
Datganiadau'r Brifysgol
Datganiadau'r Brifysgol
-
Ymddangosodd holl Is-Ganghellorion Cymru gerbron Pwyllgor Materion Cymreig Llywodraeth y DU ar 25 Mehefin i drafod yr heriau ariannol sy’n wynebu’r sector Addysg Uwch. Yn ystod y sesiwn, cadarnhaodd Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant, yr Athro Elwen Evans KC, er y bydd addysgu israddedig yn Llanbedr Pont Steffan yn dod i ben yr haf hwn, nad yw’r Brifysgol yn cau’r campws ac yn gweithio’n weithredol i sicrhau defnydd newydd, cynaliadwy iddo. Tynnodd yr Athro Evans sylw at bwysigrwydd y campws i’r gymuned a gwahoddodd aelodau’r Pwyllgor i ymweld â Llanbedr Pont Steffan i ddysgu mwy am gynlluniau’r Brifysgol.
Mae recordiad o sesiwn y Pwyllgor Materion Cymreig ar
-
Oherwydd bod niferoedd myfyrwyr ar gampws Llambed yn gostwng a’r heriau ariannol sy’n wynebu sector addysg uwch y DU, penderfynodd y Brifysgol adleoli addysgu pynciau’r Dyniaethau i’w champws yng Nghaerfyddin o fis Medi 2025.
Rydym yn ymrwymedig i gefnogi dyfodol y Dyniaethau yn y Brifysgol a pharhau i ddarparu profiad addysgol o ansawdd uchel ar gyfer ein holl fyfyrwyr.
Rydym yr un mor ymrwymedig i ddyfodol campws Llambed, nid yn unig oherwydd ei bwysigrwydd yn hanes addysg uwch yng Nghymru ond hefyd oherwydd ei le o fewn y gymuned leol a rhanbarthol.
Mae cyfrifoldeb am gampws Llambed yn eistedd gyda’r Brifysgol, ond rydym yn mynd ati i ymgysylltu ag ystod eang o gynrychiolwyr ar draws ein cymuned er mwyn archwilio cyfleoedd hyfyw a chyffrous ar gyfer y defnydd ohono yn y dyfodol.
Er mwyn i ni allu bod yn agored ac yn dryloyw, sefydlasom Grŵp Rhanddeiliaid Allweddol o gynrychiolwyr yn cynnwys gwleidyddion, ac arweinwyr busnes a chymuned lleol, a grwpiau sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol yn cynnwys Cymdeithas Llambed. Yng nghyfarfod cyntaf y Grŵp, trafododd yr aelodau broses ar gyfer derbyn ac ystyried cynigion, a chytunwyd ar y broses honno.
Rydym wedi ymateb yn uniongyrchol i’r holl randdeiliaid sydd wedi cysylltu â ni ynghylch y broses ar gyfer cyflwyno ac ystyried cynigion ac rydym yn parhau i ymateb i’w ceisiadau am wybodaeth bellach.
Fel y cytunwyd, darperir yr holl gynigion ar gyfer y Grŵp Rhanddeiliaid Allweddol yn y cyfarfod cyntaf ar ôl y dyddiad cau am gyflwyniadau, sef 19 Mai 2025. Mae’n bosibl y bydd angen nifer o gyfarfodydd er mwyn sicrhau y caiff y Grŵp bob cyfle i ystyried y cynigion yn fanwl.
Rydym yn ddiolchgar am y brwdfrydedd a ddangoswyd gan y gymuned ac yn optimistaidd ynghylch dyfodol campws Llambed.
-
Ar 11 Tachwedd 2024, cynigiwyd y dylai’r Brifysgol, o ystyried y ffaith bod nifer y myfyrwyr sy’n astudio’n llawn amser ar gampws Llambed yn lleihau, adleoli ei darpariaeth Dyniaethau a addysgir ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, i’w champws yng Nghaerfyrddin o fis Medi 2025.
Byddai hyn yn rhoi gwell mynediad i fyfyrwyr at wasanaethau a fyddai’n cefnogi eu profiad yn y brifysgol ac, yn caniatáu i’r Dyniaethau ffynnu mewn amgylchedd mwy rhyngddisgyblaethol.
Ers hynny, mae’r Brifysgol wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau rheolaidd â myfyrwyr a staff i wrando ar eu hymatebion i’r cynnig ac wedi cynnal ymgynghoriad ffurfiol gydag undebau llafur a staff yr effeithir arnynt. Cynhaliwyd trafodaethau hefyd gyda rhanddeiliaid allanol sy’n cynrychioli buddiannau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae ymgysylltiad myfyrwyr a staff wedi gwneud cyfraniad hanfodol at herio a helpu i ddatblygu’r cynnig gwreiddiol ymhellach.
Mae’r Brifysgol bellach wedi cwblhau ei phroses benderfyniadau ac wedi cymeradwyo‘r cynnig i adleoli ei darpariaeth Dyniaethau o Lanbedr Pont Steffan i Gaerfyrddin.
Rydym wedi gweithio i leihau ansicrwydd i staff a myfyrwyr trwy wneud penderfyniad mewn da bryd i alluogi’r cyfnod pontio.
Bydd y Brifysgol nawr yn cychwyn ar y paratoadau a’r ystyriaethau ymarferol ar gyfer y newid arfaethedig hwn, fel y gall hwyluso’r broses bontio esmwyth fydd yn galluogi’r Dyniaethau i gychwyn y flwyddyn academaidd yn eu cartref newydd yng Nghaerfyrddin ym mis Medi 2025.
Mae campws Llambed yn bwysig iawn i’r Brifysgol. Bydd mecanwaith yn cael ei sefydlu lle gall rhanddeiliaid fod yn rhan o gynigion ar gyfer ystod o weithgareddau economaidd, hyfyw sy’n gysylltiedig ag addysg a fydd yn dod â bywyd newydd, cynaliadwy i’r campws.
-
Ar 31 Ionawr 2025, cyhoeddodd y Brifysgol ei datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31 Gorffennaf 2024.
Yn y datganiadau ariannol hyn rydym yn cofnodi gwarged o £30,587,000. Fodd bynnag, mae hyn yn cynnwys gostyngiad mewn costau staff o £32,925,000 (a ddangosir yn y llinell ‘Symudiad ar Ddarpariaeth USS’) sy’n ymwneud ag ailbrisio darpariaeth pensiwn yr USS.
Yn 2023–24 cafodd Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS) ei ailbrisio a gostyngwyd cyfraniadau ar gyfer aelodau a chyflogwyr. Yn ogystal, mae gwerth cyfraniadau yn y dyfodol i ddyled cynllun cyfrifedig cyfredol yr USS (sy’n cael ei rannu ymhlith yr holl gyflogwyr gweithredol yn y cynllun) hefyd wedi gostwng. Mae’r cynllun mewn gwarged ar hyn o bryd, felly mae’n dangos fel incwm yn hytrach na gwariant. Nid yw’r symudiad hwn yn arian sydd gan y Brifysgol ar gael i’w wario. Mae’n ‘warged cyfrifyddu’ ac mae’n rhaid ei ddangos yma fel rhan o’r rheolau cyfrifyddu*.
Dangosir gwarged sylfaenol y Brifysgol o £382,000 ar dudalen 15 o’r Datganiadau Ariannol, sy’n adlewyrchu perfformiad ariannol gweithredol y Brifysgol yn y flwyddyn ariannol honno.
* Ceir esboniad o’r rheolau hyn yn