ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Graddedigion Newydd

Dychmygwch hyn: rydych wedi cwblhau eich astudiaethau, ac mae diwrnod graddio ar y gorwel – neu efallai ei fod eisoes wedi dod a mynd. Felly, beth nawr?

Nawr rydych yn dechrau ar bennod newydd yn eich taith gyda PCYDDS. Rydych chi’n dal i fod yn rhan o’n cymuned ar ôl i chi raddio, ac mae hynny’n dod â rhai manteision gwych!

Beth bynnag yw eich camau nesaf, rydyn ni dal yma i’ch cefnogi. 

Beth sy’n eich disgwyl ar ôl graddio:

01
Cymorth Gyrfa Parhaus: Parhewch i ddefnyddio’r Gwasanaethau Gyrfaoedd am hyd at ddwy flynedd – gan gynnwys mynediad am ddim i MyCareer, gyda bwrdd swyddi byw, cynllunydd gyrfa, gwiriwr CV, a ffug gyfweliad rhithwir. Newidiwch i gyfrif Cyn-fyfyriwr.
02
Cymorth Entrepreneuraidd: Os ydych chi'n ystyried cychwyn busnes eich hun neu fynd yn llawrydd, cewch gyngor arbenigol gan ein tîm Menter, yn ogystal â mynediad i'w gweithdai a'u digwyddiadau am ddim a chyllid posibl ar gyfer eich menter newydd.
03
Rhwydweithio a Digwyddiadau: Cadwch mewn cysylltiad drwy ddigwyddiadau gyrfaoedd a rhwydweithio, ac ymunwch â'n grŵp LinkedIn i raddedigion yn unig i glywed y cyfleoedd a'r diweddariadau diweddaraf. Gwnewch yn siŵr bod gennym eich manylion cyswllt.
04
Disgownt Astudio Ôl-raddedig: Os penderfynwch barhau i ddysgu gyda ni, yn dibynnu ar eich cwrs a champws, gallwch fod yn gymwys i dderbyn gostyngiad ffioedd dysgu o hyd at £2,500 drwy’r Disgownt Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir i Gyn-fyfyrwyr.
05
Adnoddau Llyfrgell a Dysgu: Parhewch i ddefnyddio mannau llyfrgell a detholiad o gronfeydd data ar-lein, yn ogystal â benthyg eitemau ffisegol drwy gynlluniau partneriaid arbennig – ar gael mewn rhai lleoliadau.
06
Mynediad i E-bost a Disgowntiau Hamdden: Cadwch fynediad i'ch e-bost myfyriwr am flwyddyn ar ôl i'ch astudiaethau ddod i ben, gan roi amser i chi ddiweddaru eich cysylltiadau, a mwynhewch ddisgowntiau ar weithgareddau hamdden, yn dibynnu ar leoliad.

Y rhestr lawn o fanteision sydd ar gael i chi fel graddedig newydd a thu − hwnt y ffordd yma:

Graduate Quotes

Hyd yn oed ar ôl graddio, roedd cael mynediad parhaus i’r gwasanaeth gyrfaoedd yn gwneud i mi deimlo’n fy mod yn cael fy nghefnogi a’m cofio. Wrth i mi ehangu fy ngyrfa, mae eu cyngor wedi fy helpu i gynnal fy ffocws, i fod yn hyderus ac i gadw mewn cysylltiad â chyfleoedd gwerthfawr.

 

Alina Mariutac

Un o raddedigion MA Arweinyddiaeth

Image of woman in graduation cap and gown

Graduate outcomes survey

gliniadur ar fwrdd gyda 'Arolwg Hynt Graddedigion' ar y sgrin

Llunio’r dyfodol trwy gwblhau’r arolwg Hynt Graddedigion

Pymtheg mis ar ôl cwblhau’ch cwrs, cewch eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg Hynt Graddedigion.

Mae’n gofyn beth rydych chi’n ei wneud nawr – gweithio, teithio, neu astudio – a sut helpodd eich cwrs chi. Mae eich mewnbwn yn ein helpu i wella ein cyrsiau a’n gwasanaethau, yn cefnogi myfyrwyr y dyfodol, ac yn dangos effaith gradd PCYDDS.

Cysylltir â chi dros e-bost, ffôn neu neges destun, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich manylion cyswllt yn gyfredol drwy  neu thrwy ein ffurflen Diweddaru Eich Manylion.

Tystysgrifau a Thrawsgrifiadau

Bydd eich tystysgrif - sef prawf swyddogol eich gradd - yn cael ei phostio tua wyth wythnos o’r Bwrdd Dyfarnu. Byddwch hefyd yn derbyn copi o’ch trawsgrifiad terfynol - cofnod llawn o’ch astudiaeth academaidd gan gynnwys canlyniadau modiwlau. 

P’un a ydych chi’n dewis eu fframio, neu eu storio yn rhywle diogel, maen nhw’n ddogfennau pwysig y gallai fod eu hangen yn y dyfodol. 

Os bydd angen copïau newydd arnoch chi nes ymlaen, gallwch chi eu harchebu am ffi.

The Alumni Network

Myfyrwyr yn taflu eu capiau wrth raddio

Cadwch mewn cysylltiad trwy’r Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr

Rydyn yma i’ch cefnogi, nid yn unig fel graddedigion newydd - rydych chi’n rhan o’n cymuned o gyn-fyfyrwyr am oes.

Fe gewch chi e-bost croeso â phopeth sydd ei angen arnoch chi i gadw mewn cysylltiad, yn ogystal â chylchlythyrau digidol parhaus - cyhyd ag yr hoffech chi eu derbyn - a mynediad i’n cylchgrawn cyn-fyfyrwyr blynyddol, sy’n llawn straeon, digwyddiadau, a ffyrdd o gymryd rhan.