
Ceisiadau Rhyngwladol
Ceisiadau Rhyngwladol
Er y gall dewis astudio mewn gwlad wahanol ymddangos yn anodd i ddechrau, rydyn ni’n ymroi i sicrhau fod y broses yn un rhwydd i chi. Yma, cewch ganllawiau cynhwysfawr ar weithdrefnau ymgeisio, gofynion mewnfudo a fisa, a hyfedredd yn yr iaith Saesneg, gan roi cefnogaeth gadarn i chi ar bob cam o’ch gweithgareddau addysgol.
Sut i wneud cais
Gall myfyrwyr sy’n awyddus i astudio gradd yn llawn amser gyda ni wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol. Bydd y graddau hyn yn cael eu dyfarnu gan PCYDDS
Os oes gennych unrhyw gwestiynau e-bostiwch y Gofrestrfa Ryngwladol.
Gallwch hefyd wneud cais trwy asiant yn eich gwlad chi. Mae PCYDDS yn gweithio gyda rhwydwaith sefydledig o asiantaethau addysgol ar draws y byd sy’n chwarae rhan werthfawr iawn wrth gefnogi ymgeiswyr a darpar fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio gyda ni. Gall asiant eich helpu i wneud cais. Byddan nhw’n rhoi cyngor ar ddewis a gwneud cais am radd, cael fisa a dod o hyd i lety.
Rhestr o Swyddfeydd Rhanbarthol
Swyddfa India PCYDDS
905, Adeilad Kailash, KG Marg, Barakhamba, Delhi Newydd, 110001, India
Os oes gennych ddiddordeb mewn recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ar gyfer PCYDDS, cysylltwch â ni.
Gall myfyrwyr rhyngwladol sy’n awyddus i astudio am semester gyda ni wneud cais ar-lein
Y dyddiad cau ar gyfer semester yr Hydref yw 30 Mai 2025.
Sylwch fod rhaglenni Astudio Dramor a Chyfnewid yn amodol ar fod wedi cofrestru ar hyn o bryd mewn Prifysgol bartner yn eich mamwlad.
Prifysgol Bishops
Prifysgol Talaith Califfornia, Fullerton
Prifysgol De Utah
Prifysgol Talaith Califfornia, Long Beach
Prifysgol Rio Grande
Prifysgol Lakehead
Coleg Douglas
Coleg Camosun
Prifysgol Thompson Rivers
Prifysgol Gogledd Carolina yn Greensboro
Coleg Prifysgol Volda
Prifysgol Fetropolitan Oslo
Prifysgol De-ddwyrain Norwy
Prifysgol Bedyddwyr Hong Kong
Prifysgol Rikkyo
UCAM Universidad Católica San Antonio de Murcia
Coleg Sant Mihangel Vermont  
Sbaen: Escola Superior de Disseny (ESDA) Llotija Barcelona
-
Dyddiad cau Campysau Cymru Campws Llundain Campws Birmingham Ar-lein Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 11 Awst 2025 26 Awst 2025 28 Gorffennaf 2025 24 Medi 2025 Dyddiad cau Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS) 2 Medi 2025 16 Medi 2025 19 Awst 2025 Amh Dechrau Tymor 22 Medi 2025 6 Hydref 2025 8 Medi 2025 1 Hydref 2025 Dyddiad cau
Campysau Cymru
Campws Llundain
Campws Birmingham
Ar-lein Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
17 Tachwedd 2025
16 Rhagfyr 2025
11 Tachwedd 2025
25 Ionawr 2026 Dyddiad cau (CAS)
9 Rhagfyr 2025
13 Ionawr 2026
2 Rhagfyr 2025
Amh
Dechrau Tymor 26 Ionawr 2026 16 Chwefror 2026 12 Ionawr 2026 1 Chwefror 2026 Dyddiad cau Campysau Cymru Campws Llundain Campws Birmingham Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Amh 27 Ebrill 2026 24 Mawrth 2026 Dyddiad cau (CAS) Amh 26 Mai 2026 21 Ebrill 2026 Dechrau Tymor Amh 15 Mehefin 2026 11 Mai 2026 Dyddiad cau Cymru Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 22 Gorffennaf 2025 Dyddiad cau (CAS) 12 Awst 2025 Dechrau Tymor 1 Medi 2025 -
Mae’n rhaid i bob Myfyriwr Rhyngwladol sy’n ceisio mynediad i’r Brifysgol ddangos eu bod yn rhugl yn y Saesneg i’r lefel a nodir yng ngofynion mynediad a pholisi Saesneg y Brifysgol.

Mae gan PCYDDS wasanaeth arbenigol a chynhwysfawr sy’n rhoi cymorth gyda phob cam o’r broses o wneud cais am fisa ar gyfer astudio yn y DU. Bydd y math o fisa y byddwch ei angen yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, gan gynnwys hyd a lefel y cwrs astudio dan sylw.
