Profiad PCYDDS Megan
Gwybodaeth Allweddol
Enw: Megan Worrell
Rhaglen: BSc Plismona Proffesiynol
Tref eich Cartref: Caerfyrddin
Profiad Plismona Proffesiynol Megan
Profiad Plismona Proffesiynol Megan
Beth oedd eich hoff beth am campws Abertawe?
Fy hoff beth am Gampws Busnes Abertawe oedd ei faint, mae’n fychan ac mae hynny’n galluogi’r darlithwyr i ddod i adnabod y myfyrwyr yn dda. Mae’r sylw personol yna’n gwella’r profiad dysgu ac yn creu amgylchedd academaidd gefnogol. Roedd lleoliad gwych y campws hefyd yn apelio ata i, gan ei wneud yn lle hwylus a hygyrch.
Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Rwyf wedi bod eisiau ymuno â’r heddlu erioed, a phan welais fod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig y radd hon roeddwn i’n meddwl mai dyma’r ffordd orau o wireddu hynny. Mae PCYDDS adnabyddus am ei rhaglenni academaidd rhagorol a’i hamgylchedd dysgu cefnogol, sy’n ei wneud yn lle delfrydol i baratoi ar gyfer gyrfa yn yr Heddlu. Roedd enw da a chwricwlwm cynhwysfawr y brifysgol yn ffactorau allweddol yn fy mhenderfyniad, gan eu bod yn gweddu’n berffaith i’m huchelgeisiau gyrfa a’m hanghenion addysgol.
Beth gwnaethoch chi fwynhau tu allan i’ch astudiaethau?
Pan nad wyf yn astudio, rwyf wrth fy modd yn cadw’n heini, ac rwy’n mynd i’r gampfa bum gwaith yr wythnos. Mae ymarfer corff yn rheolaidd yn fy helpu i gadw’n iach ac i ganolbwyntio. Pan fydda i’n cael y cyfle, rwyf hefyd yn mwynhau teithio ac ymweld â lleoedd newydd. Mae dysgu am ddiwylliannau gwahanol a darganfod lleoedd newydd yn ffordd wych o gael seibiant oddi wrth fy astudiaethau, ac mae hefyd yn ehangu fy nealltwriaeth o eraill ac yn cyfoethogi fy mhrofiad cyffredinol.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Pan fyddaf wedi graddio, rwy’n edrych ymlaen at ddechrau ar yrfa gyda Heddlu Avon a Gwlad yr Haf. Rwyf wedi cael swydd fel swyddog ymateb a byddaf yn dechrau ym mis Awst. Dyma’r swydd berffaith i mi, gan fy mod wedi bod eisiau ymuno â’r heddlu ers tro, ac rwy’n awyddus iawn i ddefnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau rwyf wedi’u hennill ar y cwrs er mwyn gwasanaethu a diogelu’r gymuned.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pam?
Byddwn yn argymell PCYDDS yn fawr iawn. Mae amgylchedd dysgu’r brifysgol yn gefnogol ac yn ddifyr, ac mae’r dosbarthiadau bach yn golygu eich bod yn cael sylw personol gan y darlithwyr. Mae’r gymuned academaidd glòs yn golygu bod perthynas gref rhwng myfyrwyr a staff. Mae gan PCYDDS gwricwlwm cynhwysfawr sy’n heriol ac yn berthnasol i’r byd go iawn.
Mae’r dull ymarferol hwn o ddysgu yn sicrhau bod myfyrwyr yn barod ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae lleoliad y campws yn dda, mae o fewn cyrraedd hawdd i amwynderau lleol a’r ddinas fywiog, ac mae hynny’n ychwanegu at brofiad cyffredinol y myfyrwyr.
Hefyd, mae’r pwyslais y mae PCYDDS yn ei roi ar gyflogadwyedd i’w weld yn amlwg yn ei chysylltiadau cryf â’r diwydiant ac yn ei gwasanaethau cymorth pwrpasol. Mae’r adnoddau hyn yn helpu myfyrwyr i sicrhau interniaethau, lleoliadau gwaith, a chyfleoedd gwaith, gan sicrhau eu bod yn pontio o’r brifysgol i’r byd proffesiynol yn ddidrafferth.
Ar y cyfan, mae PCYDDS yn ddewis ardderchog i unrhyw un sy’n dymuno dilyn addysg uwch mewn lleoliad deinamig a chefnogol, gyda digon o gyfleoedd ar gyfer twf personol a phroffesiynol.