Disgownt Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir i Gyn-fyfyrwyr
Disgownt Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir i Gyn-fyfyrwyr
Amdan y Bwrsari |
Disgownt ffioedd dysgu i Raddedigion PCYDDS i symud ymlaen i astudiaeth ôl-raddedig. |
Cymwys/Meini Prawf |
- Bydd pob myfyriwr presennol (DU/UE) sy’n astudio a chwblhau cwrs israddedig sy’n dwyn dyfarniad, llawn amser neu ran amser, yn PCYDDS, yn gymwys wrth symud ymlaen i gwrs ôl-raddedig maent yn ei ariannu eu hun.
- Bydd gan bob un o gyn-fyfyrwyr PCYDDS o’r DU a’r UE (gan gynnwys ein sefydliadau parter) sydd wedi cwblhau cwrs israddedig sy’n dwyn dyfarniad, hawl i’r disgownt, yn amodol ar yr eithriadau isod ynghylch ysgoloriaethau a nawdd.
- Mae’n rhaid bod ymgeiswyr yn gwneud cais am raglen Ôl-raddedig a Addysgir (MA, MTh, Mhres, MSc, MBA, a TAR ac eithrio PgCert a PgDip wedi’i lleoli ar un o Gampysau Cymru.
- Mae’n rhaid bod ymgeiswyr wedi cwblhau eu gradd israddedig o fewn y 2 blynedd diwethaf.
- Mae’n rhaid i bawb sy’n gymwys i gael y disgownt fodloni’r gofynion mynediad arferol ar gyfer y cwrs.
- Nid yw myfyrwyr sydd eisoes yn derbyn ysgoloriaeth gan y Brifysgol ar gyfer y cwrs y byddant yn symud ymlaen iddo yn gymwys ar gyfer y disgownt hwn.
- Nid yw myfyrwyr sydd eisoes yn derbyn ysgoloriaeth gan noddwr allanol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r noddwyr hynny y mae gan y Brifysgol gytundeb nawdd gyda nhw, ar gyfer y cwrs hwn, yn gymwys ar gyfer y disgownt hwn.
|
Sut i wneud cais |
Bydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso’n awtomatig ar gyfer cyn-fyfyrwyr cymwys. |
Gwybodaeth Ychwanegol |
Bydd y gostyngiad ffioedd hwn yn cael ei ddyfarnu’n pro-rata gyda chost y rhaglen a dwyster yr astudio. Mae’r £2,500 llawn ar gyfer cyrsiau sy’n costio £7,500 neu fwy. |
Gwerth y Gwobr |
Hyd at £2,500 |