Tara yn PCYDDS
Profiad Tara ar BA Celf Gain

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Fy hoff beth am fy nghampws yw pa mor groesawgar yw pawb gan gynnwys yr holl staff. Mae’r stiwdios yn helpu i gyfrannu at brofiad cysurlon wrth arbrofi ac maent yn llefydd gwych i ddod i adnabod eich cymheiriaid.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Astudiais i ar gyfer fy Level 3 a Sylfaen yn Lynwood y Bryan, Coleg Gŵyr. Roeddwn i’n dwlu ar fy mhrofiad yn astudio celf a dechreuais edrych ar PCYDDS. Mynychais i gystadlaethau aml-sgilio Cymru yn PCYDDS yn ystod fy nghyfnod yn Lynwood y Bryan ac roeddwn wrth fy modd yno. Mynychais i ddiwrnodau agored PCYDDS ac yn gwybod mai PCYDDS oedd y brifysgol iawn i mi.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Yn ystod fy amser rhydd y tu allan i’m hastudiaethau, rwyf wrth fy modd yn mynd i’r afael â’m hochr creadigol a’i harchwilio. Rwyf wrth fy modd yn darllen, ysgrifennu ac archwilio drwy gyfryngau lluosog celf yn enwedig celf ddigidol.
Beth ydych chi’n gobeithio ei wneud pan fyddwch chi’n graddio?
Yn ystod fy nghyfnod fel myfyriwr israddedig rwyf wedi bod yn meddwl am y cyfleoedd yr hoffwn eu cymryd ar ôl graddio. Gobeithio byddaf yn gweld os gallaf wneud gradd meistr a chael prentisiaeth rhywle. Hoffwn beintio murluniau ar waliau mewn caffi. Hoffwn hefyd fod yn llawrydd celf fel y bydd gennyf amser i arbrofi a gweld yr hyn rwy’n gallu ei greu.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Fy hoff beth am fy nghwrs yw bod fy narlithwyr yn artistiaid ac maent yn weithredol iawn yn y sîn gelf. Mae hyn yn fy ysbrydoli i barhau i greu ac rwy’n pharchu fy narlithwyr.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn yn bendant yn argymell PCYDDS i unrhyw un sy’n ystyried mynd i’r brifysgol. Mae PCYDDS yn gymuned groesawgar, gefnogol a chyfeillgar. Mae pawb wrth law bob amser i helpu unrhyw un sydd eisiau cymorth ychwanegol.