O Gogydd i Weithiwr TG Proffesiynol: Taith Ysbrydoledig Mariya Todorova
Mae llwybr Mariya Todorova i lwyddiant yn dyst i benderfyniad a grym dilyn eich nwydau, waeth beth fo’r rhwystrau. Wedi’i geni ym Mwlgaria a’i magu yn yr Eidal, hyfforddodd Mariya i ddechrau fel cogydd, gan weithio yn y diwydiant lletygarwch am 14 mlynedd.

Fodd bynnag, arweiniodd ei gwir angerdd am dechnoleg at newid gyrfa a’r haf hwn, enillodd radd mewn Cyfrifiadura Cwmwl o gampws Llundain Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
Yn 2018, yn 24 oed, symudodd Mariya i Lundain, lle dechreuodd ei chariad at dechnoleg ffynnu. Er iddi golli lle ar gwrs Cyfrifiadura Cwmwl PCYDDS i ddechrau, daliodd ati, gan gofrestru’n llwyddiannus ym mis Hydref 2020.
Dywedodd Mariya iddo gychwyn ar ei siwrnai i dechnoleg yn ei dyddiau ysgol, lle’r oedd hi’n fyfyrwraig ar gyfer tasgau cyfrifiadurol, ac fe wnaeth damwain gofiadwy gyda firws ar liniadur ei mam ond dyfnhau ei diddordeb mewn seiberddiogelwch.
Fe wnaeth ei hymdrech i wneud ei theulu yn falch, yn enwedig trwy ddod y cyntaf yn ei theulu i ennill gradd prifysgol, ysgogi ei phenderfyniad trwy gydol ei hastudiaethau. Talodd ei gwaith caled ar ei ganfed, ac yn fuan sicrhaodd rĂ´l amser llawn mewn TG fel cynorthwyydd yn PCYDDS, a arweiniodd yn ddiweddarach at ei swydd bresennol fel Peiriannydd Desg TG ar gyfer Gwasanaethau TG a Reolir gan Lyon Tech.
“Mae’r rôl hon wedi rhoi’r cyfle i mi weithio ar y safle i Perkins and Will, stiwdio ddylunio fyd-eang – gwireddu breuddwyd,” meddai.
Nid tasg hawdd oedd cydbwyso ei swydd amser llawn, sifftiau dwbl, a’i hastudiaethau, ond mae Mariya’n cydnabod ei llwyddiant i’r wybodaeth a’r sgiliau sylfaenol a gafodd yn PCYDDS.
Mae hi’n gwerthfawrogi’n arbennig fentoriaeth ac arweiniad ei hyfforddwyr, gan gynnwys Mr. Paul Wallin, Mr Suneth Fernando, Miss Renuga Jayakumar, Mr. Sadeque Shaikh, a Mr. Anupam Mazumdar, y mae ei ddysgeidiaeth wedi ei hysbrydoli i ymchwilio’n ddyfnach i feysydd megis seiberddiogelwch, codio Ă´l-wyneb, a dadansoddi data.
“Dri mis i mewn i fy rôl amser llawn, rydw i eisoes yn wynebu heriau dyddiol y gallaf eu datrys diolch i’r wybodaeth a’r sgiliau a enillais yn ystod fy astudiaethau,” ychwanegodd Mariya. “Rhoddodd y cwrs yn PCYDDS y sylfaen a’r offer angenrheidiol i mi lwyddo, ond mae’n bwysig cofio bod ymdrech a phenderfyniad yn allweddol i gyflawni eich nodau.”
Mae Mariya yn bwriadu dilyn ei hardystiad CCNA a throsglwyddo i yrfa mewn seiberddiogelwch.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ąó´ÚĂ´˛Ô:&˛Ô˛ú˛ő±č;07384&˛Ô˛ú˛ő±č;467071