
Diwrnodau Agored
Cyflwyniad Diwrnod Agored
Dewch i ymweld â ni a Darganfod Y Drindod Dewi Sant
Mae ein Diwrnodau Agored a’n Nosweithiau Agored yn gyfle perffaith i ddarganfod beth sydd gan ein cyrsiau a’n campysau i’w gynnig i chi. Bydd diwrnod agored yn rhoi blas i chi o astudio gyda ni, a chyfle i gwrdd â myfyrwyr presennol a rhai o’r tîm addysgu. Mae’r digwyddiadau hyn, a gynhelir trwy gydol y flwyddyn, yn rhoi cyfle i chi ofyn y cwestiynau sydd bwysicaf i chi, wrth benderfynu beth a ble i astudio. Cofrestrwch eich manylion heddiw i ddarganfod mwy am ein digwyddiadau sydd ar ddod.