Cyflwyniad
Darganfyddwch sut mae symud o safon yn ystod plentyndod cynnar yn hanfodol er mwyn gosod sylfeini gweithgarwch corfforol, iechyd, llesiant a chanlyniadau academaidd.
Credwn y dylai rhaglenni megis SKIP Cymru gael eu rhoi ar waith ledled y wlad i sicrhau bod pob plentyn yn datblygu’r Sgiliau Echddygol Sylfaenol hanfodol y mae eu hangen arnynt i’w harfogi ar gyfer blynyddoedd yn ddiweddarach yn eu hoes.
Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Senedd Cymru
Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau hyfforddi ar gyfer ymarferwyr plentyndod cynnar, yn bwrpasol ar gyfer lleoliadau addysg a darpariaeth cyn ysgol yn ogystal â chyrsiau sydd wedi’u teilwra ar gyfer hyfforddwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau cymunedol. Gweler mwy am ein cyrsiau isod.
Pam mae’r hyfforddiant hwn mor bwysig?
Mae’r hyfforddiant hwn yn helpu i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol o anweithgarwch, gorbwysedd a gordewdra ymhlith plant, dirywiad mewn iechyd a chanlyniadau academaidd gwael.
Gall ymarferwyr o sefydliadau addysg, iechyd, cymunedol a theuluol gefnogi iechyd a llesiant plant drwy ddeall sut…
- Mae angen symud o safon yn y blynyddoedd cynnar ar gyfer datblygiad corfforol
- Mae symud yn ystod plentyndod cynnar yn creu cysylltiadau yn yr ymennydd ac yn cefnogi lleferydd, iaith a llythrennedd.
- Mae sgiliau symud hanfodol yn sail i weithgarwch corfforol ac iechyd yn ddiweddarach
- Ni chaiff pob sgil ei datblygu drwy chwarae’n unig ac mae angen eu haddysgu mewn ffordd ddatblygiadol briodol i fodloni anghenion penodol pob plentyn
- Mae datblygiad corfforol plant yn hanfodol i hunan-barch, hyder a gwydnwch, gan gefnogi iechyd meddwl a llesiant.
Holi am ein hyfforddiant
I gael gwybod am ddyddiadau cyrsiau ac i gadw lle ar gwrs, anfonwch e-bost at kirsty.edwards@pcydds.ac.uk