Profiad PCYDDS Katrina Peters
Helo! Kartina Peters ydw i, Dirprwy Bennaeth, a astudiodd BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn Y Drindod Dewi Sant. Roedd astudio Addysg Blynyddoedd Cynnar yn fy nghefnogi fel mam ac yn fy ngalluogi i weithio fel cynorthwy-ydd addysgu. O’r fan hon, penderfynais fy mod i eisiau dysgu.
Gwybodaeth Allweddol
Enw: Katrina Peters
Rhaglen: BA Blynyddoedd Cynnar a Gofal
Astudiaethau Blaenorol: Cwblheais fy lefelau A chwe blynedd cyn meddwl am wneud gradd
Tref eich Cartref: Porth Tywyn
Katrina Peters' Programme Name Experience
Profiad Blynyddoedd Cynnar a Gofal Katrina

Beth oedd dy hoff beth am gampws Caerfyrddin?
Roedd campws Caerfyrddin wedi rhoi popeth yr oedd ei angen arnaf wrth astudio; mannau agored tawel, llyfrgell ag adnoddau da a lleoedd i gymdeithasu â fy ffrindiau. Fel myfyrwraig aeddfed, roeddwn yn poeni na fyddai’n teimlo bod croeso i fi ar y campws, ond roedd hyn yn bell o fod yn wir.
Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Cynigiodd PCYDDS ddull hyblyg o astudio. Roedd hyn wedi caniatáu i mi weithio llawn amser a bod yn fam i fy nau o blant. Roedd yn glir o’r dechrau y byddai’r darlithoedd a strwythur y cwrs yn fy nghefnogi drwy fy astudiaethau. Roedd y cwrs yn ymwneud yn uniongyrchol â fy swydd, a oedd wedi fy nghaniatáu i fynd i’r gwaith y diwrnod wedyn a rhoi fy ngwybodaeth newydd ar waith!
Beth gwnaethoch chi fwynhau tu allan i’ch astudiaethau?
Gan fy mod yn gweithio ac yn fam i ddau o blant ifanc, doedd dim llawer o amser gennyf i wneud unrhyw beth y tu allan i fy astudiaethau! Ond, fe wnes i adeiladu grŵp cyfeillgarwch gwych o bobl o’r un anian a oedd mewn amgylcheddau tebyg i mi fy hun. Roedd y rhwydwaith hwn wedi rhoi’r hyder i mi roi fy hun yn gyntaf a chymryd mwy o risgiau. Yn ystod fy astudiaethau, treuliais flwyddyn yn gweithio mewn canolfan teuluol, rhywbeth na fyddwn wedi’i wneud oni bai am y gefnogaeth y cefais gan ffrindiau a darlithwyr.
Sut mae eich gradd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar wedi eich helpu yn eich gyrfa?
Ers graddio rwyf wedi bod yn ffodus i gael llawer o gyfleoedd i ddatblygu fy ngyrfa a myfyrio ar yr hyn a ddysgais yn y brifysgol. Ochr yn ochr â’n rôl fel Dirprwy Bennaeth, rwy’n gweithio fel adolygydd meithrin cofrestredig i Estyn. Rwy’n cyflwyno hyfforddiant i’r awdurdod lleol ac yn rhedeg sefydliad nad yw’n gwneud elw sy’n hyrwyddo addysg blynyddoedd cynnar ar draws de Cymru.
Beth oedd eich hoff beth am Blynyddoedd Cynnar a Gofal?
Darparodd y cwrs gydbwysedd ardderchog o theori a chynhwysiad ymarferol gyda llawer o gyfleoedd am drafodaeth gyda phobl o’r un anian. Roeddwn wrth fy modd am gael cyfleoedd i fynd ar deithiau a sefydlu cysylltiadau gydag asiantaethau allanol yr wyf wedi parhau i weithio gyda nhw yn ystod fy ngyrfa.

A fyddech chi'n argymell PCYDDS a pam?
Dechreuais fy nhaith gyda gradd israddedig mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar, a osododd sylfaen gref ar gyfer fy ngyrfa addysgu.
Roedd hi’n amlwg, yn syth o’r dechrau, y byddai darlithoedd a strwythur y cwrs yn fy nghefnogi drwy fy astudiaethau.
Ar ôl ennill profiad yn yr ystafell ddosbarth, dilynais Ddiploma Ôl-raddedig i wella fy sgiliau ymhellach. Heddiw, fel Dirprwy Bennaeth mewn ysgol gynradd, mae fy astudiaethau wedi fy arfogi i greu amgylchedd dysgu meithrin ac effeithiol i’n dysgwyr ieuengaf.