Cel yn PCYDDS
Profiad Cel ar BA Celf Gain

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Fy hoff bethau am y campws hwn yw’r gweithdai, yr ystafell ddarlunio bywyd a’r nifer o ddarlithwyr anhygoel sydd gennym.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Daeth ffrind i’r teulu yma ac roedd wedi ei hargymell yn fawr. Cafodd fy newis i ddod yma ei gefnogi wrth fynd ar daith o gwmpas y campws a gweld yr hyn yr oedd ganddo i’w gynnig.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Coginio, pobi, gemau fideo a gwylio’r teledu a ffilmiau.
Beth ydych chi’n gobeithio ei wneud pan fyddwch chi’n graddio?
Rwy’n gobeithio mynd ymhellach gyda fy astudiaethau drwy wneud cwrs meistr gyda’r nod o weithio mewn mannau celf megis ym myd addysg, ysgrifennu neu orielau.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Yr amrywiaethau o gyfleoedd, rydym yn eu cael i roi cynnig ar bethau newydd megis darlunio bywyd, gwaith metel/pren a gweithdai y tu allan i’r coleg.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn yn sicr; mae’r cyfleoedd ar gyfer arbrofi gyda deunyddiau a dulliau, y cyfleoedd i gwrdd ag artistiaid, a’r staff anhygoel.