
Cyllid a Chymorth Israddedig
Cyllid Myfyrwyr yn y DU
Cyllid Myfyrwyr yn y DU
Rydym ni’n deall bod cyllido’ch addysg yn rhan allweddol o’ch taith yn y brifysgol. P’un a ydych chi’n byw yng Nghymru, yn dod o Loegr, o’r Alban neu o Ogledd Iwerddon, rydym ni yma i’ch cefnogi wrth i chi ymdopi ag agweddau ariannol ar eich astudiaethau.
Benthyciadau Myfyrwyr
Benthyciadau Myfyrwyr
Ble bynnag rydych chi’n byw, mae’r broses o wneud cais am gyllid myfyrwyr yn syml. Gallwch chi wneud cais ar-lein drwy’r awdurdod cyllid myfyrwyr sy’n berthnasol i’ch gwlad. Mae’n bwysig gwneud cais yn gynnar i sicrhau bod eich cyllid yn ei le cyn i chi gychwyn.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen help arnoch chi gyda’ch cais am gyllid myfyrwyr, mae ein timau yma i helpu. Mae croeso i chi gysylltu â ni am gymorth a chyfarwyddyd drwy gydol y broses.
Rydym ni wedi ymrwymo i wneud addysg uwch yn hygyrch i’r holl fyfyrwyr, a dim ond un o’r ffyrdd rydym yn ceisio cyflawni hyn yw ein cymorth cyllid myfyrwyr. Peidiwch â gadel i bryderon ariannol eich dal yn ôl rhag dilyn eich uchelgais academaidd – gwnewch gais am gyllid myfyrwyr heddiw a dechrau ar eich taith gyda ni.
Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n byw yng Nghymru, mae cymorth ariannol ar gael i chi drwy . Mae’r cymorth hwn yn cynnwys benthyciadau ffioedd dysgu i dalu am gost ffioedd eich cwrs, yn ogystal â benthyciadau a grantiau cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Dyma gipolwg ar beth allai fod ar gael i chi:
- Benthyciadau Ffioedd Dysgu: Mae’r benthyciadau hyn yn gallu talu am gost lawn eich ffioedd dysgu, er mwyn i chi allu canolbwyntio ar eich astudiaethau heb boeni am daliadau ymlaen llaw.
- Cymorth Cynhaliaeth: I helpu gyda chostau byw megis llety, bwyd, a deunyddiau astudio, efallai byddwch chi’n gymwys am fenthyciadau a grantiau cynhaliaeth. Mae’r swm byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar ffactorau megis incwm eich cartref a ble byddwch chi’n byw wrth astudio.
Os ydych chi’n byw yn Lloegr, mae cymorth ariannol ar gael i chi drwy . Yn debyg i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru, efallai bydd benthyciadau ffioedd dysgu a chymorth cynhaliaeth ar gael i chi i dalu am eich costau byw. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod:
- Benthyciadau Ffioedd Dysgu: Yn debyg i Gymru, mae benthyciadau ffioedd dysgu ar gael i dalu am gost ffioedd eich cwrs, gan sicrhau eich bod yn gallu astudio heb rwystrau ariannol.
- Benthyciadau Cynhaliaeth: I helpu gyda’ch costau byw, gallwch chi wneud cais am fenthyciadau cynhaliaeth. Mae’r swm byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar ffactorau megis incwm eich cartref a ble byddwch chi’n byw wrth astudio.
Gall myfyrwyr sy’n byw yn yr Alban gael cymorth ariannol drwy’r . Mae’r cymorth hwn yn cynnwys cyllid ffioedd dysgu a benthyciadau cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod:
- Cyllid Ffioedd Dysgu: Gall myfyrwyr o’r Alban sy’n astudio yn PCYDDS fod yn gymwys i gael cyllid ffioedd dysgu i dalu costau ffioedd eu cwrs.
Benthyciadau Cynhaliaeth: I helpu gyda chostau byw megis llety a bwyd, mae benthyciadau cynhaliaeth ar gael. Mae’r swm byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar ffactorau megis incwm eich cartref a ble byddwch chi’n astudio.
. Mae’r cymorth hwn yn cynnwys benthyciadau ffioedd dysgu a benthyciadau cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod:
- Benthyciadau Ffioedd Dysgu: Mae benthyciadau ffioedd dysgu ar gael i dalu am gost ffioedd eich cwrs, gan sicrhau eich bod yn gallu canolbwyntio ar eich astudiaethau heb bryderon ariannol.
- Benthyciadau Cynhaliaeth: I helpu gyda chostau byw megis llety a bwyd, mae benthyciadau cynhaliaeth ar gael. Mae’r swm byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar ffactorau megis incwm eich cartref a ble byddwch chi’n astudio.
Bursaries
Ysgoloriaethau a Bwrsarïau
Rydym ni’n deall bod cyllido’ch addysg yn rhan allweddol o’ch taith yn y brifysgol.  P’un a ydych chi’n byw yng Nghymru, yn dod o Loegr, o’r Alban neu o Ogledd Iwerddon, rydym ni yma i’ch cefnogi wrth i chi ymdopi ag agweddau ariannol ar eich astudiaethau.
