ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Sioe Haf: Dylunio Graffig

Dylunio Graffig

The word blend in graphic design shapes

BLEND

Nid yw Dylunwyr Graffig, gyda rhai eithriadau wrth gwrs, yn ymorchestwyr wrth reddf. Mae’n well gennym y syniad y bydd ein gwaith yn siarad drosom ni wrth i ni ymdoddi i’r cefndir. Yn aml mae cyfathrebu gweledol, fel y mae’r geiriau’n ei awgrymu, yn gweithredu’n dawel ac yn ddienw, gan brofi’i lwyddiant heb angen esboniad. Fodd bynnag, nid dyma’r amser i fod yn ddiymhongar. Mae’n amser gweld a chael eich gweld, arddangos eich lliwiau a dathlu natur unigryw pob llais yn y côr.

Bydd unrhyw un sy’n cofio’i ymdrechion cynnar i gymysgu gwahanol liwiau o baent yn cofio, yn fwy na thebyg, lwydni di-ffrwt y canlyniad terfynol. Mae’r ugain unigolyn sydd wedi’u cynrychioli yma’n arddangos cymysgedd o brosiectau sy’n adlewyrchu palet lliwiau sy’n amrywio o’r meddal a’r cynnil i’r haerllug a’r beiddgar. Cewch weld cymysgedd o’r mympwyol, yr ymholgar a’r masnachol, ond hyd yn oed o’u cyfuno â’i gilydd, daw deinameg y grŵp yn lliw oren llachar, bywiog, uchelgeisiol sy’n galw allan yn benuchel.

Tîm y Staff 
BA(Anrh) Dylunio Graffig

Our Work

Jodie Bond

Mae Jodie yn ddylunydd graffig sy’n mwynhau archwilio byd brandio a dylunio deunydd pecynnu. Mae’n ffynnu ar lunio hunaniaethau gweledol unigryw, gan ddefnyddio Illustrator i ddod â’i syniadau’n fyw.A hithau â llygad da am fanylion a chariad at estheteg feiddgar, fodern, mae Jodie yn creu dyluniadau sy’n gadael argraff barhaus.

better together billboard design

Marcus Carr

Yn creu syniadau’n gyflym, gan archwilio dulliau dylunio newydd a gwthio ffiniau creadigol yn gyson. Ã‚ gallu i feddwl tu allan i’r bocs a rhoi safbwynt ffres ar bob prosiect. Mae brwdfrydedd am ddylunio graffig yn ei yrru i weithio’n galetach, gan ei wneud yn amryddawn ac yn barod i addasu o ran ei gynnyrch creadigol.

Graphic design of a pink book with 'fox bound' written on it

Jodie Chung

Mae dylunio’n ffordd o gyfathrebu a siarad dros y rheini nad ydynt yn gallu gwneud. Mae Jodie yn ddylunydd sy’n frwdfrydig am lunio dyluniadau sy’n creu effaith drwy’r defnydd o liw a theip. Mae’n ceisio plymio’n ddyfnach a dysgu rhagor bob amser, drwy bob profiad dylunio.

Graphic design of a old fashioned breakfast box  in yellow and orange

Connor Davies

Mae Connor Davies yn berson creadigol brwdfrydig mewn amryw o feysydd celf, gan ffynnu ar greu cynnwys sy’n ddeniadol yn weledol ac yn cyfleu syniadau’n effeithiol. Mae’i waith yn caniatáu iddo ddatblygu dyluniadau unigryw sydd wedi’u teilwra i amryw o brosiectau. Mae’n gyffro mawr i Connor arddangos ei daith yng Ngholeg Celf Abertawe – PCYDDS, a’i dwf yn y maes drwy’i bortffolio graddedig. 

graphic design of a blue uniform and car

Lucy De-La-Haye

Mae Lucy yn ddylunydd amryddawn ac arloesol â llygad craff am fanylion a brwdfrydedd am ddweud stori’n weledol. Gan arbenigo mewn brandio, darlunio a theipograffeg, mae Lucy yn cyfuno creadigrwydd â meddwl yn strategol i lunio elfennau gweledol argyhoeddiadol. Mae’i chyfnod yng Ngholeg Celf Abertawe – PCYDDS yn arddangos ei thaith o arbrofi, syniadau beiddgar, a thwf artistig.

graphic design of business cards with dinosaur and tooth with the words 'scales and polish'

Kaycie Doble

Mae Kaycie yn arbenigo mewn llunio dyluniadau unigryw sy’n drawiadol yn weledol, yn codi unrhyw frand i lefel uwch o broffesiynoldeb ac yn creu effaith barhaus. P’un a ydych yn chwilio am logo beiddgar newydd sbon, deunyddiau marchnata sy’n dal sylw, neu ailwampio hunaniaeth weledol yn gyfan gwbl, gall Kaycie ddod â’ch gweledigaeth yn fyw gan ganiatáu i ni greu rhywbeth syfrdanol gyda’n gilydd!

  • Instagram:
  • Gwefan:    
graphic design of a bridal website

Jackson Fyler

Mae Jackson yn Ddylunydd Graffig sydd wedi’i ysbrydoli’n fawr gan elfennau tanddaearol. Mae’n canolbwyntio ar wneud gwaith dylunio ar gyfer prosiectau’n mae’n teimlo’n frwdfrydig yn eu cylch, am ei fod yn gallu mynegi’i hun yn fwy rhydd, ac mae Jackson hefyd yn ceisio gwneud cysylltiadau â’i fyd a byd pawb arall er mwyn mynegi creadigrwydd pellach.

graphic design of a music event poster

Lewis Hill

Mae Lewis Hill wedi datblygu doniau mewn amryw o feysydd yn ystod ei amser yn astudio Dylunio Graffig ac mae nawr yn fedrus mewn llawer o agweddau ar ddylunio.  Mae wedi canolbwyntio ar frandio a dylunio ar gyfer chwaraeon ac ar hyn o bryd mae’n chwilio am gyfleoedd i ddatblygu ei wybodaeth a’i alluoedd yn y diwydiant.

graphic design of travel wear with a rugby team

Haoming Huang (Simon)

Mae Simon yn Ddylunydd Graffig sy’n mwynhau archwilio unrhyw beth newydd ac yn mwynhau brandio a dylunio posteri. Mae Simon yn arbenigo mewn creu logos i gwsmeriaid, gwefannau, cylchgronau a rhagor o’r cychwyn cyntaf gan ddefnyddio Procreate, Indesign ac Adobe XD. Gyda’i sgiliau proffesiynol a’i syniadau unigryw, nod Simon yw gwneud argraff.

graphic design of a podcast billboard

Jess Isaac

Byddai Jess yn disgrifio’i hun yn ddylunydd arbrofol a chwilfrydig, sy’n awyddus i archwilio amryw o ddulliau i godi’i dyluniadau ac ehangu’i set sgiliau. Mae’n Ddylunydd Graffig amryddawn, sy’n anelu at gyfuno technegau traddodiadol a digidol er mwyn trwytho’i phrosiectau mewn creadigrwydd.

graphic design of an ADHD campaign

Lowri James

A hithau’n fyfyriwr Dylunio Graffig dwyieithog wedi’i lleoli yn Abertawe, mae Lowri yn cael ysbrydoliaeth o ddĺweud straeon – ffilmiau, llyfrau, a mytholeg Cymru – gan lunio naratifau sy’n argyhoeddi’n weledol. Dan ddylanwad Annie Atkins, mae Lowri yn cyfuno treftadaeth â dylunio, gan ddathlu diwylliant Cymru yn ei gwaith. Mae’n frwdfrydig iawn am ddweud stori drwy elfennau gweledol, ac mae’n llunio dyluniadau sy’n atseinio â dyfnder a dilysrwydd.

graphic design of 'damned' work with writting

Harry Jimpson

Mae Harry yn rym creadigol newydd yn y byd dylunio graffig gan gysylltu elfennau o ddylunio graffig a darlunio drwy’i ddyluniadau i gyd. Mae Harry yn creu cyfuniad unigryw o arddulliau a lliwiau drwy’i ddyluniadau i gyd. Mae Harry yn dymuno ail-lunio’r dirwedd ddylunio, gan ddod â chreadigaethau newydd, cyffrous yn fyw o fewn ei ddyluniadau, gan amrywio o frandio i ddylunio cymeriadau. 

graphic design of a advert

Ellie Jones

Dylunydd graffig brwdfrydig â diddordeb arbennig mewn teipograffeg. Mae’i sgiliau’n amrywio o hunaniaeth brandiau corfforaethol i brosiectau bach sy’n ennyn ei diddordeb yn ogystal â hysbysebu digidol a dylunio gwefannau.

graphic design of a cardboard box with 'box buddy' written on it

Jess Jones

Bu diddordeb gan Jess mewn dylunio graffig erioed ac yn ddiweddar mae wedi datblygu brwdfrydedd arbennig at ddylunio i’r cyfryngau cymdeithasol. Gan arbenigo mewn brandio, dylunio logos, a chreu cynnwys, bydd yn defnyddio’i chreadigrwydd i helpu busnesau i adeiladu’u hunaniaethau. Mae Jess yn canolbwyntio ar greu dyluniadau sy’n apelio’n weledol ac yn gofiadwy.

graphic design of three gin drinks in cans

Ffion Lavington

Mae Ffion Lavington yn Ddylunydd Graffig graddedig sy’n arbenigo mewn dylunio cyhoeddiadau. Mae’n arbennig o hoff o ail-ddylunio cloriau llyfrau’n fersiynau argraffiadau arbennig ac mae’n mwynhau creu gosodiadau tudalennau a dylunio cylchgronau. Mae portffolio Ffion yn dangos ei gallu amryddawn gyda gwahanol gyfryngau dylunio graffig, gan arddangos sgiliau mewn teipograffeg, argraffu a gwaith digidol i greu elfennau gweledol deniadol.

graphic design of three wall prints

Sophie Lewis

Mae Sophie yn Ddylunydd Graffig creadigol â brwdfrydedd arbennig am ddarlunio, gan dynnu ysbrydoliaeth o brofiadau personol. Mae’n defnyddio lliw i ddod ag emosiwn a sioncrwydd i’w dyluniadau, yn aml gan archwilio arddulliau hynod, ecsentrig. Mae’i chariad at arbrofi’n ei gyrru i wthio ffiniau creadigol, gan sicrhau bod ei gwaith yn parhau’n arloesol ac yn llawn cymeriad.

graphic design of gorilla girl

Rebecca Palmer

Gyda phob prosiect, nod Rebecca yw creu gwaith ystyrlon sy’n cysylltu ac yn atseinio ar lefel bersonol. Gyda diwylliannau a gwledydd amrywiol yn ennyn ei chwilfrydedd, mae’n tynnu ysbrydoliaeth o safbwyntiau byd-eang, gan greu dyluniadau meddylgar sy’n adlewyrchu cyfuniad cyfoethog o ddylanwadau ac yn adrodd straeon unigryw.

graphic design of a book

Katie Rees

Mae Katie yn ddylunydd graffig â brwdfrydedd am greu dyluniadau ystyrlon sy’n creu effaith barhaol. Mae meysydd arbenigol Katie yn cynnwys graffeg gymdeithasol, dylunio llyfrau, a brandio. Mae hefyd yn gweithio gyda gwahanol ddisgyblaethau, megis ffotograffiaeth a darlunio, ac yn aml bydd yn cyfuno’r rhain i greu dyluniadau deniadol sy’n creu effaith ac yn taro tant â phobl eraill. 

graphic design of lets talk billboard

Jake Smith

Mae Jake Smith yn ddylunydd sy’n frwdfrydig ynghylch cerddoriaeth a graffeg gymdeithasol ag afluniad gweledol dwys, gan gyfuno arddulliau megis grunge, minimaliaeth a brwtaliaeth er effaith ddramatig. Mae’i graffeg yn ceisio creu’r effaith fwyaf ag arddull ddeinamig. Gallwch chwilio amdano yn 

  • Instagram:
graphic design of a cover with screens and a person

Dafydd Wilson

Wrth astudio Dylunio Graffig yng Ngholeg Celf Abertawe - PCYDDS, mae Dafydd wedi archwilio sut mae modd cyfuno technegau traddodiadol, megis argraffu llythrenwasg a gwneud marciau, â dylunio digidol i ddylanwadu ar ei arfer. Mae Dafydd yn mwynhau defnyddio’r prosesau hyn i ymchwilio ei ddehongliadau ac arsylwadau unigryw fel Dylunydd Byddar.

graphic design of a book cover

Galeri Arddangosfa