ôl-raddedig maent yn ei ariannu eu hun.
  • Bydd gan bob un o gyn-fyfyrwyr rhyngwladol PCYDDS (ac eithrio rhai’r UE) sydd wedi cwblhau cwrs israddedig sy’n dwyn dyfarniad, hawl i’r disgownt, yn amodol ar yr eithriadau isod ynghylch ysgoloriaethau a nawdd.
  • Mae’n rhaid bod ymgeiswyr yn gwneud cais am raglen Ôl-raddedig a Addysgir (MA, MTh, MRes, MSc, MBA, a TAR ac eithrio PgCert a PgDip) wedi’i lleoli ar un o’n campysau yng Nghymru.
  • Nid yw’r disgownt hwn yn berthnasol i gyrsiau TAR.
  • Mae’n rhaid bod ymgeiswyr wedi cwblhau eu gradd israddedig o fewn y 2 flynedd diwethaf.
  • Mae’n rhaid i’r rhai sy’n gymwys i gael y disgownt fodloni’r gofynion mynediad arferol ar gyfer y cwrs.
  • Nid yw myfyrwyr sydd eisoes yn derbyn ysgoloriaeth gan y Brifysgol ar gyfer y cwrs byddant yn symud ymlaen iddo yn gymwys ar gyfer y disgownt hwn.
  • Nid yw myfyrwyr sydd eisoes yn derbyn ysgoloriaeth gan noddwr allanol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r noddwyr hynny y mae gan y Brifysgol gytundeb nawdd gyda nhw, ar gyfer y cwrs hwn, yn gymwys ar gyfer y disgownt hwn.
Sut i wneud cais Bydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso’n awtomatig ar gyfer cyn-fyfyrwyr cymwys. 
Gwybodaeth Ychwanegol Bydd y gostyngiad ffioedd hwn yn cael ei ddyfarnu’n pro-rata gyda chost y rhaglen a dwyster yr astudio. Mae’r £3,000 llawn ar gyfer cyrsiau sy’n costio £7,500 neu fwy.
Gwerth y Gwobr Hyd at £3,000