ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Beth fydd ar gael i mi ynf y ystafell? 
Mae pob ystafell yn y neuaddau preswyl wedi’i dodrefnu, ac yn cynnwys gwely â matres, desg a chadair, basn golchi dwylo, drych, wardrob, silffoedd a chabinet wrth ochr y gwely.  - Bydd rhaid i chi gwblhau rhestr eiddo ar gyfer yr ystafell pan fyddwch yn cyrraedd. 

Oes angen trwydded deledu arna i? 
Mae gwybodaeth ar gael oddi wrth .

Oes cyswllt â’r rhyngrwyd yn fy ystafell? 
Bydd gan bob ystafell wely mewn neuadd breswyl fynediad at gyswllt rhyngrwyd diwifr rhad ac am ddim.   

Oes angen i mi drefnu yswiriant ar gyfer fy eiddo? 
Mae yswiriant eiddo myfyrwyr wedi’i ddarparu drwy Howden ar gyfer pob myfyriwr sy’n byw yn ein neuaddau preswyl. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o eiddo yn eich ystafell, gan gynnwys gliniaduron, offer chwaraeon ac offer trydanol, dillad a bwyd wedi’i rewi. Trefnir hyn gan y Brifysgol heb unrhyw gost ychwanegol i’r myfyrwyr. Os hoffech chi wirio beth sydd wedi’i gynnwys yn yr yswiriant, e-bostiwch accommodation@uwtsd.ac.uk.

Beth sydd angen i mi ddod gyda mi? 
Mae’n rhaid i fyfyrwyr ddod â’u dillad gwely, tywelion, hangeri dillad, offer coginio (yn cynnwys cyllyll a ffyrc a llestri), deunyddiau glanhau a golchi, cadachau golchi llestri, llieiniau sychu llestri, bwyd ac ati eu hunain. Bydd rhestr o’r eitemau rydyn ni’n argymell eich bod yn dod gyda chi yn cael eu hanfon atoch mewn neges e-bost cyn i chi gyrraedd y campws. 

Oes gwasanaeth bws ar gael? 
Mae amserlenni bysiau ar gael ar Ap yr HWB. 

Oes yna eitemau na ddylwn i ddod gyda fi? 
Ceir rhestr lawn o eitemau na chewch chi ddod â nhw gyda chi yn y Canllaw i Fywyd Preswyl

Ga’ i ddod â fy nghar? 
Byddwch yn derbyn e-bost gwybodaeth am barcio yn ystod eich wythnos gyntaf yn y
brifysgol.

Pa gyfleusterau golchi dillad sydd ar gael? 
Mae dau leoliad golchi dillad yng Nghaerfyrddin, sydd â pheiriannau golchi a sychwyr sy’n cael eu gweithredu gan gerdyn.

Pwy sy’n gyfrifol am lanhau? 
Mae pob myfyriwr sy’n byw mewn neuaddau preswyl yn gyfrifol am gadw’r llety’n lân ac yn daclus. Bydd tîm o lanhawyr (merched a dynion) yn dod i mewn i’r adeilad bob diwrnod gwaith rhwng 9.00y.b a 12.00y.p i wneud ychydig o lanhau ychwanegol yn y ceginau a choridorau. Sylwch, dydyn nhw ddim yn golchi llestri. Mae disgwyl i fyfyrwyr lanhau eu hystafell wely astudio eu hunain.

O ble y gallaf i gasglu fy mhost? 
Mae’ch holl bost yn cael ei ddanfon i’r Tîm Diogelwch yn y Dderbynfa Dewi a bydd yn ofynnol i chi gasglu yn ystod yr oriau casglu a ddangosir yn y Canllaw i Fyw Preswyl.

Ydw i’n gallu aros ar y campws yn ystod y gwyliau? 
Mae eich cytundeb trwydded yn cynnwys defnyddio’ch ystafell am 38 wythnos, sy’n cynnwys gwyliau’r Nadolig a’r Pasg.