Profiad PCYDDS Lizzie
Gwybodaeth Allweddol
Enw: Lizzie Wild
Rhaglen: MA Addysg Awyr Agored
Tref eich Cartref: Whitchurch, Hampshire
Profiad Addysg Awyr Agored Lizzie
Profiad Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar Emily

Beth oedd eich hoff beth am campws Abertawe?
Fy hoff beth am gampws SA1 PCYDDS oedd lleoliad hardd y brifysgol hon y drws nesaf i’r traeth.
Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais PCYDDS oherwydd ei henw da iawn am raddau addysg.
Mae’r cwrs wedi fy narparu â llawer o wybodaeth a phrofiad gwerthfawr ac wedi fy ngwneud yn fwy hyderus wrth weithio gyda phlant ifanc.
Beth gwnaethoch chi fwynhau tu allan i’ch astudiaethau?
Rwy’n mwynhau pobi cacennau. Rwy’n coginio trwy’r amser i’m teulu a’m ffrindiau ac ar gyfer achlysuron arbennig.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Byddaf yn astudio’r TAR yn PCYDDS gyda’r gobaith o ddod yn athrawes ysgol gynradd.
Beth oedd eich hoff beth am Addysg Blynyddoedd a Gofal Blynyddoedd Cynnar ?
Rwyf wrth fy modd ar ba mor gynhwysol yw’r cwrs hwn gyda thîm gwych, calonogol a chefnogol o ddarlithwyr.
Mae astudio’r radd Blynyddoedd Cynnar a Gofal wedi bod yn un o’r penderfyniadau gorau rwyf erioed wedi’i wneud. Rwyf wedi mwynhau pob agwedd o’r cwrs hwn ac wedi gwneud rhai ffrindiau oes. Mae cynnwys y cwrs hwn wedi bod yn addysgiadol a phleserus iawn. Rwyf wedi ennill cymaint o wybodaeth a phrofiad gwerthfawr sydd wedi fy mharatoi ar gyfer gyrfa mewn addysg blynyddoedd cynnar.
Mae’r holl dîm darlithio blynyddoedd cynnar yn haeddu canmoliaeth arbennig. Maen nhw wedi bod mor gefnogol, calonogol ac amyneddgar dros y tair blynedd ddiweddaf. Maen nhw wir yn mynd gam ymhellach i’w myfyrwyr ac yn gwneud y cwrs hwn yn gynhwysol i bawb. Fyddwn i ddim wedi gwneud hyn heb eu cefnogaeth barhaus.