Profiad PCYDDS Dafydd
Cyn dod i’r Brifysgol, mi wnes ddiploma lefel 3 mewn Addysg Antur Awyr Agored yng Ngholeg Sir Gâr (Graig). Roedd fy mhrofiadau personol yn golygu bod buddion ymyraethau awyr agored yn gwbl amlwg i mi. Roedd gwneud BA yn ddewis amlwg hefyd. Roedd agweddau ymarferol y radd yn gweddu i’r ffordd rwy’n hoffi dysgu, sef dysgu galwedigaethol a dysgu trwy brofiad. Ond mae’r cwrs, a’r diploma, yn golygu fy mod bellach â gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o werth ysgolheictod mewn maes mor ymarferol.
Ynghyd â hyn, rwyf wedi gallu gwneud defnydd ymarferol o fy nealltwriaeth ddamcaniaethol trwy gydol y cwrs BA tair blynedd, ac mae hynny wedi caniatáu i mi ddatblygu safbwynt unigryw ar arfer, hwyluso, a rheoli. Roedd y cyfle i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn golygu y gallwn drosglwyddo’r hyn roeddwn yn ei ddysgu ac yn ysgrifennu amdano yn uniongyrchol i’r ardal lle’r oeddwn yn gweithio.
Roedd cefnogaeth y darlithwyr angerddol yn golygu y gallwn gael sgyrsiau adeiladol wrth ymchwilio’r holl agweddau ar y diwydiant. Ers hynny, rwyf wedi cael cefnogaeth y Brifysgol i fynd i ddigwyddiad Gathering of Adventure Therapy Europe (GATE) yn Latfia, ble rwy’n gobeithio gwneud cysylltiadau a rhyngweithio cyn dechrau ar MSc mewn seicoleg ym mis Medi.
Gwybodaeth Allweddol
Enw: Dafydd Millns
Rhaglen: Addysg Antur Awyr Agored
Astudiaethau Blaenorol: Diploma Lefel 3, Addysg Antur Awyr Agored (ColegSirGâr)
Tref eich Cartref: Rhydaman
Profiad Addysg Antur Awyr Agored Dafydd
Profiad Addysg Antur Awyr Agored Dafydd

Beth oedd eich hoff beth am campws Caerfyrddin?
Fe wnaeth cyfleusterau campws Caerfyrddin, gan gynnwys y gampfa a’r llyfrgell, ganiatáu i mi ddatblygu ffordd iach o fyw yn ogystal ag archwilio’r byd academaidd a chadw’n heini, rhywbeth allweddol o ystyried natur fy ngradd. Ces gefnogaeth agos gan staff y ddau gyfleuster, gan olygu fy mod yn teimlo fel rhan o’r gymuned trwy gydol fy astudiaethau.
Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais PCYDDS gan ei fod yn agos at amrywiaeth o amgylcheddau naturiol, gan gynnwys arfordiroedd, creigiau, afonydd a mynyddoedd. Fe wnaeth gryfhau fy ysfa a’m hangerdd i weithio yn yr awyr agored. Roedd hefyd yn golygu y gallwn barhau i weithio â’r cwmnïau a’r sefydliadau hynny ble’r oedd gen i gysylltiadau ers cyn dyddiau’r brifysgol.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Ar ôl graddio, rwy’n gobeithio astudio MSc mewn Seicoleg Iechyd Meddwl a Lles. O wneud, fy ngobaith yw cael achrediad clinigol i gyd-fynd â’m sgiliau awyr agored, ac yna i weithio yn yr awyr agored a rhoi rhywbeth yn ôl i bobl ifanc sydd mewn gofal/argyfwng ayyb. Hefyd, rwy’n gobeithio datblygu fy sgiliau a’m gallu ym maes therapi antur, yn Ne Cymru a thu hwnt.
Beth oedd eich hoff beth am Addysg Antur Awyr Agored ?
Fy hoff beth am y cwrs Addysg Antur Awyr Agored oedd yr agosatrwydd a’r perthnasoedd a ddatblygais trwy gydol y cwrs. O ystyried maint y dosbarthiadau a natur y gwaith, a oedd yn cynnwys prosiectau grŵp ac alldeithiau, roedd y perthnasoedd a ffurfiwyd yn gryf iawn. Roedd hyn yn golygu bod ein cymuned yn gefnogol ac yn ofalgar, a bod yr amgylchedd dysgu yn ddelfrydol. O ystyried natur ymarferol y cwrs, roeddem yn cael digonedd o amser gyda’r darlithwyr, a gallwn feithrin cysylltiadau dyfnach a theimlo ein bod yn cael eu cefnogi drwyddi draw.