ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Ashlee Ryan-Rose - Seicoleg a Chwnsela (BSc Anrh)

Profiad PCYDDS Ashlee Ryan-Rose

Image of Ashlee Ryan-Rose

Helo! Ashlee Ryan-Rose ydw i, myfyriwr aeddfed 29 oed yn PCYDDS. Mae tair blynedd drawsnewidiol wedi gwibio heibio, gan ail siapio fy mywyd mewn ffyrdd na ddychmygais i fyth.  

Gwybodaeth Allweddol

Enw: Ashlee Ryan-Rose

Rhaglen: BSc Seicoleg a Chwnsela

Astudiaethau Blaenorol: Mynediad i’r Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol 

Tref eich Cartref: Abertawe

Ashlee Ryan-Rose's Programme Name Experience

Profiad Seicoleg a Chwnsela Ashlee

Image of Ashlee Ryan-Rose doing a psychology experiment

Beth oedd eich hoff beth am campws Abertawe?

Un agwedd y gwnes i wirioneddol ei gwerthfawrogi am gampws IQ oedd yr adnoddau academaidd eithriadol oedd yno. Roedd y cyfleusterau o’r radd flaenaf, llyfrgell ag adnoddau da, a digonedd o fannau astudio ar draws y campws yn creu amgylchedd delfrydol ar gyfer dysgu. 

Hefyd, rhaid i mi sôn am leoliad y campws – p’un a ydych yn hoffi siopa, pryd o fwyd blasus, neu ymlacio drwy gerdded yn hamddenol ar hyd yr arfordir hardd, mae’r cyfan o fewn tafliad carreg i’r campws IQ. 

Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS? 

Nid yn unig mae gan PCYDDS enw rhagorol ond mae’n cynnig amrywiaeth eang o raglenni seicoleg hefyd sy’n alinio’n uniongyrchol gyda fy nod gyrfa, sef dod yn seicolegydd cwnsela. Ar nodyn personol, mae cynnal cydbwysedd iach rhwng ymrwymiadau proffesiynol, gorchwylion academaidd, a hunanofal yn eithriadol o bwysig i mi.  Ag yntau mewn lleoliad bendigedig, mae campws PCYDDS o fewn tafliad carreg o’r arfordir teg. Mae’r lleoliad unigryw hwn yn darparu cydbwysedd perffaith o fyd natur a byd addysg, gan gynnig amgylchedd delfrydol er mwyn i fyfyrwyr ffynnu a rhagori yn eu gorchwylion. 

Beth gwnaethoch chi fwynhau tu allan i’ch astudiaethau?  

Yn ddarpar seicolegydd, rwy’n gwerthfawrogi pwysigrwydd hunanofal a hunan-feithrin i gynnal cydbwysedd iach yn fy mywyd - arferion a fu’n amhrisiadwy yn ystod blynyddoedd heriol fy nhaith academaidd. Tu allan i’m hastudiaethau, rwy’n mwynhau bod yng nghanol byd natur, naill ai ar gefn beic ar hyd yr arfordir hardd, neu’n rhyfeddu ar y byd tanfor ar fy anturiaethau snorcelio ger Pier y Mwmbwls. Wrth gwrs, mae Abertawe yn baradwys i fwydgarwyr, felly mae digonedd o ddewis o fwytai penigamp i ddod â’r diwrnod i ben. 

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?  

Yn ystod fy nhaith academaidd, rwyf wedi bod yn ffodus iawn i ennill cyfoeth o wybodaeth a phrofiad ymarferol sydd wedi fy rhoi mewn sefyllfa dda i fod yn ymgeisydd dymunol yn y sector iechyd meddwl. O fewn y ddwy wythnos nesaf, byddaf yn dechrau taith broffesiynol newydd fel Gweithiwr Cymorth Arbenigol LHDTC+ a Hwylusydd Rhaglen ar gyfer dioddefwyr trais domestig yn Calan DVS. Fy uchelgais hirdymor yw dychwelyd i fyd addysg a pharhau i wella fy nghymwysterau a phrofiad gyda’r nod o ddod yn seicolegydd cwnsela trwyddedig. 

Beth oedd eich hoff beth am Seicoleg a Chwnsela?

Byddai’n rhaid i mi ddweud mai fy hoff agwedd ar y radd BSc Seicoleg a Chwnsela yw pob unigolyn anhygoel sy’n rhan o’r garfan ddarlithio sydd yno i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.  Yn fyfyriwr aeddfed sydd heb fod mewn addysg ers dros ddegawd, roeddwn yn bryderus am ddychwelyd. Fodd bynnag, mae’r darlithwyr wedi bod yn anhygoel, gan gymryd yr amser i sicrhau fy mod yn deall y deunydd a chynnig arweiniad lle bo angen. Tu hwnt i ddarlithio, gwnaeth y garfan feithrin amgylchedd diddorol yn y dosbarth oedd yn hyrwyddo meddwl a thrafod beirniadol. Mae eu hangerdd am seicoleg a seicotherapi yn ysbrydoledig! 

Image of Ashlee Ryan-Rose doing a psychology experiment

A fyddech chi'n argymell PCYDDS a pam?

Mae’r cwrs BSc Seicoleg a Chwnsela wedi bod yn wirioneddol trawsnewidiol o ran fy llwybr gyrfa. Nid yn unig y mae wedi rhoi i mi wybodaeth ac adnoddau gwerthfawr i gefnogi unigolion sy’n wynebu heriau iechyd meddwl, ond yn ystod fy lleoliad yn yr ail flwyddyn, cefais gyfle anhygoel i roi theori ar waith wrth weithio ochr yn ochr ag ymarferwyr iechyd meddwl yn Mind Abertawe. O ganlyniad i’m hymrwymiad i’r achos a’r wybodaeth a rannwyd gan y garfan seicoleg eithriadol, cynigiwyd i mi gontract 10 mis fel ymarferydd iechyd meddwl. Mae’r profiad ymarferol hwn wedi bod yn amhrisiadwy, gan ganiatáu i mi roi’r cysyniadau hynny a ddysgwyd yn yr ystafell ddosbarth ar waith yn uniongyrchol i wneud gwahaniaeth amlwg i fywydau pobl.