ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Aimee Rayner - Patrwm Arwyneb a Thecstilau (BA)

Aimee Rayner yn PCYDDS

Aimee Rayner

Enw: Aimee Rayner 

Cwrs: BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau

Astudiaethau Blaenorol: Blwyddyn gyntaf Gradd BSC Nyrsio Oedolion yn UWE

Tref eich cartref: Southampton

Profiad Aimee ar BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau

Aimee Rayner

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Mae Abertawe yn ddinas mor gyfeillgar ac mae’n berffaith ar gyfer myfyrwyr.  Mae’n ddigon mawr gan fod llawer i’w archwilio, ond yn ddigon bach i deimlo fel cymuned.  Mae’r cyfleusterau celf yn anhygoel, gan gwmpasu cymaint o brosesau gyda thechnegwyr hynod wybodus i’ch addysgu.  Yn ogystal, roedd llawer o ryddid a chyfrifoldeb i gael eich hyfforddi i ddefnyddio’r rhan fwyaf o’r offer eich hun mewn oriau mynediad agored nad yw rhai prifysgolion yn gadael i chi ei wneud. 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Roeddwn i’n hoffi’r ymdeimlad bod PCYDDS yn fy meithrin gydag oriau addysgu gwych ar fy nghwrs.   Mae’r cymorth gan y staff wedi bod yn wych yn ogystal â’r cymorth â llesiant ac astudio.  Yn ogystal, mae ganddynt gysylltiadau gwych â’r diwydiant a chyfleoedd ar leoliadau i’r rheiny sy’n gwthio eu hunain o’u mannau cysurus ac yn mynd amdani! Mae undeb y myfyrwyr yn weithredol iawn hefyd ac yn gefnogol gyda chymaint yn digwydd ar draws y campysau. 

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Ymunais â chlwb rhedeg Swansea Harriers a chystadlu mewn cynghreiriau traws gwlad lleol a rasys cyfnewid ffordd.  Yn ogystal, cefais gefnogaeth gan gymdeithas Chwaraeon Unigol y brifysgol a oedd wedi fy helpu i reoli sesiynau hyfforddi a chystadlaethau ochr yn ochr â’m hastudiaethau.  Rwyf wedi mwynhau mynd allan i fyd natur hefyd – nofio gwyllt yn y Gŵyr, beicio a rhedeg ar hyd y llwybrau arfordirol a hyd yn oed roi cynnig (yn wael iawn) ar syrffio!

Roeddwn i a fy ffrindiau yn arfer mynd i dafarn gydag oriel yn y cefn a oedd yn cynnal sesiynau arlunio bywyd bob wythnos. Roedd hyn yn ffordd wych o gwrdd â phobl greadigol eraill.   

Rwy’n rhan o’r tîm allgymorth artistiaid sy’n hwyluso gweithdai i grwpiau ac ysgolion yn y gymuned ac rwyf wrth fy modd yn cynnal y rhain gyda’r tîm.  

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Rwy’n ddigon ffodus i gael interniaeth â thâl gyda thîm dylunio pwrpasol Rolls Royce ac yn edrych ymlaen at ddechrau ym mis Gorffennaf.  Byddaf yn gweithio mewn lliw a defnyddioldeb yn ogystal ag ochr yn ochr â’r tîm arloesi.  Rwyf hefyd wedi meithrin cysylltiadau anhygoel â phobl ac artistiaid yn Abertawe ac o gwmpas y ddinas. Rwy’n gobeithio cadw mewn cysylltiad â’r rhain a pharhau i weithio gyda nhw.  Yn ogystal, hoffwn barhau i redeg gweithdai creadigol.  

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Roedd y gymhareb myfyriwr i staff a’r amserau cyswllt yn golygu bod pob un ohonom wedi cael cefnogaeth 1:1 gan y darlithwyr bob dydd, hyd yn oed yn y flwyddyn olaf.  Roedd yn awyrgylch bach cyfeillgar, ond gyda chyfleusterau anhygoel a staff a oedd wrth law i’ch helpu a’ch gwthio.  Mae gan y tîm gysylltiadau gwych â’r diwydiant a chymaint o wybodaeth o dechnegau a phrosesau crefft, i sut i werthu eich hun fel dylunydd a’r hyn y mae’r diwydiant yn chwilio amdano.  

Aimee Rayner

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn, mae Coleg Celf Abertawe wedi blaenoriaethu cydbwysedd rhwng caniatáu rhyddid creadigol, gan eich dysgu cymaint yn nhermau’r broses, eich caniatáu i archwilio beth bynnag y mae gennych ddiddordeb ynddo a chyfuno hynny â phrofiad diwydiant go iawn, cyngor busnes a’r holl syniadau o’r diwydiant i ddefnyddio eich gradd greadigol i gael profiad a swydd.  Rwy’n teimlo mor barod ag y gallaf i fynd ar fy antur nesaf.