Luke yn PCYDDS
Enw: Luke Cotter
Cwrs: BA(Anrh) Celf Gain
Astudiaethau Blaenorol: Arholiadau Safon Uwch
Tref eich cartref: ³¢±ô·É²â»å³¦´Ç±ð»å,&²Ô²ú²õ±è;´¡²ú±ð°ù»åâ°ù
Profiad Luke ar BA Celf Gain

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Y Stiwdio, mae maint y stiwdio wedi fy helpu i ehangu fy syniadau a sut rwy’n gweld creu. Mae fy ngwaith wedi tyfu cymaint ers cael y lle.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais i PCYDDS am fy mod i wedi fy ysbrydoli gan angerdd y staff wrth ymweld â’r brifysgol. Roedd y gweithdai hefyd yn ddylanwad enfawr gan eu bod nhw’n llawn gwaith ysbrydoledig ac offer cyffrous.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Y traeth. Y traeth a ysbrydolodd lawer o’m gwaith celf yn fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol ac yn y pen draw dyna beth wnaeth fy ngwthio i feddwl am gerfluniau fel cyfrwng. Hwn a’r holl orielau lleol gwych gyda staff mor gyfeillgar a mannau ysbrydoledig.
Beth ydych chi’n gobeithio ei wneud pan fyddwch chi’n graddio?
Yn fy sioe raddio enillais i Wobr Oriel Elysium, mewn partneriaeth â’r brifysgol, lle byddaf yn cael lle stiwdio yn rhad ac am ddim am flwyddyn, arddangosfa yn yr oriel yn 2027 yn ogystal â £500 a chyfleoedd rhyngwladol. Mae hwn yn bosibilrwydd mor gyffrous, a dwi’n methu ag aros cyn dechrau.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Fy hoff beth am y cwrs oedd ei allu i agor eich llygaid i’r byd. Trwy ddarlithoedd diddorol a gweithdai ymarferol gydag amrywiaeth eang o ddeunyddiau, rydych chi’n cael profi bywyd o bersbectif hollol newydd.
Caniataodd hyn i mi greu fy ngwaith diweddaraf, Looking Forward to the Weekend, (2025) gwaith sy’n cyfuno gwybodaeth o deithiau prifysgol i Fenis a Madrid â fy mywyd personol yn Abertawe.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn i’n argymell PCYDDS gan ei fod wedi cael cymaint o effaith arnaf yn berson ac wedi fy helpu i wneud ffrindiau oes a chwrdd â phobl sydd wedi rhoi cyfleoedd mor wych i mi.