
Y Dyniaethau yn Llambed: Ymchwil
Cefnogi Taith y Cwricwlwm i Gymru
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mewn partneriaeth â Phrifysgol Glasgow, yn cynnal Partneriaethau Cynllunio: Creu Dysgu ar gyfer Cymru.
Mae’r prosiect tair blynedd, seiliedig ar dystiolaeth hwn wedi’i gynllunio i gefnogi ysgolion ac ymarferwyr wrth wireddu’n gydlynol y Cwricwlwm i Gymru (CiG) yn gwricwlwm sy’n cael ei arwain gan ddibenion ac yn canolbwyntio ar broses.Ein nod yw gweithio’n gydweithredol â’r proffesiwn addysgu i wella dealltwriaeth ac arfer wrth gynllunio’r cwricwlwm, ei symud ymlaen a’i asesu.
Yr hyn a gynigir gan Bartneriaethau Cynllunio
Nod y prosiect hwn yw adeiladu gwybodaeth broffesiynol a chapasiti ar draws y system addysg yng Nghymru. Ein nodau craidd yw:
- Cyd-adeiladu Gwybodaeth Broffesiynol: Gweithio ochr yn ochr ag ysgolion ac ymarferwyr i ddatblygu capasiti a dealltwriaeth a rennir o gynllunio cwricwlwm, dilyniant dysgu, a dulliau asesu sy’n alinio â natur canolbwyntio ar broses y CiG.
- Datblygu ‘Eraill Gwybodus’: Grymuso ymarferwyr i ddod yn arweinwyr mewn datblygu cwricwlwm yn eu clystyrau eu hunain, gan feithrin model cynaliadwy o gefnogi cymheiriaid ac adeiladu capasiti ar draws y system.
- Creu a Rhannu “Naratifau Ysgol”: Datblygu astudiaethau achos cyfoethog, neu ‘Naratifau Ysgol’, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau. Bydd y rhain yn arddangos dulliau amrywiol ac effeithiol o gynllunio cwricwlwm, addysgu, asesu, a dilyniant yn ymarferol ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad, gan ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr ar gyfer y proffesiwn yn ehangach.
- Ffocws ar Flaenoriaethau Cwricwlwm Allweddol: Ymdrin ag agweddau hanfodol ar y CiG, gan gynnwys sgiliau cyfannol, sgiliau trawsgwricwlaidd, ac amrywiaeth, gan sicrhau bod y dysgu’n gyfoethog, ymatebol, a chynhwysol.
Ein Dull Ni: Cynllunio Cydweithredol a Dysgu Proffesiynol
Mae ‘Partneriaethau Cynllunio’ yn defnyddio model o adeiladu capasiti proffesiynol a strwythurwyd yn ofalus, wedi’i seilio ar ymchwil ac arfer cydweithredol. Bydd y prosiect yn datblygu dros gylchoedd o dair blynedd, gyda phob cylch yn ymgysylltu â grŵp newydd o ysgolion.
Ymhlith nodweddion allweddol ein dull, mae:
- Timau Cynllunio Cwricwlwm (TCC): Ar y cychwyn, bydd ymarferwyr ysgolion sy’n cymryd rhan yn llunio TCC, gan weithio’n agos ag aelodau tîm y prosiect. Yn y timau hyn, bydd aelodau’r prosiect yn gweithredu fel ‘eraill gwybodus’, gan ddarparu arbenigedd ac arweiniad wrth i ymarferwyr ymgymryd â chylchoedd o gynllunio cwricwlwm gyda’u dysgwyr.
- Timau Cynllunio Athrawon (TCA): Yna, bydd ymarferwyr o’r TCC yn cael eu cefnogi i lunio TCA gyda chydweithwyr o’u hysgolion clwstwr. Yn y cyfnod hwn, daw’r cyfranogion cychwynnol yn ‘eraill gwybodus’, gan raeadru eu dysgu a chefnogi datblygiad y cwricwlwm yn ehangach.
- Cylch o Ymgysylltu: Bydd pob cylch blwyddyn yn cynnwys:
- Ymgyfarwyddo ac ymgysylltu cychwynnol.
- Gweithdai cynllunio cwricwlwm a digwyddiadau rhannu gwybodaeth wyneb yn wyneb.
- Cymorth parhaus trwy ymweliadau ysgol, sesiynau gyda’r hwyr (ar-lein), ac arweiniad pwrpasol gan dîm y prosiect.
- Cyd-gynllunio ymagweddau at waith clwstwr a chefnogaeth.
- Cyfleoedd ar gyfer adfyfyrio proffesiynol a rhannu dysgu.
Yr hyn y gall Ysgolion ei ddisgwyl: Taith Gefnogol a Datblygiadol
Gall ysgolion sy’n ymuno â ‘Phartneriaethau Cynllunio’ ddisgwyl profiad cefnogol, cydweithredol sy’n eu cyfoethogi’n broffesiynol.
Dyma enghraifft ddangosol o daith:
Dechrau Arni (Cyn-ymgysylltu a Thymor 1)
- Ymgysylltu Cychwynnol: Bydd aelodau o dîm y prosiect yn ymweld â’ch ysgol i ddeall eich gwaith presennol gyda’r CiG ac i drafod y prosiect.
- Gweithdy Sylfaen: Bydd tîm eich ysgol (dau athro ac uwch arweinydd fel arfer) yn mynychu gweithdy wyneb yn wyneb i gyflwyno’r ymagwedd sy’n canolbwyntio ar broses at y CiG.
- Trefniant Tîm Cynllunio’r Cwricwlwm (TCC): Bydd eich tîm yn llunio TCC gydag arweinwyr dynodedig o dîm y prosiect a fydd yn darparu cymorth parhaus.
- Cymhwysiad Ymarferol: Bydd eich TCC yn ymgymryd â chylchoedd cynllunio cwricwlwm yn eich ysgol, gan gymhwyso’r hyn a ddysgwyd o’r newydd gyda’ch disgyblion, gyda chefnogaeth arweiniad ac adborth rheolaidd.
Ymestyn Eich Effaith (Tymor 2)
- Adfyfyrio a Chynllunio: Bydd eich TCC yn adfyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd ac yn cyd-adeiladu cynlluniau i gefnogi ysgolion clwstwr.
- Trefniant y Tîm Cynllunio Athrawon (TCA): Bydd tîm eich ysgol yn symud ymlaen i arwain TCA, gan ddod yn ‘eraill gwybodus’ ar gyfer ymarferwyr o’ch ysgolion clwstwr.
- Ymgysylltiad Clystyrau: Byddwch yn ymgysylltu â’ch ysgolion clwstwr, gan eu cyflwyno i’r prosiect a’r dull sy’n canolbwyntio ar broses.
Cyfnerthu Dysgu a Rhannu (Tymor 3 a Thu Hwnt)
- Cefnogi Gweithrediad Clystyrau: Bydd eich TCA yn cefnogi ysgolion clwstwr wrth iddynt ymgymryd â’u cylchoedd cynllunio cwricwlwm eu hunain.
- Rhannu yn y Grŵp Cyfan: Bydd holl gyfranogion y prosiect yn dod at ei gilydd i rannu profiadau, adfyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd a thrafod cynaliadwyedd.
- Cyfrannu at “Naratifau Ysgol”: Bydd taith eich ysgolion yn cyfrannu at ddatblygiad astudiaethau achos cyfoethog ar gyfer y proffesiwn ehangach.
- Datblygiad Parhaus: Nod y prosiect yw ymgorffori newid cynaliadwy, gyda chyswllt dilynol i weld sut mae eich ysgol wedi parhau i ddatblygu ei harfer.
Wedi’i seilio ar Ymchwil a Chydweithrediad
Mae’r prosiect hwn wedi’i adeiladu ar sail dystiolaeth gref, gan dynnu ar ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol ar ddiwygio cwricwlwm a dysgu proffesiynol, gan gynnwys canfyddiadau Camau i’r Dyfodol cynt.
Rydym yn ymrwymo i ddull cyd-adeiladol, gan weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, ymarferwyr, Llywodraeth Cymru, Adnodd, a rhanddeiliaid addysgol allweddol eraill.