Aimee Rayner yn PCYDDS
Enw: Lewis Parry
Cwrs: BA Dylunio Cynnyrch a Dodrefn
Astudiaethau Blaenorol: City and Guild lefel 3 mewn Gwneud dodrefn a chabinetau: Coleg Moulton
Tref eich cartref: Bedford
Profiad Lewis ar BA Dylunio Cynnyrch a Dodrefn

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Yr ymdeimlad o gymuned a’r staff a’r myfyrwyr cyfeillgar
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Roedd y staff darlithio yn gyfeillgar a dydw i erioed wedi byw ar lan y môr.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Yn fyfyriwr aeddfed roedd gen i gymhelliant cryf o ran beth roeddwn i am ei gyflawni. Rwy wedi trin y Brifysgol fel swydd, bob dydd rhwng 07:30 a thua 17:30 ac weithiau’n hwy. Dydw i erioed wedi canolbwyntio ar gredydau roeddwn i eisiau gwneud y gwaith gorau y gallwn i a dod allan y pen draw yn gwybod fy mod i wedi gwneud fy ngorau glas a rhoi popeth. Rwy hefyd yn mwynhau treulio amser gyda’r ffrindiau rydw i wedi’u gwneud ar y cwrs.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Yn ystod fy mlwyddyn olaf ysgrifennais i at amrywiaeth o sefydliadau Prydeinig gan gynnwys Abaty Westminster, wyth mis wedyn dyma fi’n sefyll o flaen cynrychiolwyr un o dirnodau mwyaf hanesyddol y DU, yn cyflwyno’r gadair i’r Abaty.
Hoffwn i wneud gradd meistr mewn dylunio dodrefn neu reoli busnes dodrefn ym Milan nesaf neu sefydlu fy musnes fy hun. Ond cawn ni weld, y naill ffordd neu’r llall, dim ond fy mod i’n dylunio pethau, fe fydda i’n hapus.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Mae’r radd wedi rhoi llawer o sgiliau ymarferol i mi fel CAD, gwneud modelau, cyflwyno ac ati ac wedi newid y ffordd rwy’n mynd ati i ddylunio a chyflwyno rhywbeth. Mae wedi fy rhoi i ar ben ffordd i wneud fy ngwaith.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn! Mae’r staff darlithio yn gyfeillgar, yn amyneddgar ac yn wybodus. Maen nhw’n caniatáu i chi fod yn greadigol, gwneud camgymeriadau ac yn mynd â chi trwy’r elfennau creiddiol. Er bod y dosbarthiadau’n fach, mae hynny’n gweithio o’u plaid nhw gan eich bod chi’n cael llawer o amser 1 i 1 gyda’r staff. Mae pob un o’r 3 blwyddyn yn rhannu’r stiwdio gan eich galluogi chi i wneud ffrindiau dros y tair blynedd.