ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Cefnogi Dysgwyr Anabl

Rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd addysgol cynhwysol a hygyrch lle gall pob myfyriwr ffynnu. Ein nod yw darparu’r offer i fyfyrwyr sydd angen cymorth i’w galluogi i weithio i’w potensial a dangos gwir lefel eu gallu fel myfyriwr israddedig neu Ã´l-raddedig.

Mae ein gwasanaethau cymorth anabledd wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigryw unigolion sydd ag anableddau. P’un ai a oes gennych gyflwr corfforol, gwybyddol, synhwyraidd neu iechyd meddwl, mae ein staff profiadol yma i roi cefnogaeth gynhwysfawr a darparu cymwysiadau. Rydym yn gweithio’n agos gyda phob myfyriwr i ddatblygu cynlluniau personol sy’n sicrhau mynediad cyfartal i bob agwedd ar fywyd prifysgol, o waith academaidd i gyfleusterau’r campws a gweithgareddau allgyrsiol.​ 

Mae ein hymrwymiad i hygyrchedd yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, ac rydym yn ymfalchïo mewn creu cymuned campws sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn croesawu cyfraniad pob unigolyn.

Cymorth sydd ar gael

Llenwch ein  i gael rhagor o wybodaeth ynglÅ·n â sut y gallwn eich cynorthwyo i astudio gyda PCYDDS.  

Rydym yn darparu cymorth academaidd cynhwysfawr i Fyfyrwyr Anabl. Bydd ein tîm yn cynorthwyo myfyrwyr wrth wneud cais am y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), gan gynnwys mynediad at asesiad a diagnosis ar gyfer Gwahaniaeth Dysgu Penodol (SpLD) lle bo angen. Mae ein tîm proffesiynol a chymwys o Gynorthwywyr Anfeddygol wrth law i weithio gyda myfyrwyr sydd wedi cael diagnosis i gynorthwyo gyda’u dysgu ac i’w helpu i gyflawni eu potensial.

Beth bynnag yw eu statws o ran y Lwfans Myfyrwyr Anabl, mae’r tîm Cymorth Dysgu wrth law i gefnogi myfyrwyr drwy amgylchiadau annisgwyl a chyfnodau anodd sydd wedi effeithio ar eu hastudiaethau. Gall myfyrwyr ofyn am gymorth gan y tîm ac mae modd iddynt wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol lle bo’n briodol. 

Gall myfyrwyr presennol ofyn am gyfweliad i drafod eu hanghenion neu eu pryderon unrhyw bryd yn ystod eu cwrs.   

  • Ein nod yw rhoi cyfle cyfartal i bob myfyriwr, gan gynnwys y rhai ag anableddau, i fanteisio ar ein hystod eang o brofiadau academaidd, cymdeithasol a diwylliannol.​ Rydym yn ceisio – gydag addasiadau rhesymol – diwallu anghenion a goresgyn anawsterau, fel nad yw’r rhain bellach yn rhwystr i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol. 

    Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd ag anghenion ychwanegol. Ni fydd datganiad o anabledd yn eich rhoi o dan unrhyw anfantais yn y broses o wneud cais. Rydym yn annog myfyrwyr sydd ag anabledd datganedig i ymweld cyn gwneud cais er mwyn gweld y cyfleusterau sydd ar gael.

    Mae Cynghorwyr Anabledd a Rheolwyr Cymorth Dysgu ar gael i drafod anghenion unigol, yn enwedig unrhyw drefniadau penodol sydd eu hangen ar gyfer mynediad, cymorth dysgu, cymorth astudio, darlithoedd, lleoliadau, asesiadau ac arholiadau.

    Bydd nifer ohonoch eisoes wedi cael rhywfaint o gymorth gyda’ch astudiaethau, naill ai yn yr ysgol neu’r coleg, ac wedi gweld bod cymorth wedi’ch helpu i gael canlyniadau da. Mae llawer o fyfyrwyr yn y Drindod Dewi Sant hefyd yn elwa ar gael cymorth gyda’u hastudiaethau. Os ydych chi eisoes yn gwybod bod rheswm penodol pam y bydd angen cymorth arnoch, y peth gorau i’w wneud yw cysylltu â’r Cynghorydd Anabledd.​

  • Mae Diwrnodau Agored yn gyfle perffaith i ddod i weld ein campysau drosoch eich hun.  Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol a hygyrch i bawb.  Os oes gennych unrhyw anableddau ac yr hoffech roi gwybod am eich anghenion penodol cyn Diwrnod Agored rydym yn eich annog i wneud hynny wrth archebu.​ 

    Mae eich llwyddiant a’ch lles yn bwysig i ni, ac rydym yma i’ch cynorthwyo er mwyn sicrhau fod eich ymweliad yn un addysgiadol a chroesawgar. Edrychwn ymlaen at gael cwrdd â chi a gwneud yn siŵr bod eich profiad o’r diwrnod agored yn un cadarnhaol a chynhwysol.

  • I’r rheini sy’n astudio o bell, mae modd i ni ddarparu nifer o wasanaethau i hwyluso eich profiad astudio.

    Gall ein tîm cymorth arbenigol roi cymorth arbenigol un-i-un o bell i’r rheini sydd â hawl i gymorth a ariennir o dan y Lwfans Myfyrwyr Anabl trwy MS Teams.  

    Rydym hefyd yn cynnig cymorth Sgiliau Astudio i bob myfyrwyr trwy Sgiliau Astudio o Bell ar MS Teams. Mae’r amserlen ar gael ar yr .

  • Mae unrhyw fyfyrwyr sydd â gwahaniaethau dysgu penodol megis dyslecsia, dyspracsia, ADD ac Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig yn cael cynnig cymorth gyda cheisiadau am Lwfans Myfyrwyr Anabl, cymorth a chyngor priodol ac arweiniad ynglÅ·n ag addasiadau rhesymol.​ Bydd cymorth yn cael ei gynnig mewn sawl maes, fel:

    • Sut i wella eich aseiniadau
    • Adolygu’n effeithiol ar gyfer arholiadau
    • Trefn bersonol a threfnu eich amser a’ch gwaith

    Gwybodaeth am Ddyslecsia ac Anawsterau Dysgu Penodol eraill i ddarpar fyfyrwyr

    Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd â dyslecsia ac Anawsterau Dysgu Penodol eraill. Gallwn wneud trefniadau ar gyfer:

    • Rhoi gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol
    • Sgrinio cychwynnol
    • Asesu
    • Hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl
    • Cefnogaeth diwtorial gynnar a phriodol
    • Staff y Brifysgol yn eirioli drosoch
    • Consesiynau lle bo angen

    Os ydych eisoes wedi’ch asesu fel rhywun dyslecsig neu os oes gennych Wahaniaeth Dysgu Penodol arall, rydym yn cynghori eich bod yn cysylltu â Chymorth Anabledd cyn gynted ag y bo modd drwy anfon e-bost i disability@uwtsd.ac.uk  

  • Ar hyn o bryd rydym yn dilyn canllawiau Adran Addysg y Llywodraeth. 

    Mae PCYDDS yn awyddus i sefydlu perthynas waith effeithiol gyda chyflenwyr Cynorthwywyr Anfeddygol allanol (NMH) i sicrhau darpariaeth cymorth o safon er budd ein myfyrwyr.

    Rhaid i ddarparwyr cymorth Cynorthwywyr Anfeddygol (NMH) gadw at safonau Fframwaith Sicrhau Ansawdd (QAF) y Grŵp Sicrhau Ansawdd Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA-QAG) a chanllawiau Adran Addysg y Llywodraeth, a sicrhau bod yr holl bolisïau perthnasol yn eu lle, a’u bod yn cael eu rhannu â’r myfyriwr, ac ar gael i’r Brifysgol ar gais.

    Mae ein cynghorwyr anabledd ac iechyd meddwl wedi’u lleoli o fewn Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol. Mae’r cynghorwyr yn cydweithio â rhwydwaith o gysylltiadau anabledd yn ein cyfadrannau a’n cyfarwyddiaethau eraill i hwyluso amgylchedd dysgu hygyrch a chynhwysol i fyfyrwyr ag anableddau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am rolau a chyfrifoldebau ein darpariaeth cymorth anabledd ac iechyd meddwl. Mae manylion am wasanaethau cymorth eraill i fyfyrwyr yn y Brifysgol hefyd ar gael ar ein gwefan.

    Mynediad i Weithwyr Cymorth

    • Man cyfrinachol 1:1 y gellir ei drefnu ymlaen llaw

    Mae darparwyr allanol yn gyfrifol am ddarparu cyfleusterau cyfarfod addas sy’n gyfforddus, yn gyfrinachol ac yn ystyried anghenion y myfyriwr. Gan mai prin yw’r ystafelloedd cyfarfod 1:1 y mae modd eu cadw ymlaen llaw yn y Brifysgol, fel arfer byddai disgwyl i ddarparwyr allanol wneud trefniadau annibynnol y tu allan i’r Brifysgol.

    Ymweld a Pharcio

    Ar adegau prin pan fo cymorth yn cael ei ddarparu ar y safle, rydym wedi rhoi gwybodaeth am barcio ger campysau’r Brifysgol a chyfarwyddiadau i gampysau’r Brifysgol.

    Mae gan PCYDDS sawl campws, mae rhagor o wybodaeth am gampysau’r Brifysgol a’r cyrsiau a ddarperir ar y campysau hynny ar gael ar ein gwefan.

    Mae canllawiau mynediad y Brifysgol hefyd yn ddefnyddiol yn y lle cyntaf ar gyfer gwybodaeth am fynediad o amgylch y campysau ac adeiladau hygyrch.

    Iechyd a Diogelwch

    Os bydd gweithwyr cymorth yn cyfarfod â myfyrwyr ar y safle, rhaid iddynt fynd i’r dderbynfa berthnasol ar gampws y Brifysgol i:

    • fewngofnodi;
    • cadarnhau eu rheswm dros ymweld a gyda phwy y maent yn ymweld â nhw;
    • gofyn am fanylion ynglÅ·n â gweithdrefnau tân a gwacáu lleol.

    Caiff ymwelwyr allanol eu gwahardd rhag mynd i fannau anawdurdodedig neu ardaloedd nad ydynt yn angenrheidiol neu’n berthnasol i ran o’u gwaith. Os bydd larwm tân yn canu, rhaid i weithwyr cymorth adael yr adeilad ar unwaith yn ôl y cyfarwyddyd.   Yn yr un modd, rhaid rhoi gwybod ar unwaith i staff y derbynfeydd am unrhyw ddamweiniau neu sefyllfaoedd brys.

    Dylai darparwyr NMH allanol hefyd fod yn ymwybodol o ganllawiau’r Brifysgol ar ddiogelwch yn y gweithle/yn gyffredinol.

    Cyfathrebu ac Adborth

    Dylid anfon gwybodaeth am y gefnogaeth a ddarperir i fyfyrwyr anabl i anabledd@pcydds.ac.uk

    Rhaid i ddarparwyr allanol:

    • roi gwybod i’r Brifysgol os ydynt yn darparu cymorth i’n myfyrwyr;
    • rhoi gwybod i’r Brifysgol gan roi enw’r person yn y sefydliad (gan gynnwys manylion cyswllt) y gallwn gysylltu â nhw am unrhyw ymholiadau ynglÅ·n â chymorth i fyfyrwyr, ac ymateb yn brydlon i ymholiadau neu bryderon a godir am drefniadau cymorth i fyfyrwyr
    • darparu copïau o unrhyw bolisïau perthnasol ar gais
    • sicrhau bod cyllid yn ei le cyn dechrau sesiynau gyda myfyriwr, monitro’r defnydd o’r oriau a neilltuwyd, a sicrhau nad yw myfyrwyr yn rhedeg allan o gyllid (nid yw PCYDDS yn atebol am unrhyw daliadau y mae Cyllid Myfyrwyr Lloegr neu Gyllid Myfyrwyr Cymru yn gwrthod eu talu)
    • trefnu ystafelloedd cyfarfod addas ar gyfer sesiynau cymorth a fydd fel arfer oddi ar y safle oherwydd argaeledd cyfyngedig ystafelloedd addas ar y campws;
    • cyfeirio myfyrwyr yn ôl at eu cynghorydd anabledd neu at y gyfadran berthnasol i drafod unrhyw faterion yn ymwneud â gwasanaethau’r Brifysgol neu eu cwrs
    • cysylltu â’r cynghorwyr anabledd ac iechyd meddwl drwy anabledd@uwtsd.ac.uk ar unwaith os bydd unrhyw bryderon yn codi yn ymwneud ag ymgysylltu â chymorth, lles, diogelwch, neu ddatblygiad academaidd fel y gellir mynd i’r afael ag unrhyw bryderon mewn modd amserol
    • darparu adroddiad cryno ar gyfer pob myfyriwr sy’n derbyn cymorth ar ddiwedd pob tymor (diwedd Rhagfyr, Mawrth, a Mehefin), gan gynnwys y wybodaeth ganlynol:
      • enw’r myfyriwr/myfyrwyr a rhif cofrestru’r cwmni (CRN);
      • enw’r gweithiwr/gweithwyr cymorth;
      • disgrifiad byr o’r cymorth a ddarparwyd;
      • dyddiad dechrau darparu’r cymorth;
      • nifer y sesiynau/oriau cymorth a ddarparwyd y tymor hwnnw, a chyfanswm y flwyddyn hyd yma;
      • lleoliad darparu’r cymorth;
      • nodyn am unrhyw faterion y mae angen i’r Brifysgol fod yn ymwybodol ohonynt neu fynd i’r afael â nhw. 
  • Gwasanaeth cyfrinachol yw Cymorth Dysgu a Chymorth Anabledd, ac ni fyddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth y tu allan i’r bobl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch cymorth tra byddwch chi yn PCYDDS. Caiff gwybodaeth ei rhannu ar sail angen gwybod yn unig, sy’n golygu mai dim ond gwybodaeth berthnasol fydd yn cael ei rhoi pan fydd yn briodol. Byddwn ni’n defnyddio gofal priodol bob tro i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei barchu. 

    I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Datganiad Cyfrinachedd a Diogelu Data PCYDDS 

  • Canolfannau Mynediad - A fyddech cystal ag anfon ymholiadau ac Adroddiadau Asesu Anghenion ar e-bost - diolch.

    Cyfraddau Cymorth Anfeddygol (NMH) - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Cyfradd safonol NMH (wyneb yn wyneb)

    Cyfraddau Cymorth NMH

    (fesul awr)

    Band 1

    • Cynorthwy-ydd Cymorth Ymarferol
    • Cyfanswm       Â£15.00

    Band 2

    • Cynorthwy-ydd Astudio
    • Cyfanswm       Â£25.00

    • Gweithiwr Cymorth Arholiadau              
    • Cyfanswm       Â£25.00

    • Person sy’n Cymryd Nodiadau
    • Cyfanswm       Â£25.00

    Band 4

    • Mentor Arbenigol – Iechyd Meddwl    
    • Cyfanswm       Â£50.00

    • Mentor Arbenigol - y Sbectrwm Awtistig                
    • Cyfanswm       Â£50.00

    • Cymorth Sgiliau Astudio Arbenigol 1:1 - Gwahaniaeth Dysgu Penodol (SpLD)  
    • Cyfanswm       Â£50.00

    • Cymorth Sgiliau Astudio Arbenigol 1:1 - y Sbectrwm Awtistig        
    • Cyfanswm       Â£50.00

    • Hyfforddiant Technoleg Gynorthwyol
    • Cyfanswm       Â£50.00

    Cyfraddau Cymorth NMH (fesul awr)


    Band 2

    • Cynorthwy-ydd Astudio
    • Cyfanswm       Â£25.00

    • Gweithiwr Cymorth Arholiadau              
    • Cyfanswm       Â£25.00

    • Person sy’n Cymryd Nodiadau
    • Cyfanswm       Â£25.00

    Band 4

    • Mentor Arbenigol – Iechyd Meddwl    
    • Cyfanswm       Â£50.00

    • Mentor Arbenigol - y Sbectrwm Awtistig                
    • Cyfanswm       Â£50.00

    • Cymorth Sgiliau Astudio Arbenigol 1:1 - Gwahaniaeth Dysgu Penodol (SpLD)  
    • Cyfanswm       Â£50.00

    • Cymorth Sgiliau Astudio Arbenigol 1:1 - y Sbectrwm Awtistig        
    • Cyfanswm       Â£50.00

    • Hyfforddiant Technoleg Gynorthwyol
    • Cyfanswm       Â£50.00