Profiad PCYDDS Emma
Gwybodaeth Allweddol
Enw: Emma Knight
Rhaglen: MA mewn Addysg Awyr Agored
Astudiaethau Blaenorol: Gwyddorau Biofeddygol (BSc), Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (TBA)
Tref eich Cartref: Newcastle-Under-Lyme, Swydd Stafford, Lloegr
Profiad MA mewn Addysg Awyr Agored Emma
Profiad MA mewn Addysg Awyr Agored Emma

Beth oedd eich hoff beth am campws Caerfyrddin?
Gan ‘mod i’n dysgu o bell, yn bennaf, gan ddod i’r campws ar gyfer penwythnosau trefnu yn unig, doeddwn i ddim ar y campws yn rheolaidd. Roeddwn i’n hoff o’r lleoliad a’r ffordd yr oedd yn ein galluogi i deithio i ystod o wahanol leoliadau a oedd yn cyd-fynd â’r gwahanol fodiwlau.
Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Roeddwn i eisiau gwneud gradd Meistr, roeddwn i eisiau gwneud dysgu cyfunol yn rhan-amser, ac roedd PCYDDS yn bodloni’r gofynion hyn.
Beth gwnaethoch chi fwynhau tu allan i’ch astudiaethau?
Roedd y cwrs yn cael ei gyflwyno mewn ffordd gyfunol, felly roeddwn i’n gallu parhau â fy mywyd fel arfer, gan ddod i’r campws ar y penwythnosau ymweld. Roedd hyn yn golygu y gallwn i barhau i ddilyn fy niddordebau – darllen, ffotograffiaeth natur a chwarae mewn band pres. Roedd hefyd yn golygu y gallwn i barhau i wirfoddoli gyda’r Girl Guides a chyda Gwasanaeth Ambiwlans Gorllewin Canolbarth Lloegr. Gan ei fod yn rhan-amser, fe wnes i barhau i weithio tra’n astudio.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Fe wnaeth fy nghwrs fy helpu i ddeall Addysg Awyr Agored mewn mwy o ffyrdd nag yr oeddwn i’n ddisgwyl. Fe wnaeth wella fy hyder wrth drin data ac astudiaethau cyfredol.
Athro ysgol gynradd oeddwn i pan ddechreuais y cwrs, ac yn y cyfnod hwnnw fe roddodd hyder i mi fel Arbenigwr Addysg Awyr Agored, yn rhoi gwybodaeth i aelodau eraill o staff a gwella’r ddarpariaeth yn yr ysgol. Yna, es i weithio fel rheolwr prosiect ac ymgynghorydd, gan gefnogi cydweithwyr gyda gweithgareddau ymgysylltu â natur ac antur. Dysgodd y cwrs fi sut i siarad yn hyderus a chefnogi fy ngeiriau â thystiolaeth.
Beth oedd eich hoff beth am MA mewn Addysg Awyr Agored ?
Fy hoff beth oedd yr holl anturiaethau a oedd yn rhan ohono. Fe wnes i lwyddo i gwblhau cyfres o heriau ‘antur’ y byddwn i wedi’u hosgoi fel arfer. Boed yn feicio neu arfordira, fe wnes i wthio fy hun y tu hwnt i’r hyn roeddwn i’n gyfforddus ag ef.
Fe wnes i fwynhau cael dewis testun fy nhraethawd hir fel ei fod yn cyd-fynd â’m diddordebau a’m sefyllfa waith. Roedd hyn yn golygu bod fy ngwaith yn cael budd o’r gwaith ymchwil a wnes i ar gyfer y traethawd.

A fyddech chi'n argymell PCYDDS a pam?
Byddwn yn argymell PCYDDS oherwydd y gefnogaeth gan staff a chyfoedion, y cyfleoedd y mae’n gynnig, a lleoliad y campws.