Fran yn PCYDDS
Profiad Fran ar BA Celf Gain

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Mae gan Adeilad Dinefwr Ystafell Fywyd bwrpasol gyda mynediad agored rheolaidd i fyfyrwyr Celfyddyd Gain. Mae’r stiwdios yn caniatáu i chi rannu gwaith a dod i adnabod myfyrwyr eraill. Yn ogystal mae’r Ystafell Ddarllen yn lle gwych i encilio iddi.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Mae gan PCYDDS enw da iawn am Gelfyddyd Gain a maint dosbarthiadau llai – yn aml, mae mwy o bobl mewn dosbarth yn golygu eich bod yn anhysbys ac yn gallu cael anawsterau cael mynediad at adnoddau.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Cerdded a rhedeg llwybrau ar yr arfordir, y sîn gelfyddydol byrlymus yn Elysium, tafarndai ardderchog.
Beth ydych chi’n gobeithio ei wneud pan fyddwch chi’n graddio?
Parhau i ddod o hyd i ffordd ymlaen a dilyn fy ngreddf.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Teimlo’n rhan o gymuned gyda llif cyffredin o gelf yw fy hoff beth. Rwyf hefyd wrth fy modd yn gweithio yn yr ystafell fywluniadau a stiwdios a defnyddio cyfleusterau’r ystafell argraffu. Rwyf hefyd wedi elw cymaint o sgyrsiau gan artistiaid gwadd.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn. Mae’r awyrgylch yn gyfeillgar a chefnogol iawn, mae staff bob amser ar gael ac yn hawdd mynd atynt. Maent yn ein cyflwyno i gymaint o gyfleoedd newydd ac annisgwyl i brofi celf a chymryd rhan ynddi.