ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru

Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru

Student performing on stage

Academi unigryw sy'n cynnig rhaglenni arbenigol

Darparu’r myfyrwyr gyda thechneg gadarn ynghyd â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.

Gan adeiladu ar lwyddiant Academi Llais Ryngwladol Cymru a Chanolfan Berfformio Cymru, mae WAVDA yn bair o greadigrwydd, gan ddatblygu actorion, cantorion a chyfarwyddwyr y dyfodol. Mae moeseg gwaith yr Academi yn seiliedig ar barch a chydweithio, mae ein myfyrwyr yn gweithio gydag arbenigwyr o’r diwydiant i fireinio eu sgiliau yn barod ar gyfer eu gyrfaoedd.

Beth gallaf astudio?

Mae ein rhaglenni israddedig yn ymroddedig i hyfforddi a datblygu perfformwyr y dyfodol. Wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd, mae’r graddau arloesol a heriol hyn yn cynnig hyfforddiant o safon y diwydiant ochr yn ochr â phrofiadau perthnasol i baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y celfyddydau.

Llysgenhadon Myfyrwyr yn sefyll o flaen baner Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA)

Fideos 360° Tŷ Haywood

Croeso i DÅ· Haywood, canolfan Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru yng Nghaerdydd. Ewch ar daith o gwmpas y lloriau gwahanol gyda’n fideos 360°.

Statistics

Video

Dolenni Allweddol

Summer show poster wall

Sioeau Haf

Mae ein Sioeau Haf yn arddangos gwaith eithriadol ein myfyrwyr sy’n graddio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol.

Bydd yr arddangosfeydd a pherfformiadau yn cael eu cynnal yng Ngholeg Celf Abertawe, Caerfyrddin, Chaerdydd a Llundain trwy gydol mis Mai, Mehefin a Gorffennaf.

Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i artistiaid, dylunwyr a pherfformwyr sefydlog yn ogystal â darpar artistiaid, darlunwyr a pherfformwyr brofi’r gwaith arloesol ac ysbrydoledig a gynhyrchwyd gan ein myfyrwyr.