ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Sioe Haf: Darlunio

Darlunio

loads of illustrations on a wall

Faint o’r gloch yw hi?

Mae’r arddangosfa ‘Faint ‘r gloch yw hi?’, yn dathlu diwedd tair blynedd o waith gan y myfyrwyr BA (Anrh) Darlunio. 

Roedd yr arddangosfa hon yn amlygu’r amrywiaeth gyfoethog o arfer greadigol sydd ym maes Darlunio, gan gynnwys popeth o gelf gysyniad a dylunio cymeriadau i lyfrau plant, dylunio deunydd pacio, golygyddol, hysbysebu, a nofelau graffig. Gwnaeth ymwelwyr archwilio ystod eang o waith celf perthnasol yn fasnachol, wedi’i greu trwy gyfryngau traddodiadol a digidol, gan gynnwys delweddau 2D, 3D a symudol. 

Roedd yr arddangosfa yn cynnig cipolwg unigryw i mewn i arferion darlunio cyfoes, gyda phortffolios yn llawn gwaith arloesol, arbrofol, ac yn canolbwyntio ar gleientiaid i gyd wedi’i grefftio ag unigolrwydd a’u paratoi ar gyfer byd creadigrwydd gweledol mewn ystod eang o feysydd fel celf gysyniad, darlunio golygyddol, hysbysebu a llyfrau. 

Ein Gwaith

Nancy Akuffobea

Wedi’i geni yn Ghana a’i magu ym Mhalermo, Yr Eidal, dechreuodd gariad Nancy at gelf pan oedd yn ifanc iawn, wedi’i siapio gan yr heulwen, natur a’r diwylliant cyfoethog o’i chwmpas. Iddi hi, nid dim ond rhywbeth i’w ddefnyddio yw lliw, mae’n rhywbeth i’w deimlo. Yn ddarlunydd amryddawn, mae hi’n gweithio gyda chyfuniadau lliw praff, annisgwyl i greu darluniau â chydbwysedd hyfryd.

illustration of sheep with flowers

Ellie Ball

Darlunydd o De Cymru yw Ellie. Mae hi’n angerddol am greu cymeriadau bywiog ac mae hi’n rhamanteiddio golygfeydd bob dydd wedi’u trwytho â’i harddull addurniadol unigryw. Mae Ellie yn dechrau ei phroses greadigol gyda brasluniau, mae hi’n eu gwneud â llaw, gan gredu bod hyn yn gam sylfaenol sy’n ychwanegu bywyd i’w gwaith. Mae hi’n gwerthu ei gwaith celf a’i chynhyrchion mewn gwahanol farchnadoedd crefftwyr, confensiynau a digwyddiadau dros dro. Mae hi’n ffynnu yn yr amgylcheddau gwerthu wyneb yn wyneb hyn, ac yn coleddu’r cyfle i gysylltu gyda chwsmeriaid. Mae ei diddordeb yn ffynnu mewn gwaith fel golygyddol, hysbysebu a thrwyddedu.

illustration of houses in a row with people riding bikes

Megan Ballard

Artist collage/montage ffotograffau yw Megan sydd ag arddull weledol drawiadol, yn cael ei hysbrydoli gan Swrrealyddion, Ernst a Magritte. Maent yn chwilio am ddelweddau o gasgliadau amgueddfeydd ac orielau i greu ei darluniau cysyniadol, gan gymryd delweddau allan o’u cyd-destun gwreiddiol i ddyfeisio ei byd unigryw ei hun.

  • Gwefan:
  • Instagram:
illustration of a seagull with a boat

Rhys Boland

Mae Rhys yn ymdrechu i greu celf sy’n gadael argraff gyda’i arddull praff, cysyniadol a’i themâu ffantastig. Mae ganddo ddealltwriaeth gynhenid o liw ac iaith y corff ac mae’n defnyddio hyn i archwilio cymeriad a chysyniad. Wedi’i ysbrydoli gan ddulliau adrodd straeon clasurol, mae gan ei waith ansawdd etheraidd a breuddwydiol sy’n gyrru ei ddull adrodd stori.

illustration of a woman laying down

Kate Clement

Awdur-darlunydd yw Kate sydd â diddordeb brwd mewn hanes. Mae’n creu cymeriadau nad yw eu straeon wedi’u hadrodd o’r blaen. Mae ei harddull gweadog hardd yn ffitio i mewn i’w strwythur comig ffilmaidd, ac yn paru’n wych â dull adrodd straeon sy’n drasig ar brydiau.

illustration of a man holding another person

Jane Delve

Darlunydd llyfrau plant yw Jane, a elwir hefyd yn Bobbie Sheppard, sydd ag angerdd am straeon sy’n taflu goleuni ar y rhai sy’n aml yn cael eu hesgeuluso. Trwy ei chelf, daw â chynhesrwydd, empathi a mymryn o hyd a lledrith i lyfrau sy’n helpu darllenwyr ifanc i ddeall a chysylltu gyda phobl ar ymylon cymdeithas. P’un a yw hynny’n blant sy’n wynebu salwch terfynol neu’r oedrannus sy’n teimlo’n angof. Mae Jane yn credu bod llyfrau lluniau’n gallu gwneud gwahaniaeth, gan agor calonnau a dechrau sgyrsiau pwysig.

illustration of a horse

Sadie Ford

Darlunydd yw Sadie wedi’i lleoli yn Ne Cymru, mae’n creu gwaith celf manwl, digidol yn bennaf, â ffocws ar efelychu gweadau a rhinweddau cyfryngau traddodiadol. Mae symbolaeth wedi’i gwreiddio’n ddwfn n ei gwaith, gan gael ei hysbrydoli gan ddarlunwyr y diwydiant cerddoriaeth ac artistiaid y diwydiant tatŵs, ac mae’r ddau wedi dylanwadu ar hunaniaeth artistig Sadie ac mae’n sail iddi. Mae creadigrwydd Sadie yn ffynnu wrth wrando ar gerddoriaeth, sy’n llenwi ei diwrnodau gwaith.

illustration of a squirrel with flowers

Ellie Jones

Mae Ellie yn ddarlunydd angerddol sydd â ffocws ar lesiant ac ymwybyddiaeth ofalgar, themâu sy’n ysbrydoli ei phroses greadigol yn barhaus. Gan weithio’n bennaf â Procreate ac weithiau Photoshop, daw â’i syniadau yn fyw trwy ddarlunio digidol. Wrth iddi gwblhau blwyddyn olaf ei Gradd BA Darlunio, mae hi’n awyddus i archwilio cyfleoedd sy’n caniatáu iddi ddefnyddio darlunio fel arf ar gyfer cysylltu, adfyfyrio a phositifrwydd.

illustration of a woman

Abigail Larson

Mae Abigail yn gweithio’n bennaf mewn dyfrlliw ac inciau, am ei bod yn cael ei denu gan lifedd a mynegolrwydd y cyfryngau hyn. Caiff ei gwaith ei ysbrydoli gan ddarlunwyr fel Quentin Blake ac Arnold Lobel, ac mae hi’n gobeithio cipio’r un egni a natur ryfeddol yn ei darluniau hithau. Llyfrau lluniau plant yw ei phrif faes diddordeb. Mae natur a’r byd o’i chwmpas yn chwarae rhan enfawr yn ei phroses greadigol. Wedi’i magu ym Montana, mae’r bywyd gwyllt a’r tirluniau yno wedi ei hysbrydoli o hyd, ac mae hi’n dwlu ar greu darluniau sy’n teimlo’n agos atoch ac yn gwneud i bobl wenu.

  • Gwefan:  
  • Instagram:
illustration of a mouse in grey

Awel Mari

Darlunydd yw Awel Mari sy’n siarad Cymraeg ac yn mwynhau arbrofi gyda ffyrdd anghonfensiynol o arddangos benyweidd-dra, Cymreictod a diwylliant. Yn bennaf, mae ei gwaith yn canolbwyntio ar werthoedd ffeministaidd a dylunio cymeriadau ar gyfer animeiddio. Mae hi’n canolbwyntio ar ddad-adeiladu ffyrdd y caiff cymeriadau sy’n cyflwyno’n femme eu rhywioli yn y cyfryngau, a hyn yn bennaf a ddylanwadodd ar ei gwaith dylunio ac ymchwil.

  • Gwefan:
  • Instagram:
illustration of a female merging into water with fish

Devon Nash

Darlunydd llawrydd y Devon sy’n hanu o Gymoedd Cymru. Daw peth o’u prif ysbrydoliaeth ar gyfer darluniau o’r tirluniau hardd a’r ddelweddaeth sydd ar gael o’u cwmpas. Maent yn ymgorffori cynrychiolaethau o’r elfennau bugeiliol a mwy trefol yn eu gwaith ac yn ceisio defnyddio pynciau amgylcheddol a phensaernïol. Yn aml, mae Devon yn dewis gweithio ar y safle neu gydag ymchwil cynradd, ac yna maent yn trosi hyn yn ddarnau o waith naratif sy’n gwau ynghyd y defnydd o themâu pensaernïaeth ac amgylcheddol. Maent yn ceisio ennyn diddordeb eu gwylwyr trwy adrodd straeon, gan eu gwahodd i mewn i’w gwaith gweledol.

illustration of a house on a road

Kate Paddock

Mae arfer darlunio Kate yn canolbwyntio ar greu darnau golygyddol sy’n adlewyrchu’r meddwl dynol. Mae eu darnau o waith swrrealaidd wedi’u seilio ar eu trafferthion a’u profiadau eu hunain, ac maent yn cynnwys elfennau cryf o realaeth sy’n dod â’r gweledigaethau gwaedlyd hyn yn fyw.

illustration of a man in a frame

Faye Pickin

Mae Faye yn ddarlunydd sy’n dwlu ar greu delweddau sy’n cynnwys lliwiau llachar a gweadau diddorol, gan gofleidio cymeriadau dilys a dathlu unigolrwydd ac unigrywiaeth. Mae hi’n angerddol am greu enydau bob dydd sy’n taro tant â’i chynulleidfa, gan eu gwahodd i mewn i fyd sy’n teimlo’n gyfarwydd. Mae hi’n angerddol am eirioli dros hawliau, ymwybyddiaeth gymdeithasol a llesiant ei chenedlaethol.

illustration of a woman laying down

Lauren Rees

Yn y lle cyntaf, darlunydd digidol yw Lauren sy’n gweithio ar Procreate. Yn obsesiynol am straeon, mae hi’n gosod ei chymeriadau yn ei naratifau ei hun; o ddymchwel cwlt mewn lleoliad canoloesol ffantasi i burdan Fictoraidd botanegol lle mae’r rhai a lofruddiwyd yn byw. Mae themâu natur ac anthropomorffaeth yn ymddangos yn aml yn ei darnau, a chaiff ei hysbrydoli gan bethau tebyg i fasnachfreintiau fel Shrek a Tinkerbell. Nid oes rhyfedd bod ei hobsesiynau’n ymwneud â Thylwyth teg.

illustration of a monster

Caitlin Rowlands

Darlunydd o Ardal y Llynnoedd yw Caitlin, sy’n byw yn Abertawe ar hyn o bryd. Caiff ei chelf ei hysbrydoli gan lyfrau comig, gyda’i thro benywaidd ei hun arnynt. Mae hi’n mwynhau darlunio ei llyfrau comig ei hun, gan greu ei chymeriadau a bydoedd ei hun. Mae ei harddull gelf yn ffres a llawn hwyl ac mae’n cynnwys ystod eang o themâu yn ei gwaith o anifeiliaid ciwt i olygfeydd eithriadol o gyffrous. 

illustration of a woman holding a Grande

Libbi Sherman

Artist digidol yw Libbi Sherman sydd wedi’i lleoli yng Nghymru, ac mae hi’n angerddol am adrodd straeon, gan wau naratifau cyfoethog i mewn i bob darn mae hi’n ei greu. Wedi’i hysbrydoli gan ffilmiau, llyfrau, a gemau fideo, mae hi’n ymdrechu i grefftio bydoedd trochol a chymeriadau cymhellol. Yn aml, mae ei gwaith yn cofleidio paled o liwiau tywyll, wedi’i ysbrydoli gan ei chariad at arswyd a ffantasi. Gyda diddordeb brwd mewn dylunio cloriau llyfrau a chelf gysyniad, ar hyn o bryd, mae Libbi yn canolbwyntio ar ddylunio cymeriadau, gan archwilio sut mae adrodd straeon gweledol yn siapio a diffinio presenoldeb cymeriad.

illustration of a woman

Taylor Washington

Mae Taylor Washington, a elwir hefyd yn ‘Woshyn10’, yn gweithio ar draws platfformau a chyfryngau niferus ac mae’n arbenigo mewn darlunio arsylwi, gan gynnwys portreadau o fodelau dynol ac anifeilaidd. Mae e hefyd yn cynhyrchu gwaith yn arddull y genre ffantasi, gan gynnwys dylunio cymeriadau a chelf amgylcheddol. Fel arfer, mae yna thema neu neges yn ei waith mwy personol y mae’n ei ymgorffori trwy drosiad neu semioteg gweledol.

illustration of a landscape with mushrooms

Keeley Weston

Mae Keeley, a elwir hefyd yn Into Blossom, yn gweithio mewn cyfryngau traddodiadol cyffyrddol a yrrir gan broses. Caiff ei dylanwadu gan natur, tirluniau a llenyddiaeth, ac mae ei gwaith yn archwilio syniadau lle, cysylltiad, ac amser, gyda ffocws ar ymchwilio i’r perthnasau a gaiff pobl â’u hamgylchedd a sut mae’r cof yn effeithio ar y ffordd y maent yn uniaethu ag ef. Mae’n cynhyrchu gwaith manwl gywir, cynnil ni waeth beth fo’r cyfrwng, p’un a yw’n gwneud printiau, paentio, neu ei hymchwiliad diweddar i faes modelau bychain mewn papur, caiff ei chelf ei grefftio’n ofalus.

illustration of boxes with patterns

Alice Willow

Darlunydd o Gymru yw Alice Willow, y mae ei gwaith yn archwilio themâu ffeministiaeth a hunaniaeth. Gan dynnu ysbrydoliaeth o fyd llên gwerin Cymru a’r ddelweddaeth a geir mewn llenyddiaeth, mae ei darluniau’n ysgogi cysylltiadau emosiynol dwfn sy’n gwahodd gwylwyr i adfyfyrio ar gymhlethdod y profiad dynol trwy lens mytholeg a rhywedd. Gan ddefnyddio cyfryngau traddodiadol, gan gynnwys pastel olew a siarcol, mae ei thechnegau’n creu darnau gweadog ac atmosfferig sy’n anrhydeddu’r pynciau mae hi’n eu darlunio. Mae Alice yn parhau i chwilio am y straeon sy’n bwysig i ddiwylliant Cymru, gan ddod â nhw i’r amlwg trwy eu harfer darluniadol. 

illustration of a dog with yellow stars

Ruby Woolner

Artist sy’n arbenigo mewn comics a darlunio ‘pin-up’ yw Ruby, sydd â phwyslais cryf ar ystum yn eu gwaith. Mae eu harddull yn cael ei ddylanwadu gan anime fel Kill la Kill, Gurren Lagann, ac One Piece, yn ogystal â chartwnau fel The Grim Adventures of Billy and Mandy. Gan weithio’n ddigidol mewn Clip Studio, mae Ruby yn ceisio cyflawni edrychiad glân, caboledig yn eu darluniau. 

illustration of a comic book

Chi Zang

Mae gwaith celf Chi yn cyfuno elfennau o realiti a ffantasi i greu cymeriadau unigryw a bydoedd ffantastig. Daw ei ysbrydoliaeth o’r hyn a wel o’i gwmpas yn feunyddiol, gan wneud ei waith yn hygyrch i’r gwyliwr. Mae’n hoffi mynegi ei deimladau a’i safbwyntiau trwy ei broses artistig ac mae’n gobeithio bod ei waith yn gallu codi emosiynau’r rhai sy’n ei weld. 

  • Gwefan: Chillustration777.com
  • Instagram:
illustration of a dragon with a boat in water

Galeri Arddangosfa