ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn barod i gyflwyno eu prosiectau terfynol yn Sioeau Haf blynyddol hir-ddisgwyliedig y Brifysgol, gydag arddangosfeydd yn cael eu cynnal ar draws Abertawe, Caerfyrddin, Caerdydd a Llundain o fis Mai i fis Gorffennaf. 

A building is projected onto a wall and an out of focus student is walking past the exhibition.

Mae’r arddangosfeydd yn amlygu doniau aruthrol o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau creadigol, gan gynnwys Celf Gain, Dylunio Graffig, Actio, Gwneud Ffilmiau Antur, Dylunio Modurol, a rhagor. Adeilad Dinefwr yn Abertawe a Chanolfan Ddylunio Alex yng nghanol y ddinas fydd yn gartref i ran helaeth y sioeau, ynghyd â pherfformiadau yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin a digwyddiadau mewn lleoliadau mawreddog yn Llundain.

Yn rhan annatod o galendr y Brifysgol, bydd y sioeau eleni hefyd yn dathlu amrywiaeth gyfoethog gwaith myfyrwyr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA) y Brifysgol, gan gynnig llwyfan deinamig i dalentau newydd ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol y diwydiant a’r cyhoedd fel ei gilydd.

Meddai Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru:

“Mae’r sioeau Graddio Haf yn dathlu doniau creadigol ysbrydoledig ein myfyrwyr. Mae arloesedd ac amrywiaeth gwaith y myfyrwyr yn dyst i’w hymroddiad a’u cymhwysiad creadigol o’u harfer personol.  Mae’r sioeau hyn yn benllanw astudio academaidd, ond hefyd yn ddechrau teithiau creadigol proffesiynol. Rydym yn gwahodd pawb i ddod i ddathlu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr creadigol.â€

Mae’r sioeau nid yn unig yn arddangos arloesedd eithriadol ond hefyd yn tanlinellu’r rôl hanfodol mae addysg y celfyddydau creadigol yn ei chwarae yn y gymdeithas. Mae’r diwydiannau creadigol yn cael effaith ddylanwadol ar economi’r DU, gan gyfrannu dros £100 biliwn bob blwyddyn ac yn tyfu ddwywaith mor gyflym â’r economi yn gyffredinol. 

Mae sefydliadau fel Coleg Celf Abertawe, PCYDDS, y coleg celf hynaf yng Nghymru, wedi bod ar flaen y gad yn y sector deinamig hwn ers amser maith, gan gynhyrchu graddedigion sy’n dod yn artistiaid, dylunwyr, animeiddwyr a gwneuthurwyr ffilmiau a gydnabyddir yn fyd-eang.

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd (Celf a’r Cyfryngau) yng Ngholeg Celf Abertawe:

“Mae cynnal y Sioeau Haf yn rhan hanfodol o’n cenhadaeth yn PCYDDS. Mae’n rhoi llwyfan proffesiynol i’n myfyrwyr i rannu eu creadigrwydd gyda’r byd, yn dathlu eu gwaith caled, ac yn eu cysylltu â’r diwydiannau y maent ar fin camu iddynt. Mae’r sioeau yn arddangosfa falch o dalent newydd ac yn dyst i bŵer trawsnewidiol addysg greadigol.â€

Dywedodd Lynne Seymour, Cyfarwyddwr Academaidd Diwydiannau Dylunio a Pherfformio PCYDDS:

 â€œMae arddangosfa’r flwyddyn olaf hon yn fwy na dathliad – mae’n ddatganiad pwerus am ddyfodol y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol. Nid perfformwyr, crewyr, artistiaid a gwneuthurwyr ffilm yn unig yw ein myfyrwyr; maen nhw’n gydweithredwyr, yn arloeswyr, ac yn weledwyr sy’n deall bod creadigrwydd yn ffynnu drwy gysylltiad. Mewn byd sy’n gynyddol ryng-gysylltiedig, mae cydweithio yn golygu buddsoddi mewn diwydiant addysgiadol a chelfyddydol sy’n gynyddol ryng-gysylltiedig, ac mae buddsoddi mewn addysg gelfyddydol yn ysgogi newid a hybu newid yn y dyfodol. Dwi methu aros i gynulleidfaoedd weld eu gwaith ysbrydoledig.â€

Mae’r arddangosfeydd eleni’n cwmpasu ystod drawiadol o ddisgyblaethau, sydd hefyd yn cynnwys Dylunio,  Patrymau Arwyneb a Thecstilau, Ffilm a Theledu, Pensaernïaeth, Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth, y Diwydiannau Perfformio a rhagor. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:

  • Sioeau Coleg Celf Abertawe yn adeiladau Dinefwr ac Alex (o 16 Mai)
  • Ar gampws y Glannau, Abertawe, arddangosfeydd Pensaernïaeth 6 Mehefin, a Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth 14 Mehefin 
  • Arddangosfeydd Gwneud Ffilmiau Antur ac Actio, Dylunio Setiau a Pherfformio yng Nghaerfyrddin (15 i 17 Mai)
  • Sioeau WAVDA, Caerdydd yn cynnwys perfformiadau Dawns Fasnachol, a Theatr Gerddorol
  • Arddangosfeydd Llundain yn sioe y New Designers ac Oriel Copeland yr haf hwn
  • Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth yn yr ŵyl fawreddog ‘Goodwood Festival of Speed’ (10 i 13 Gorffennaf)

Mae manylion llawn ac amserau agor yr arddangosfeydd ar gael yma.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07384&²Ô²ú²õ±è;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon