ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Mae’r fyfyrwraig raddedig fedrus, Amy Holley-Cribbin, yn gwneud ei marc yn y diwydiant creadigol gyda’i chwmni cynhyrchu fideo, Nomadic UK, asiantaeth arobryn yn Cheltenham sy’n arbenigo mewn adrodd straeon gweledol o ansawdd uchel. Yn fwyaf diweddar, mae’r cwmni wedi bod yn gwneud gwahaniaeth yn y gymuned trwy gynnal Cystadleuaeth Hysbyseb Nadolig Elusennol.

woman smiling

Mae Amy sy’n gyn-fyfyrwraig y cwrs Llenyddiaeth Saesneg yng nghampws Llambed, yn cydnabod ei chyfnod trawsnewidiol yn Llambed am lunio ei thaith greadigol. Pan oedd yn y brifysgol, cyfarwyddodd nifer o gynyrchiadau drama, gan gynnwys Wyrd Sisters ac Abigail’s Party. Yn ogystal, chwaraeodd ran allweddol ym mywyd y campws fel Llywydd-Gyfarwyddwr y Gymdeithas Ddrama, Ysgrifennydd Undeb y Myfyrwyr, a chyd-olygydd cylchgrawn 1822.

Ar ôl ennill ei BA yn 2009, dilynodd Amy astudiaethau pellach mewn theatr, ffilm a llenyddiaeth Fictoraidd, gan arwain at PhD yn canolbwyntio ar addasiadau o nofelau’r Oes Fictoria i gynyrchiadau llwyfan. Yn ystod ei hastudiaethau, cyflwynodd bapur a enillodd Fwrsari Teithio Coffa Sally Ledge iddi gan BAVS (Cymdeithas Astudiaethau Fictoraidd Prydain) yn 2016. Arweiniodd ei hymchwil arloesol hefyd at ddarganfod drama a gollwyd ers peth amser gan y dramodydd John Brougham, The Mystery of Audley Court. Yna fe wnaeth droi’r ddrama’n  ddigidol a’i chyhoeddi, gan gadarnhau ei henw da fel ysgolhaig ymroddedig â grym creadigol.

Yn 2017, penderfynodd Amy a’i gŵr gyfuno eu sgiliau i greu gofod unigryw yn y diwydiant creadigol. Arweiniodd hyn at lansio Nomadic UK, cwmni sydd wedi gweithio gyda chleientiaid o fri ers hynny, yn eu plith John Lewis, Superdry a Paddy Power. Yn ogystal â’r prosiectau hyn, mae Amy wedi defnyddio ei doniau i ysgrifennu sgriptiau ar gyfer sioeau teledu plant ac yn rhith-awdur ar gyfer ffigurau proffil uchel. Fodd bynnag, mae gan ei Chystadleuaeth Hysbyseb Nadolig Elusennol le arbennig yn ei chalon gan ei bod yn ei galluogi hi a’r cwmni roi yn ôl i’r gymuned o’u cwmpas.

mewn yn cymryd hunlun mewn het Sion Corn
Amy ar set yr ymgyrch hysbysebu Nadolig ar gyfer elusen digartrefedd ieuenctid, Gloucestershire Nightstop

Dywedodd Amy: “Rydym yn gwybod pa mor anodd y mae misoedd y gaeaf yn gallu bod i gymaint o bobl. Gall y Nadolig fod yn arbennig o anodd i deuluoedd sydd wedi colli rhywun maen nhw’n ei garu, boed hynny oherwydd salwch, colled neu heriau eraill. Drwy’r gystadleuaeth hon, ein nod yw rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned drwy greu hysbyseb eithriadol sy’n gallu lledaenu llais ac ymdrechion codi arian elusennau.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, penderfynodd y cwmni gynnig y cyfle i elusen o Sir Gaerloyw ennill hysbyseb Nadolig gwerth hyd at £4,000. Gan gydnabod gwerth cynnwys fideo o ansawdd uchel, y mae cwmnïau fel John Lewis yn buddsoddi ynddynt ar gyfer eu hymgyrchoedd Nadolig, nod Nomadic UK yw darparu’r un lefel o gynhyrchu i elusen leol. 

Perfformiwyd cais buddugol eleni, a grëwyd ar gyfer yr elusen ddigartrefedd ieuenctid Gloucestershire Nightstop am y tro cyntaf ar Dachwedd 22 yn ystod noson arbennig i’r wasg. Mae’r hysbyseb calonogol yn amlygu’r angen dybryd i drigolion lleol agor eu cartrefi i bobl ifanc fregus yn ystod misoedd y gaeaf neu gyfrannu at waith hanfodol yr elusen.

Dywedodd Amy: “Rydym yn gobeithio y bydd yr hysbyseb hon yn sbarduno cysylltiad pwerus ac yn gyrru’r gefnogaeth sydd ei hangen ar Gloucestershire Nightstop y gaeaf hwn.â€

Mae taith Amy o fyfyriwr angerddol yn Llambed i ffigwr uchel ei barch yn y byd creadigol yn dyst i’w hymroddiad a’i chreadigrwydd. Fel arloeswr yn y meysydd academaidd a chreadigol, mae’n parhau i lunio’r rhagoriaeth adrodd straeon y mae Nomadic UK yn enwog amdani.

Am fwy o wybodaeth am Nomadic UK a’u gwaith, ewch i .

A gwyliwch hysbyseb Nadolig Nightstop Sir Gaerloyw


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;+447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon