Patrymau Arwyneb a Thecstilau

Cyflwyniad
Llongyfarchiadau i’r Dosbarth Patrymau Arwyneb a Thecstilau 2025!
Rydyn ni wedi mwynhau eich gwylio chi’n tyfu yn ddylunwyr ac yn tyfu mewn hyder; rydyn ni’n teimlo’n falch iawn o weld pawb nawr. Rydych chi wedi bod yn wydn ac yn ddyfal; rydych chi wedi dangos ymrwymiad mawr i’ch creadigrwydd eich hun ac mae eich penderfyniad i lwyddo yn drawiadol.
Byddwn ni’n eich cofio’n annwyl amdanoch chi fel cydweithwyr yn y prosiectau byw sydd wedi diffinio eich taith gyda ni; Idott, Biophilic Living, Monki a Rolls Royce. Rhyngoch chi, rydych chi wedi archwilio pob twll a chornel o’n hadran Patrymau Arwyneb a Thecstilau ac wedi mwynhau’r rhyddid a’r croeso rydych chi wedi’i gael mewn mannau eraill ar draws Coleg Celf Abertawe. Wrth wneud hynny rydych chi wedi creu gwaith hardd.
Ble bynnag y byddwch chi’n mynd nesaf, rydyn ni’n gwybod eich bod chi’n mynd i ffynnu, rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n cadw mewn cysylltiad â ni, a phob amser yn teimlo eich bod chi’n rhan o’n cymuned PAaTh werthfawr.
Ein Gwaith
BA (Anrh) Patrymau Arwyneb a Thecstilau. gasgliad gwanwyn/haf yw “Leves Erbere†yn a ysbrydolwyd gan Grŵp Bloomsbury a’u hysbrydoliaeth nhw ar gelf a ffasiwn. Mae hyn yn tynnu sylw at dreftadaeth, moethusrwydd, celf, natur a ffresni.
Gyda diddordeb mewn gyrfa mewn tueddiadau a rhagolygon, mae Jasmine yn mwynhau casglu gwybodaeth trwy arddangosfeydd cyfredol neu archifol. Archwilio’r dolenni rhwng celf, addurn mewnol, ffasiwn, lliw a’r gofod a’r lleoliad oddi amgylch, gan arddangos gwybodaeth trwy ddelweddau neu ddadansoddi.
Mae Jasmine yn mwynhau pob elfen; o ymchwil, dylunio, arbrofi i greadigaethau terfynol, gweld esblygiad ei phrosiect a ble mae’n mynd â hi.
- Linktree:

MDes (Anrh) Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Mae “Beneath Familiar Skies†yn myfyrio ar ddychwelyd i Wlad Thai, sef lle a alwai Susan yn gartref unwaith, trwy bersbectif newydd. Mae’r casgliad yn plethu atgofion plentyndod a’r profiad o ailymweld, gan bortreadu diwylliant, naws a hanfod y lle. Mae ei dyluniadau yn archwilio’r gwrthgyferbyniadau rhwng hiraeth, hunaniaeth a threftadaeth.
Mae Susan wedi ei gyrru gan archwilio tecstilau, materoldeb, a gwneud patrymau o fewn ffasiwn ac addurn mewnol. Wedi’i chyfareddu gan y ddihangfa y mae dylunio a chreadigrwydd yn ei ddarparu, mae hi’n cyfuno sgiliau traddodiadol megis paentio a lluniadu â phrosesau digidol i wthio ffiniau dylunio a mynegiant creadigol.
Y mwynhad y mae hi’n ei gael wrth baentio a darlunio, yn benodol wrth weld ei brasluniau cychwynnol yn trawsnewid yn batrymau gorffenedig, sydd wedyn yn dod at ei gilydd i greu casgliad cydlynol a hudolus.
- Linktree:

BA (Anrh) Patrymau Arwyneb a Thecstilau. A hithau’n eiddgar i gaffael iaith ddylunio oesol, mae ymarfer Emily yn canolbwyntio ar gofleidio prosesau cyfoes gyda sglein glasurol. Dylanwadwyd arni gan egwyddorion y mudiad Celf a Chrefft, ac mae hi wedi’i gyrru i greu canlyniadau addurniadol iawn sy’n cynnal llwybr bywyd parhaus y tu hwnt i gylchoedd tueddiadau, i gynyddu cylcholdeb.
Yn y casgliad hwn ail-ddychmygir denim yn ddodrefn mewnol arloesol ac mae ymholiad creadigol Emily yn dathlu rhinweddau grymusol yr agwedd fenywaidd gyfoes. Mae’r motiffau sy’n addurno’r casgliad yn cymryd tarddiad o grefft hynafol ac iaith symbolaidd Kilim. Trwy fynd i’r afael â themâu cryfder, amddiffyniad a lwc dda i greu eiddo etifeddol modern, sy’n hyrwyddo cysylltiadau cynhenid dyfnach ac ymdeimlad o berthyn.
Mae Emily wedi’i swyno gan bŵer patrwm a phrint, a’r potensial i’w drosi ar draws gwahanol ddeunyddiau. Wedi’i drwytho mewn byd o ryfeddod gweledol, mae hi wedi ei grymuso gan ehangder y set sgiliau a’r amlochredd y mae bod yn ddylunydd patrymau arwyneb yn ei gynnig.
- Linktree:  

BA (Anrh) Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Mae “Treftadaeth Botaneg†yn seiliedig ar fawredd ac addurniadau manwl iawn dyluniad baróc. Mae Emerald yn cael ei dynnu at ddyluniadau ffiniau a drychau ac mae wedi ei ysbrydoli gan strwythur y patrymau hynny sydd wedi’u hadeiladu o ddelweddau naturiol. Y nod oedd creu casgliad papur wal print yn seiliedig ar arbrofi â thechnegau newydd.
Mae Emerald wedi’i hysbrydoli gan natur a’r amgylchedd ac mae’n defnyddio hyn i greu motiffau. Mae hi’n mwynhau defnyddio’r amrywiaeth o offer a thechnegau i greu canlyniadau o’r gwahanol adnoddau sydd ar gael. Mae gan Emerald ddiddordeb bob amser mewn sut y gall paletau lliw gwahanol ddyrchafu casgliad o batrymau.
Mae Emerald yn arbennig o hoff o’r ystod eang o brosiectau sy’n ymwneud â phatrwm arwyneb gan gynnwys addurn mewnol a ffasiwn. Mae pob prosiect yn gofyn am faes arbenigedd gwahanol sy’n galluogi Emerald i’w hyrwyddo ei hun yn ddylunydd amlddisgyblaethol.
- Instagram:
- Linkedin:

BA (Anrh) Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Mae prosiect mawr olaf Nia yn archwilio cylch bywyd botanegol, yn enwedig y syniad bod natur bob amser yn dod o hyd i ffordd i adfywio ar ôl colli sydd â chysylltiadau personol. Mae’r palet lliw cyfoethog a moethus yn dod â’r dyluniadau yn fyw ar gyfer papur wal, ffabrig ac elfennau addurniadol gweithredol ar gyfer lleoedd mewnol mawreddog masnachol.
Mae Nia yn falch o’i Chymraeg, treftadaeth Cymru a’i llinach greadigol, ar ôl defnyddio’r sgiliau creadigol a drosglwyddwyd a’u datblygu’r sgiliau hynny gyda thechnegau cyfoes ac arloesedd a astudiwyd yn ystod y cwrs. Mae Nia bellach yn dymuno cyflawni ei hangerdd fel dylunydd casgliad ar gyfer addurn mewnol, gan greu patrymau ailadroddus wedi’u dylunio’n hyfryd ar gyfer llu o wahanol arwynebau.
Mae Nia yn ddylunydd mwyafsymiol sy’n cofleidio arwynebau’r cyfryngau cymysg i adrodd straeon chwareus am deithiau bywyd personol. Mae ganddi duedd gref tuag at ailddefnyddio ffabrigau, gan anadlu bywyd newydd i ddeunyddiau gyda gwerth sentimental trwy roi pwrpas newydd iddyn nhw drwy ddylunio meddylgar. Mae hi’n mwynhau technegau haenu sy’n cynnwys lliwio, sgrin, argraffu digidol ac UV, torri laser a brodwaith i greu dyluniadau patrymau cyfoes.
- Linktree:

BA (Anrh) Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Prosiect tecstilau yw ‘The Morbs’ wedi’i anelu at y rhedfa ffasiwn, sydd wedi’i hysbrydoli gan oes Fictoria. Mae elfennau o’r casgliad hwn yn cynnwys cyfuniad hybrid o chwilfrydedd morbid, ofergoelion a rhamant sydd wedi’i ysbrydoli gan agweddau ar y cyfnod. Mae’r casgliad yn defnyddio amrywiaeth o ffabrigau gweadog moethus sy’n ategu ei gilydd pan fyddan nhw wedi’u haenu.
Prif ymgyrch dylunio Freya yw adrodd straeon. Maen nhw’n credu y dylai fod gan bob casgliad a phatrwm naratif cryf tebyg i gelf gain. Mae Freya yn aml wedi ei hysbrydoli gan storïwyr mewn ffasiwn er enghraifft Alexander Mcqueen. Gydag angerdd am ffasiwn, mae gweadau yn bwysig i’w hymarfer. Mae Freya yn credu bod cyffyrddiad yn adrodd stori ynddo’i hun.
Mae Freya yn ffynnu ar ddysgu pethau newydd megis technegau ac mae hi bob amser yn awyddus i ddysgu rhagor. Hoff beth Freya yw’r broses o ddylunio, maen nhw’n mwynhau sut y gall bwrdd hwyliau cychwynnol droi’n gasgliad, sydd wedyn yn dod yn arddangosfa. Mae Freya yn teimlo balchder pan fyddan nhw’n gweld cynnydd o’r dechrau i’r diwedd.
- Linktree:

BA (Anrh) Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Mae ‘Wild Waters and Highland Wonders’ yn deillio o dreftadaeth Albanaidd Mini a’i hanturiaethau diweddar trwy dirweddau gwledig yr Alban. Ysbrydolwyd Mini gan yr harddwch toreithiog sydd i’w weld ym mynyddoedd yr ucheldir a’r gwlyptiroedd cyfagos, ac mae wedi dylunio casgliad mewnol sy’n cynnwys papur wal a ffabrig dodrefn sy’n pwysleisio digonedd cyfoethog bywyd gwyllt yr Alban.
Gan arbenigo ar wneud printiau, yr hyn sy’n gyrru ymarfer Mini yw’r cysylltiad rhwng crefft a llesiant wrth iddi ddefnyddio prosesau a yrrir â llaw gan law drwy gydol ei gwaith yn fath o fyfyrdod. Wedi’i ysbrydoli gan ffawna a fflora, mae’r byd naturiol yn sail i ddyluniadau Mini wrth iddi bwysleisio pwysigrwydd ein cysylltiad ag amgylcheddau gwledig.
Mae Mini wrth ei bodd yn ddylunydd patrwm arwyneb a thecstilau gan fod hyn yn ei galluogi i weld ei syniadau nhw’n dod yn fyw a sut y gellir eu defnyddio o fewn diwydiant, gan danio ei hangerdd am ddylunio ymhellach. Mae hi’n mwynhau’n arbennig sut y gellir trosi arferion crefftus traddodiadol megis cerfio lino a gwneud printiau i batrwm.
- Instagram:
- Linkedin:

BA (Anrh) Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Mae “Inis†(wedi’i ynganu yn in-ish), yn deyrnged i draddodiad adrodd straeon cyfoethog Iwerddon. Mae llên gwerin Wyddelig yn gysylltiedig â’r tir, a thrwy Inis, mae Laura yn archwilio’r cwlwm hwn, gan gyfieithu chwedlau a naratifau ei threftadaeth yn ddyluniadau tecstilau cyffyrddol, atgofus.
Yn wreiddiol o Derry, Gogledd Iwerddon - dinas sydd â threftadaeth tecstilau gyfoethog, trwy ei gwaith, mae hi’n archwilio’r croestoriad rhwng treftadaeth ac arloesedd, gan greu dyluniadau sy’n anrhydeddu traddodiad wrth gofleidio estheteg fodern.
Mae ei hymarfer yn un amlddisgyblaethol sy’n ei galluogi i greu dyluniadau arloesol ac addasadwy, er ei bod hi’n dylunio ar gyfer cyd-destun ffasiwn, ond mae ei phortffolio hefyd yn cynnwys addurn mewnol. Mae ei harbenigedd yn cynnwys lino ac argraffu sgrin, yn ogystal ag appliqué, a brodwaith â llaw. Daw ei hysbrydoliaeth o natur, llên gwerin, a gweadau haniaethol, mae Laura yn cyfieithu’r dylanwadau hyn yn ddyluniadau arwyneb cyffyrddol, modern sy’n ymgysylltu yn weledol ac yn weadol.
- Linktree:

BA (Anrh) Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Mae ‘Flow and Flourish’, yn portreadu ymdrochi mewn coedwigoedd a theithiau cerdded llesiant mewn arddangosfa ymdrochol o decstilau synhwyraidd. Gan gyfuno dylunio bioffilig, a seicoleg liw, mae’r gwaith hwn yn cyfieithu cyflwr creadigol llif Aimee yn waith celf hyfryd gwyllt sy’n addas ar gyfer gosodiadau cyhoeddus, printiau ffasiwn sy’n codi’r hwyliau, ac addurn mewnol chwareus, gan annog teimladau o dawelwch, cysur a llesiant.
Er ei llesiant ei hun, mae Aimee wedi’i hysbrydoli gan berthynas symbiotig dynoliaeth â’r byd naturiol, a sut y gall natur wella ac atgyweirio ein meddyliau a’n cyrff wrth i ni ofalu amdani fel cymuned. Fe’i symbylwyd gan ei phrofiad yn Gynorthwyydd Gofal Iechyd yn ystod Covid, mae Aimee am i eraill gael ymdeimlad o berthyn a theimlo gofal, wrth iddyn nhw archwilio ei gwaith ymdrochol a chyffyrddol.
Gweu’r llawenydd y mae Aimee yn ei deimlo pan fydd hi’n creu, yn ddyluniadau sy’n dod â llawenydd i’r rhai sy’n eu gwisgo, byw ynddyn nhw a’u profi, yw hoff beth Aimee am fod yn ddylunydd patrymau arwyneb. Os gall hi, trwy ei gwaith, wneud i chi deimlo’r ochenaid hapus honno pan fydd eich traed yn cyffwrdd â’r traeth tywodlyd am y tro cyntaf, neu pan fyddwch chi’n eich amgylchynu eich hun â charped o glychau’r gog yng nghoetiroedd y gwanwyn, mae hi’n teimlo ei bod hi wedi gwneud ei gwaith yn dda.
- Linktree:

BA (Anrh) Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Mae ‘Tales from the Tides’ yn ymchwilio i’r berthynas gymhleth sydd gan fenywod â’r môr, gydag ysbrydoliaeth gyfoethog o’i phlentyndod a dreuliodd ar hyd arfordir Swydd Efrog. Trwy ei harddull ddarluniadol unigryw a’i phalet lliwiau bywiog, mae hi’n ail-ddychmygu straeon ac atgofion o’r môr, gan eu trawsnewid yn ddyluniadau patrymau bywiog a mynegiannol sy’n atseinio â briff ffordd o fyw gyfoes.
Mae cariad Lily at batrymau yn amlwg yn ei chreadigaethau, wrth iddi bortreadu hanfod arfordiroedd Prydain sy’n ei hysbrydoli. Mae hi’n cofleidio technegau megis argraffu sgrin a lino, gan gyfuno crefftwaith traddodiadol gydag estheteg fodern yn fedrus. Mae Lily wrth ei bodd yn rhoi llawenydd i’r gwyliwr, gan roi teimlad o hapusrwydd iddyn nhw trwy ei dyluniadau, ei phaletau lliw bywiog a’i harddull arlunio.
Mae Lily wedi ei grymuso mewn sgiliau traddodiadol megis paentio a lluniadu, gan werthfawrogi’r hanes cyfoethog a’r technegau sy’n cyd-fynd â nhw. Mae hi wedi ei chyfareddu’n arbennig gan y broses o drosglwyddo ei dyluniadau ar ffabrig a’r posibiliadau cyffrous o weithio gyda deunyddiau amrywiol.
- Linktree:

BA (Anrh) Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Prosiect tecstilau yw ‘The Morbs’ wedi’i anelu at y rhedfa ffasiwn, sydd wedi’i hysbrydoli gan oes Fictoria. Mae elfennau o’r casgliad hwn yn cynnwys cyfuniad hybrid o chwilfrydedd morbid, ofergoelion a rhamant sydd wedi’i ysbrydoli gan agweddau ar y cyfnod. Mae’r casgliad yn defnyddio amrywiaeth o ffabrigau gweadog moethus sy’n ategu ei gilydd pan fyddan nhw wedi’u haenu.
Prif ymgyrch dylunio Freya yw adrodd straeon. Maen nhw’n credu y dylai fod gan bob casgliad a phatrwm naratif cryf tebyg i gelf gain. Mae Freya yn aml wedi ei hysbrydoli gan storïwyr mewn ffasiwn er enghraifft Alexander Mcqueen. Gydag angerdd am ffasiwn, mae gweadau yn bwysig i’w hymarfer. Mae Freya yn credu bod cyffyrddiad yn adrodd stori ynddo’i hun.
Mae Freya yn ffynnu ar ddysgu pethau newydd megis technegau ac mae hi bob amser yn awyddus i ddysgu rhagor. Hoff beth Freya yw’r broses o ddylunio, maen nhw’n mwynhau sut y gall bwrdd hwyliau cychwynnol droi’n gasgliad, sydd wedyn yn dod yn arddangosfa. Mae Freya yn teimlo balchder pan fyddan nhw’n gweld cynnydd o’r dechrau i’r diwedd.
- Linktree:
