ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Nancy Akuffobea - Darlunio (BA)

Profiad Nia Jade Hopkins yn PCYDDS

A smiling student standing outside a building which displays her colourful banner image.

Enw: Nia Jade Hopkins

Cwrs: BA Darlunio 

Tref eich cartref: Ystrad Mynach
 

Profiad Nia ar BA Darlunio

Nancy 2

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Fy hoff beth am Goleg Celf Abertawe PCYDDS yw’r tiwtoriaid anhygoel, talentog. Rwyf wedi tyfu cymaint drwy’r gwersi a’r sesiynau 1:1.  Y gefnogaeth boed yn academaidd, iechyd meddwl neu fusnes wedi bod yn wych.  Rwyf wedi cael cyfleoedd anhygoel i dyfu fel darlunydd o deithiau cwrs i ymchwil ymgysylltiol a phrofiadau cystadlu.  Mae’r brifysgol yn cynnig cyfleoedd go iawn i ddatblygu’n broffesiynol gyda bwrsarïau, gweithdai ac arweiniad entrepreneuraidd. Mae pob rhan o’r flwyddyn wedi’i chynllunio i’ch helpu i dyfu. 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais PCYDDS ar ôl ymchwilio i’r cyrsiau darlunio gorau.  Mae cymaint o fyfyrwyr wedi rhannu adborth cadarnhaol, ac roedd fy nhiwtor yng Ngholeg y Cymoedd, Paul Lavagna wedi’i argymell yn gryf.  Roedd y sicrwydd hwn wedi fy helpu i ymrwymo’n llawn a symud i Abertawe, sy’n un o’m mhenderfyniadau gorau.  Roeddwn i’n byw dim ond 10 munud o’r campws, gan roi mynediad hawdd i mi i’r cyfleusterau a’m nghaniatáu i fod yn brydlon a chymryd rhan.  Strwythur y cwrs, y system adborth a’r amgylchedd creadigol oedd popeth yr oeddwn yn chwilio amdano. 

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Y tu allan i’m astudiaethau, rwyf yn mwynhau peintio a rhannu fy mhroses ddylunio drwy gynnwys fideo ar y cyfryngau cymdeithasol.  Rwyf wedi bod yn golygu a phostio fideos creadigol am flynyddoedd.  Yn ogystal, rwy’n mwynhau ymarfer corff ar gyfer llesiant meddwl a chorfforol, gwneud colur, coginio prydau iachus a threulio amser yn yr awyr agored, ar fy mhen fy hun neu gyda fy nheulu a’m ffrindiau.  Mae’r gweithgareddau yn fy nghadw’n gytbwys ac yn greadigol. 

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Rwy’n gobeithio gweithio yn y diwydiant creadigol, fel llawrydd, wedi’ fy nhrwyddedu neu drwy ymuno ag asiantaeth.  Rwyf yn tyfu fy musnes bach fy hun  “Nancy’s Gallery’ yn barod, lle rwy’n cynnig printiau, gwaith comisiynu, a phaentiadau acrylig.  Fy mreuddwyd yw ehangu’r brand, gan gynnig cynhyrchion unigryw ac adeiladu presenoldeb cryf ar-lein.  Diolch i gwrs cychwyn busnes y brifysgol a’r bwrsari, roeddwn i’n gallu prynu argraffydd ac offer i dyfu fy musnes.  Mae gweld fy narlun o ddefaid yn cael ei arddangos ar flaen y brifysgol yn garreg filltir anhygoel i mi.  Mae’r cwrs a’r tiwtoriaid wedi rhoi’r sylfaen, yr anogaeth, a’r hyder i mi gymryd y camau hyn. 

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Y tiwtoriaid anhygoel, fy ffrindiau cefnogol a thalentog o’r dosbarth, mynediad at gyfleusterau argraffu a stiwdio a’r ystod eang o gystadlaethau a chyfleoedd am swyddi.  Mae’r amgylchedd yn greadigol, croesawgar ac yn llawn posibiliadau. 

Nancy

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Yn bendant.  Mae PCYDDS yn eich dysgu sut i fod yn ddarlunydd proffesiynol.  Os ydych yn ymrwymo’n llawn, mae cymaint o gefnogaeth a chyfleoedd i’ch helpu i lwyddo.  O arweiniad busnes i ryddid creadigol ac adborth gonest, mae’r brifysgol yn eich gwthio i gyrraedd eich potensial. 

Gwybodaeth Gysylltiedig