Cyflwyniad
Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn derbyn gohebiaeth gan y Tîm Derbyn yn manylu ar y wybodaeth bwysig ynghylch Ffioedd a Chyllid.
Gwybodaeth Bwysig
Mae’r Brifysgol yn defnyddio i alluogi myfyrwyr i wneud taliadau ffioedd dysgu myfyrwyr rhyngwladol, costau llety a thaliadau eraill. Nid yw’r brifysgol yn derbyn taliadau arian parod na throsglwyddiadau banc uniongyrchol mewn unrhyw arian cyfred.
Peidiwch â pheryglu eich arian trwy ddelio ag unrhyw ddarparwyr taliadau, asiantau neu gyfryngwyr, a allai gynnig cyfraddau cyfnewid neu gymelliadau sy’n ymddangos yn ddeniadol, ond na ellir gwarantu eu bod yn ddiogel neu’n gyfreithlon.
Fel rhan o ddeddfwriaeth atal gwyngalchu arian y DU, mae angen i’r Brifysgol ddeall o ble mae taliadau ffioedd dysgu yn dod. Dyma pam nad ydym bellach yn galluogi gwneud taliadau ffioedd dysgu na thaliadau llety trwy drosglwyddiad banc uniongyrchol.
Talwch Nawr Gyda Flywire
Mae yn darparu porth talu ar-lein y Brifysgol sy’n galluogi talu drwy:
- Trosglwyddiadau banc y DU a rhyngwladol
- Cardiau credyd/debyd
- Alipay
- UnionPay
- Trustly
Nid yw Flywire wedi’i ffurfweddu â thaliadau cerdyn American Express. Mae Flywire yn cynnig y gwarant ar gyfer taliadau rhyngwladol gan ddefnyddio trosglwyddiad banc mewn arian cyfred lleol. Os cewch chi gynnig cyfradd well yn eich banc o fewn dwy awr ar ôl archebu taliad trosglwyddiad banc mewn arian cyfred lleol, yna bydd Flywire yn cynnig yr un gyfradd.

Rheoliadau Atal Gwyngalchu Arian
Mae Rheoliadau Atal Gwyngalchu Arian yn y DU yn ei gwneud yn ofynnol i’r Brifysgol fod yn ‘weddol fodlon’ ynghylch pwy yw’r myfyriwr (ac eraill) maent yn ymwneud â nhw mewn perthynas gytundebol.
Golyga hyn y bydd y Brifysgol yn cynnal gwiriadau ‘adnabod eich cwsmer’ gan ddefnyddio gwybodaeth bersonol yn cynnwys dyddiad geni a chyfeiriad cartref. Os yw taliadau i gael eu derbyn gan drydydd partïon – fel aelodau o’r teulu neu noddwyr - yna efallai y bydd angen darparu dogfennaeth ychwanegol yn profi eu henw, eu cyfeiriad a’u perthynas â chi.
-
Mae unigolion yn cysylltu â myfyrwyr gan gynnig talu eu ffioedd ar gyfraddau is neu o dan amodau arbennig. Fe all twyllwyr gyflwyno’u hunain fel asiantaethau neu gymdeithion dilys, gallent fod yn ffrind. Peidiwch fyth ag ymateb i’r cynigion hyn a thalwch eich ffioedd dysgu yn uniongyrchol i PCYDDS gan ddefnyddio’r dulliau talu awdurdodedig.
Gwybodaeth Cysylltu
Ar gyfer unrhyw gwestiynau ynglŷn â Thaliadau Ffioedd Rhyngwladol anfonwch e-bost i’r Swyddfa Ryngwladol
Derbyniadau Rhyngwladol Cymru: WalesInt@uwtsd.ac.uk
Derbyniadau Rhyngwladol Llundain: LondonInt@uwtsd.ac.uk
Derbyniadau Rhyngwladol Birmingham: BirminghamInt@uwtsd.ac.uk