Cofrestru am gyngor Clirio 2025

Eich Stori Chi
Mae gennym ni 20 maes pwnc i chi ddewis ohonynt. O fewn pob un, mae ystod gynhwysfawr o gyrsiau i’ch ysbrydoli. Mae’n bryd cydio yn eich dyfodol a throi eich uchelgais yn realiti.
Rydym yn cynnig profiad personol - dosbarthiadau llai a darlithoedd ysbrydoledig, gyda digon o gyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan. Bydd hyn yn golygu bod digon o amser i drafod a bod gennych well dealltwriaeth o’ch pwnc. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr a fydd yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
1af
yng Nghymru ac 2il yn y DU am Foddhad Myfyrwyr
(Times and Sunday Times 2025)
More to Explore

Gwnewch Gais Nawr ar gyfer 2025
P’un a ydych yn gorffen yn yr ysgol neu goleg, yn dychwelyd i ddysgu, neu’n datblygu eich gyrfa, mae amser o hyd i wneud cais i astudio gyda ni ym mis Medi 2025. Rydym yn cynnig cyrsiau a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa, mewn amgylchedd dysgu cefnogol gydag amrywiaeth o opsiynau dysgu sy’n addas i’ch anghenion chi.

Mae ein Cofrestru Clirio Ar Agor
Mae ein Cofrestriad Clirio ar Agor Cofrestrwch eich diddordeb yng Nghlirio PCYDDS, i gael cyngor ar y Cyrsiau sydd ar gael, Clirio, Cyllid Myfyrwyr, Llesiant Myfyrwyr, Bywyd yn PCYDDS a llawer mwy.