Profiad PCYDDS Ashlee Ryan-Rose
Helo! Dwi’n fyfyriwr aeddfed a gwblhaodd radd BA mewn ysgrifennu creadigol gyda’r Drindod Dewi Sant cyn parhau ag MA mewn ysgrifennu creadigol i ddilyn fy niddordeb fel awdur a mireinio fy sgiliau.
Gwybodaeth Allweddol
Enw: Linghwa Bremer
Rhaglen: MA Ysgrifennu Creadigol
Astudiaethau Blaenorol: BA Ysgrifennu Creadigol
Tref eich Cartref: O Ganolbarth Lloegr
Linghwa Bremer 's Programme Name Experience
Profiad Ysgrifennu Creadigol Linghwa

Beth oedd dy hoff beth am gampws Llambed?
Dwi wrth fy modd â lleoliad tawel campws Llambed, sydd wedi’i leoli yng nghanol y dref ac sydd â chymuned hyfryd a chroesawgar, gyda’r myfyrwyr ar y campws ac yn y dref.
Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais astudio yn y Drindod Dewi Sant ar ôl clywed cynifer o adolygiadau cadarnhaol am fyfyrwyr ag amrywiol anableddau, a’r cyfleoedd i gael cymorth wedi’i deilwra ar gyfer pob myfyriwr. Mae’r cymorth hwn wedi bod yn amhrisiadwy i mi drwy gydol fy astudiaethau ac mae wir wedi fy helpu i gyflawni y tu hwnt i’m disgwyliadau ac i ffynnu yn fy astudiaethau. Mae hefyd wedi bod yn hwb enfawr i’m hyder y tu allan i fywyd y brifysgol.
Beth gwnaethoch chi fwynhau tu allan i’ch astudiaethau?
Dwi’n mwynhau moduro ac archwilio Cymru ar y ffyrdd, a theithio i ble bynnag a phryd bynnag y bydd y cyfle’n codi.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Ar ôl graddio, dwi’n gobeithio parhau i ddilyn gyrfa yn ysgrifennu; ac o bosibl aros ymlaen yn y Drindod Dewi Sant i wneud PhD sydd wedi’i ysbrydoli gan fy ymchwil creadigol drwy gydol fy astudiaethau.
Beth oedd eich hoff beth am Ysgrifennu Creadigol?
Mae’n eithriadol o anodd i ddewis un hoff beth ynglŷn â’r cyrsiau ysgrifennu creadigol (BA ac MA) – fodd bynnag, gallaf ddweud bod pob un o’r darlithwyr yn wych, yn gefnogol, a wastad yn dod o hyd i amser i helpu gyda’r cwestiynau mwyaf astrus yn ymwneud ag ysgrifennu.
A fyddech chi'n argymell PCYDDS a pam?
Mae’r amser a dreuliais yn astudio ysgrifennu creadigol ar lefel BA ac MA yn y Drindod Dewi Sant wedi bod yn hwb i mi ysgrifennu y tu hwnt i’r ffiniau sy’n gyfforddus i mi, i herio fy hun â gwahanol arddulliau a phersbectif, a’m cyflwyno i gymuned hyfryd o ysgrifenwyr, ar y campws ac o fewn y sir.
Dwi hefyd wedi cael fy annog a’m cefnogi i fynd y tu hwnt i’m terfynau gan deithio dramor ar fy mhen fy hun i wneud gwaith ymchwil sydd wedi agor drysau at ddewisiadau gyrfa newydd ac annisgwyl.