ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Natasha Doyle - Addysg Gynradd gyda SAC (BA)

Profiad PCYDDS Natasha

Natalie standing at the top of pen y fan

Helo! Natasha ydw i a dwi’n fyfyriwr sy’n astudio Addysg Gynradd yn yr iaith Gymraeg. Treuliais amser yn y byd gwaith ar ol gadael ysgol, ond roedd addysgu wastad yn angerdd roeddwn am ei ddilyn.  

I ddechrau, cofrestrais ar y llwybr Saesneg, ond ar ôl meddwl yn hir roeddwn am roi cynnig ar y llwybr Cymraeg. Cefais fy addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly teimlaf mae angen rhoi cynnig arni.   

Teimlais ddiffyg hyder I ddechrau, gan nad oeddwn i wedi defnyddio’r iaith am gyfnod hir, yn enwedig mewn amgylchedd academaidd. Fodd bynnag, yn gyflym iawn cefais chefnogaeth i mi deimlo’n ddigon hyderus i barhau â’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf mor falch fy mod wedi gwneud, gan ei fod wedi agor lawer o ddrysau i mi bellach gyda’r cyfleoedd I addysgu mewn ysgolion Cymraeg a parhau I ddathlu Cymreictod.  

Byddaf yn barod I annog unrhyw un sydd â’r gallu i siarad Cymraeg i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, hyd yn oed os nad ydych chi’n teimlo bod eich sgiliau o safon, mae’r gefnogaeth yn eithriadol o dda. Mae llawer o gyfleoedd i feithrin eich sgiliau yn y brifysgol.  

Gwybodaeth Allweddol

Enw: Natasha Doyle

Rhaglen: BA Addysg Gynradd gyda SAC 

Tref eich Cartref: Tonyrefail - Rhondda 

Natasha's Programme Name Experience

Profiad Addysg Gynradd gyda SAC Natasha

Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS? 

Mae PCYDDS wastad wedi derbyn enw da yn arbennig o fewn y byd addysg. Roeddwn i eisiau prifysgol sy’n barod i roi gefnogaeth a digon o brofiadau yn yr ysgol. Ar ol darllen am y cwrs, gwelais digon o amser ar brofiad addysgu a  hefyd y cefnogaeth ar gampws. Rwyf hefyd wedi treulio llawer o fy mhlentyndod yng Nghaerfyrddin gan fod fy nain a thaid yn byw yn y dref ac mae gennyf atgofion hapys o’r ardal a’r bobl.  

Beth gwnaethoch chi fwynhau tu allan i’ch astudiaethau?  

Rwy’n mwynhau cymdeithasu gyda ffrindiau a chadw’n heini trwy fynd am dro a mwynhau’r awyr agored. 

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?  

Gobeithio byddaf yn mynd am swydd yn syth o fewn Ysgol Gynradd Gymraeg. Dwi’n gobeithio dysgu dosbarth fy hun yn y dyfodol ac yna defnyddio’r sgiliau a’r profiadau o’r brifysgol o fewn y byd gwaith. 

Beth oedd eich hoff beth am Addysg Gynradd gyda SAC?

Dwi’n mwynhau’r elfen o astudio ar gampws ond hefyd y cyfle i fynd allan i gael profiad uniongyrchol yn yr ystafell dosbarth. Dwi’n meddwl mai’r darlithwyr yn darparu darlithoedd buddiol a broffesiynol iawn, a digon o gymorth trwy’r amser.  

Beth yw eich Hoff beth am Gampws Caerfyrddin?

Rwy’n hoffi’r awyrgylch o amgylch gampws, mae’n gyfeillgar iawn. Mae’r CWAD yn ardal hyfryd i gael coffi a chacen ac ymlacio gyda ffrindiau. Dwi’n hoff iawn hefyd o’r lleoliad, mae canol y dref yn agos iawn. Mae’r llyfrgell yn un o fy hoff gyfleusterau, mae’r amseroedd agor yn hyblyg iawn i allugoi pawb i fynd mewn amser gyfleus iddyn nhw.  

Wnaethoch chi ddod i PCYDDS trwy lwybr arall?

Ymunais â fy nghwrs trwy’r system glirio, oherwydd sylweddolais tra roeddwn yn gweithio swydd nad oedd yn mwynhau teimlais fy mod eisiau newid. I ddechrau roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n rhy hwyr, er hynny wnaeth clirio gwneud hi’n bosibl i mi. Cefais gyfweliad ar-lein ac yna dechreuais ym mis Medi.