ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation
Date(s)
This event has multiple dates:
  • -
  • -

Register Now

Ymunwch ag addysgwyr, technolegwyr, ymchwilwyr, a llunwyr polisi wrth i ni archwilio rôl Deallusrwydd Artiffisial sy’n esblygu’n gyflym mewn addysg - o ddefnydd ymarferol ar lawr dosbarth i ddyfodol dysgu ac asesu.

  • Dyddiadau: 1af – 2ail Gorffennaf 2025
  • Amser: Gorffennaf 1af o 13:00 / Gorffennaf 2ail o 09:30
  • Lleoliad: Ar-lein

Digwyddiad deuddydd gyda sawl sesiwn - Galwch heibio i rai neu’r cyfan.

Os ydych chi eisoes yn defnyddio AI wrth addysgu neu’n dechrau archwilio ei botensial, bydd y gynhadledd hon yn cynnig canfyddiadau, ysbrydoliaeth a chyfleoedd cydweithredu.

Meithrin cydweithredu a rhannu arferion gorau mewn AI a dysgu ymdrochol. Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar feysydd megis: 

  1. Pam mae AI yn bwysig mewn addysg?
  2. Galluoedd Addysg
  3. Ystyriaethau moesegol: Beth yw moeseg AI
  4. AI gyda’r Gymraeg

Prif Siaradwyr

Tim Bashford, Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd Ymchwil WIDI yn PCYDDS

Pwnc: Beth yw AI? Hanes AI. Pam mae AI yn bwysig mewn addysg?

Dyddiad & Amser: 01.07.2025 - 13:00   

Danny Liu, Athro ym Mhrifysgol Sydney

Pwnc: CRAFTio ffordd ymlaen i sefydliadau. Diwylliant, rheolau, mynediad, cynefindra, ac ymddiriedaeth – mae’r pum prif elfen yn helpu unigolion a sefydliadau i ymgysylltu ag AI.

Dyddiad & Amser: 01.07.2025 - 14:00   

Kara Lewis: AI a’r Gymraeg

Jeremy Evas a Gareth Morlais: Technoleg a Defnydd o’r Gymraeg

Cynog a Gruffudd Prys: Ieithoedd Lleiafrifol mewn Byd Cynyddol Ddigidol

Dyddiad & Amser: 01.07.2025 - 15:15

Joe Houghton, Houghton Consulting 

Pwnc: Galluoedd Addysg. Fframwaith addysgwr 

Dyddiad & Amser: 02.07.2025 - 09:30

Michael Webb, Jisc

Pwnc: Cyfleoedd AI i Addysg Drydyddol yng Nghymru.
Mae Deallusrwydd Artiffisial yn esblygu ar gyflymder anhygoel, gan drawsnewid diwydiannau ac ailddiffinio’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio’r dirwedd AI sy’n newid yn gyflym a’r hyn y mae’n ei olygu i addysg drydyddol yng Nghymru.

Dyddiad & Amser: 02.07.2025 - 11:15

Pwy ddylai ddod: 

Staff y Brifysgol, addysgwyr, ymchwilwyr, a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn AI a dysgu ymdrochol.

Manteision: 

Cyfleoedd rhwydweithio, canfyddiadau i gymwysiadau AI, mynediad at ymchwil ac arferion arloesol.

Cofrestriad 

Sut i Gofrestru: Cofrestrwch ar gyfer pob sesiwn unigol yr hoffech chi fynd iddi drwy ddefnyddio’r ddolen yn y rhestr uchod.

Methu ymuno â ni yn fyw? Cofrestrwch beth bynnag, a byddwn yn anfon y recordiad atoch. 

Rhannwch y digwyddiad hwn