ĂÜĚŇ´«Ă˝

Skip page header and navigation

Llety ar Gampws Caerfyrddin

O ran llety yng Nghaerfyrddin, mae gennym nifer o opsiynau ar gael. Mae ein llety cyfforddus wedi’i leoli ar y prif gampws, o fewn neuadd breswyl sy’n eiddo i’r brifysgol. Drwy ddewis aros gyda ni, byddwch ond tafliad carreg o’ch ardaloedd astudio a phopeth sydd gan ein campws bywiog yng Nghaerfyrddin ei gynnig.

"Diolch yn fawr i chi am yr holl gefnogaeth a’ch cymorth wrth helpu ein mab Lewis i setlo yn y Neuaddau dros y tair blynedd diwethaf gan gynnwys yn ystod Covid-19. Rydym yn hynod ddiolchgar am eich holl gefnogaeth a’ch cymorth anhygoel.”
Cyn-fyfyriwr

Watch our Carmarthen Student Living video

Main body

external image outside Carmarthen campus accommodation by entrance

Gwarant o Lety ar gyfer Myfyrwyr y Flwyddyn 1af

Nodwch PCYDDS fel eich dewis cadarn, ac fe wnawn ni warantu llety i chi ar gyfer eich blwyddyn gyntaf. Mae preswylfeydd ein Prifysgol yn cynnig ymdeimlad o gymuned i chi sy’n creu’r cartref oddi cartref perffaith. Mae Campws Llambed yn cynnwys 156 o ystafelloedd en-suite hunanarlwyo sengl ac 84 o ystafelloedd sengl sydd â chyfleusterau a rennir.

Beth sydd gan y Llety yng Nghaerfyrddin i’w gynnig

01
Dewis o lety hunanarlwyo en-suite.
02
Mae biliau cyfleustodau a WI-FI wedi’u cynnwys.
03
Gwarant o lety ar gyfer myfyrwyr sy’n nodi PCYDDS fel eu dewis cadarn.
04
Diogelwch 24 awr.
05
Gall myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ofyn am gael eu lleoli mewn fflat/ardal gyda siaradwyr Cymraeg eraill.
06
Amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon, hamdden ac arlwyo ar y safle.

Accordions

  • Bydd ceisiadau ar gyfer y Flwyddyn Academaidd 2025/2026 yn agor ddydd Llun 3 Mawrth 2025.

    Bydd angen i Fyfyrwyr Newydd gofrestru ar Hallpad, bydd arnoch angen eich rhif myfyriwr a’ch dyddiad geni. Ar Ă´l i chi gofrestru byddwch wedyn yn gallu cwblhau’r ffurflen gais a’i chyflwyno.

    Bydd angen i Fyfyrwyr sy’n Dychwelyd fewngofnodi i Hallpad, os ydych wedi anghofio’ch manylion cewch ofyn i’r system eu hailosod.  Fel myfyriwr sy’n dychwelyd, byddwch yn gallu rhoi gwybod i ni ar eich ffurflen gais gyda phwy yr hoffech fyw.

    Ceir dau arddull o ystafell ar ein campws yng Nghaerfyrddin, i gyd wedi eu lleoli mewn fflatiau o 8 ystafell wely sy’n rhannu cegin a lofa, sef:-

    • Ystafell Arddull Cyfredol – ystafell en-suite gyda gwely sengl
    • Ystafell Arddull Newydd – en-suite gyda gwely pedair troedfedd

    Sut i wneud cais am Lety?

    Y Porth Llety

    Mewngofnodwch i’r Porth Llety (Hallpad)

    Mae’r Porth Llety yn wasanaeth ar-lein er mwyn gwneud cais a sicrhau llety ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, campws Caerfyrddin.

    Mewngofnodwch fel a ganlyn:

    • Myfyrwyr Israddedig Newydd â€“ O dan â€Defnyddiwr Tro Cyntaf’ cliciwch ar â€wirio eich bod yn gymwys ar gyfer Llety’r Brifysgol’, bydd angen eich rhif myfyriwr PCYDDS, a roddir i chi gan ein Cofrestrfa, a’ch dyddiad geni i’w gwblhau.  Ar Ă´l cofrestru byddwch wedyn yn gallu cwblhau’ch cais.
    • Myfyrwyr cyfredol – Mewngofnodwch i “Wedi Cofrestru” – os ydych wedi anghofio’ch manylion cewch ofyn i’r system eu hailosod, os cewch anawsterau o hyd e-bostiwch accommodation@uwtsd.ac.uk os gwelwch yn dda a gallwn ailosod eich â€Cyfeiriad E-bost’ a’ch â€Cyfrinair’ ar eich rhan.
    • Myfyrwyr Astudio Tramor a Chyfnewid â€“ Cewch wneud cais ar gyfer llety ar gampws Caerfyrddin y Brifysgol unwaith bod eich cais wedi bod yn llwyddiannus.  

    Polisi Dyrannu Llety

    Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ymdrechu i ddarparu ar gyfer cymaint o fyfyrwyr â phosibl; fodd bynnag, mae’n ddrwg gennym na allwn gadarnhau llety prifysgol i bob ymgeisydd. Lle na allwn gynnig lle, byddwn yn cefnogi myfyrwyr i ddod o hyd i lety preifat lle bo modd.

    • Gallwn gynnig lle mewn llety prifysgol i israddedigion blwyddyn gyntaf newydd sy’n dewis PCYDDS fel eu Dewis Cadarn a’n gwneud cais am lety erbyn 31ain o Orffennaf 2025.
    • Bydd myfyrwyr sy’n dychwelyd ac yn astudio ar ein campws yn Llambed ar hyn o bryd yn cael sicrwydd o ystafell mewn llety yng Nghaerfyrddin os byddant yn gwneud cais erbyn y 6ed o Fai 2025.
    • Rhaid i fyfyrwyr Caerfyrddin sy’n dychwelyd gyflwyno eu cais erbyn 30ain o Fehefin 2025.
    • Gan y gallai’r galw fod yn fwy na’r argaeledd, rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr sydd:
      • Wedi cofrestru ar gwrs llawn amser yn PCYDDS
      • Yn dychwelyd ac yn fyfyriwr ar Gampws Llambed 
      • Yn byw yn rhy bell i ffwrdd i drafaelu neu sicrhau llety rhent preifat
      • Ă‚ anghenion cymdeithasol a/neu gorfforol arbennig

    Bydd cynnig llety pob myfyriwr sydd wedi gwneud cais yn cael ei gadarnhau ar Ă´l 14 Awst 2025.
    Os na allwn gynnig llety prifysgol i chi, byddwn yn eich cynorthwyo i archwilio opsiynau tai preifat lle bo modd. 

    Contract Meddiannaeth

    Mae’r Contract Meddiannaeth Llety yn gontract cyfreithiol rhyngoch chi a’r Brifysgol sy’n gosod eich ymrwymiadau chi ac ymrwymiadau’r Brifysgol.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall y telerau ac amodau.

    Cysylltu â’ch Cyd-Breswylwyr

    Os hoffech gysylltu â’ch cyd-breswylwyr newydd, rhoddwn fanylion tudalennau cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol i chi lle gallwch chwilio amdanynt.   

    Manylion Talu

    Wedi cyrraedd yn eich cartref newydd, fe gewch e-bost oddi wrth yr Adran Gyllid gyda’ch anfoneb flynyddol a dolen i dalu am eich rhenti cyntaf.  Bydd gyda chi ddewis i dalu’n flynyddol neu bob tymor.

    Rhaglen Gynefino

    Cyn i chi gyrraedd, bydd angen i chi gwblhau’r Rhaglen Gynefino a fydd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am fyw yn llety’r Brifysgol.

    Cysylltir â chi drwy e-bost pan fydd y Rhaglen Gynefino ar gael i chi ei chwblhau.

    °ä˛ą˛Ô˛ő±ô´Ç’cłó&˛Ô˛ú˛ő±č;´ˇ°ůł¦łó±đ˛ú

    Cewch ganslo’ch archeb unrhyw bryd cyn symud i mewn drwy fewngofnodi i’r porth.

    Beth sy’n digwydd nesaf?

    Sylweddolwn mai dyma fydd y tro cyntaf i lawer ohonoch fyw oddi cartref efallai, felly rydym wedi rhoi llyfryn “Croeso i’ch Llety” at ei gilydd a anfonir atoch drwy e-bost pan fyddwn yn cadarnhau y neilltuwyd ystafell ar eich cyfer.  

  • Math Newydd, En-suite – 64 Ystafell

    En-suite, Sengl – 216 Ystafell

    Two students chatting in student accommodation

    Contract Meddiannaeth 38 wythnos yn rhedeg

    • Dydd Sadwrn, 20 Medi 2025 (Diwrnod Cyrraedd)
    • Dydd Sadwrn, 13 Mehefin 2026 (Diwrnod Ymadael)

    Ffioedd

    • ÂŁ5,285.80 y flwyddyn
    • ÂŁ139.10 yr wythnos

    Ffioedd Fesul Tymor

    • Tymor 1: ÂŁ2,086.50
    • Tymor 2 : ÂŁ2,086.50
    • Tymor 3 : ÂŁ1,112.80
       
    Accommodation image student sitting on bed

    Contract Meddiannaeth 38 wythnos yn rhedeg

    • Dydd Sadwrn, 20 Medi 2025 (Diwrnod Cyrraedd)
    • Dydd Sadwrn, 13 Mehefin 2026 (Diwrnod Ymadael)

    Ffioedd

    • ÂŁ4,066.00 y flwyddyn
    • ÂŁ107.00 yr wythnos

    Ffioedd Fesul Tymor

    • Tymor 1: ÂŁ1,605.00
    • Tymor 2 : ÂŁ1,605.00
    • Tymor 3 : ÂŁ856
       
  • Bydd ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 yn agor 3 Mawrth 2025. 

    Byddwch yn cael cynnig lle yn y llety hunanarlwyo yn neuadd Archesgob Noakes. Mae pob fflat yn cynnwys 8 ystafell sengl ynghyd â chegin a lolfa sy’n cael eu rhannu.

    • 38 wythnos y cyfnod y drwydded ac mae’n rhedeg o 20 Medi 2025 i 13 Mehefin 2026. 
    • Ni fydd angen i chi adael yr ystafelloedd yn ystod gwyliau’r Nadolig a’r Pasg.

    Bydd dewis o ddwy arddull o ystafelloedd. 

    • Ystafell Arddull Presennol – ystafell en-suite gyda gwely sengl 
    • Ystafell Arddull Newydd – ystafell en-suite gyda gwely pedair troedfedd

    Gallwch wneud cais am lety ar yr amod bod gennych gynnig â€Amodol’ neu â€Ddiamod’ gan y Brifysgol. Os mai PCYDDS yw eich ail ddewis, ni ddylid gwneud cais tan ar Ă´l canlyniadau’r arholiadau ym mis Awst.

  • Rydym yn awyddus i gefnogi’r gymuned gref o siaradwyr Cymraeg ar gampws PCYDDS yng Nghaerfyrddin.    O ganlyniad, mae’r Brifysgol wedi creu cartref ar gyfer myfyrwyr Cymraeg mewn fflatiau sydd wedi’u neilltuo ar gyfer myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg neu sy’n dysgu’r iaith ac sydd am fyw gyda’i gilydd. 

    Pa ddylech chi ddewis llety gyda’n siaradwyr Cymraeg? 

    • Awyrgylch cartrefol
    • Cyfle i fod yn rhan o gymuned glos a chefnogol
    • Byw a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg
    • Cyfleoedd i gymryd mantais ar ystod eang o weithgareddau addysgol a chymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg. 

    Drwy ddewis fflat lle mae myfyrwyr yn siarad Cymraeg, byddwch chi wrth galon bywyd y brifysgol, a rhan o gymuned glos gyda siaradwyr Cymraeg eraill – y dewis perffaith i’ch helpu i ymgartrefu’n gyflym. 

    Mae’r fflatiau ar gyfer myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg wedi’u lleoli o fewn blociau’r Archesgob Noakes. 

    Byddwn yn gofyn i chi ar ein ffurflen gais os hoffech fyw mewn fflat ar gyfer siaradwyr Cymraeg. 

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y fflatiau ar gyfer siaradwyr Cymraeg, croeso i chi gysylltu â’r tîm llety drwy e-bostio accommodation@uwtsd.ac.uk

  • Unwaith y byddwch wedi cael ystafell mewn neuadd, efallai y bydd arnoch eisiau dechrau meddwl am beth i’w ddod gyda chi i’r campws.

    Siop ar-lein yw UniKitOut sy’n cynnig arbedion ENFAWR ar lawer o’r eitemau a ganlyn:

    • Pecynnau Dillad Gwely
    • Pecynnau Cegin
    • Pecynnau Ystafell Ymolchi a Thyweli
    • Pecynnau Cyfun Myfyrwyr
    • Offer Trydanol
    • Ategolion a llawer iawn mwy!

    Unwaith y byddwch yn prynu eitemau, gallwch ofyn iddynt gael eu hanfon yn uniongyrchol i’ch ystafell fel eu bod yn aros yno amdanoch chi pan fyddwch yn cyrraedd.

  • Gall myfyrwyr sy’n dychwelyd wneud cais am lety, gyda cheisiadau’n agor 3 Mawrth 2025. Cysylltwch â’r tĂ®m llety am ragor o wybodaeth.   

  • Gallwn ddarparu llety en-suite i fyfyrwyr Ă´l-raddedig ar y campws. Cysylltwch â’r adran llety i drafod eich gofynion.

     

  • Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ymdrechu i ddarparu ar gyfer cymaint 
    o fyfyrwyr â phosibl; fodd bynnag, mae’n ddrwg gennym na allwn gadarnhau llety 
    prifysgol i bob ymgeisydd. Lle na allwn gynnig lle, byddwn yn cefnogi myfyrwyr i 
    ddod o hyd i lety preifat lle bo modd. 

    • Gallwn gynnig lle mewn llety prifysgol i israddedigion blwyddyn gyntaf newydd 
      sy’n dewis PCYDDS fel eu Dewis Cadarn a’n gwneud cais am lety erbyn 
      31ain o Orffennaf 2025

    • Bydd myfyrwyr sy’n dychwelyd ac yn astudio ar ein campws yn Llambed ar 
      hyn o bryd yn cael sicrwydd o ystafell mewn llety yng Nghaerfyrddin os 
      byddant yn gwneud cais erbyn y 6ed o Fai 2025

    • Bydd myfyrwyr Caerfyrddin sy’n dychwelyd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

    • Gan y gallai’r galw fod yn fwy na’r argaeledd, rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr 
      sydd: 

      • Wedi cofrestru ar gwrs llawn amser yn PCYDDS 

      • Yn dychwelyd ac yn fyfyriwr ar Gampws Llambed 

      • Yn byw yn rhy bell i ffwrdd i drafaelu neu sicrhau llety rhent preifat 

      • Ă‚ anghenion cymdeithasol a/neu gorfforol arbennig 
         

    Er y byddwn yn gwneud ein gorau i fodloni dewisiadau llety, ni allwn gadarnhau 
    mathau penodol o ystafelloedd neu ddyraniadau. Os nad yw’r math o ystafell y 
    gofynnwyd amdani ar gael, byddwn yn cynnig y math agosaf yn seiliedig ar 
    argaeledd. 

     
    Os nad yw eich dewis wedi’i restru yn y blychau ticio a ddarperir, nodwch hyn yn 
    adran “Nodiadau” yn eich cais. 

     
    Os na allwn gynnig llety prifysgol i chi, byddwn yn eich cynorthwyo i archwilio 
    opsiynau tai preifat lle bo modd. 

  • Rhaid i fyfyrwyr sy’n derbyn cynnig o lety yn Neuaddau Preswyl y Brifysgol gadw at y telerau a’r amodau. 

    Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y Rheoliadau ar gyfer Myfyrwyr mewn Neuaddau Preswyl at y TĂ®m Llety

    Cwynion 

    • Os yw’r Preswylydd yn anhapus â phenderfyniad a wnaed gan y Brifysgol neu â’r camau a gymerwyd gan y Brifysgol mewn perthynas â’r Cytundeb a/neu os yw’r Preswylydd o’r farn bod y Brifysgol wedi torri ei rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn, dylai unrhyw gŵyn gael ei chyfeirio, yn y lle cyntaf, at yr Adran Llety i ymchwilio iddi. 
    • Os na fydd eich cwyn wedi ei datrys o hyd, mae’n bosibl rhoi gwybod am hyn trwy’r Gweithdrefnau ar gyfer Apeliadau Academaidd, Cwynion ac Achosion Eraill Myfyrwyr a geir yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd, lle bydd angen i chi lenwi’r Ffurflen GA5 ar gyfer Cwyn Ffurfiol
    • Rhaid derbyn cwynion ffurfiol ddim mwy na mis ar Ă´l i’r weithdrefn anffurfiol ddod i ben (lle bo’n briodol) a dim mwy na 6 mis ar Ă´l i’r prif fater sy’n sail i’r gwyn ddigwydd. Ystyrir bod cwynion ffurfiol sy’n dod i law ar Ă´l y terfynau amser hyn yn rhy hwyr. Efallai na fyddant yn cael eu hystyried oni bai bod tystiolaeth annibynnol i ddangos rhesymau cryf dros pam na chodwyd y gŵyn ffurfiol yn brydlon.  
  • Gellir gwneud trefniadau lle bo modd i ddarparu ar gyfer Myfyrwyr Anabl. Os oes gennych chi ofynion arbennig, trafodwch y rhain gydag un o Gynghorwyr Anabledd y Brifysgol. Byddan nhw’n gallu trafod unrhyw ofynion sydd gennych o ran cymorth, a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalennau Cymorth Dysgu.  

Myfyrwyr Caerfyrddin yn gwenu gyda phâr o gadeiriau plygu wedi'i brandio.

Cysylltu â'r Tîm Llety

Mae ein tĂ®m llety yma i’ch helpu chi i wneud y dewis cywir er mwyn helpu i greu’r profiad prifysgol rydych chi’n ei ddymuno.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lety boed yn ymwneud â hygyrchedd, opsiynau llety neu gwestiynau penodol am eich sefyllfa mae ein tĂ®m llety wrth law i helpu.

The Student Accommodation Code

Universities UK - Cod Ymarfer

fel datganiad o arfer da sy’n gallu newid a chael ei fireinio yn sgil profiad ac sy’n annog rheoli llety’n well.  Mae’r cod yn sicrhau bod preswylwyr yn elwa ar bolisĂŻau a gweithdrefnau clir sy’n ymwneud Ă˘â€™r canlynol: 

  • Iechyd a Diogelwch 
  • Cynnal a Chadw ac Atgyweirio 
  • Lles Myfyrwyr 
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion disgyblu 
  • Ansawdd amgylcheddol 

Accommodation Applications

Carmarthen_campus_accomodation_exterior

Ceisiadau am Lety

Bydd Ceisiadau am Lety ar gyfer 2025/26 yn agor o ddydd Llun, 3 Mawrth 2025