ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Astudio yn y Drindod Dewi Sant

Gwybodaeth i Ymgeiswyr Cyfnewid, Astudio Dramor, a Rhaglenni Haf  

Gall myfyrwyr o bob cwr o’r byd wneud cais i astudio yng Nghymru am brofiad bythgofiadwy.  Rydym yn cynnig rhaglen astudio dramor sydd wedi hen ennill ei phlwyf, yn ogystal â chyfleoedd  cyfnewid cilyddol drwy ein sefydliadau partner.  

Mae dewis ble i astudio dramor yn benderfyniad arwyddocaol – un a allai siapio eich dyfodol! Tu hwnt i gael safbwynt rhyngwladol ar eich astudiaethau, byddwch yn ymdrochi mewn diwylliant newydd, yn archwilio hanes cyfoethog, ac yn profi ffordd unigryw o fyw. 

Canllaw ar gyfer Myfyrwyr Astudio Dramor a Chyfnewid sy’n dod i Gymru

Rydym yn ymdrechu i wneud y broses ymgeisio mor ddi-dor â phosibl i fyfyrwyr sy’n dod i Gymru sy’n dechrau ar eu taith Astudio Dramor yn PCYDDS. 

Yn achos myfyrwyr Cyfnewid, mae arnom angen enwebiad gan ein sefydliadau partner tramor.  Rhaid i bartneriaid gyflwyno manylion y myfyrwyr a enwebir i Dîm Go Global, gan gynnwys eu henwau llawn, eu maes astudio cyfredol a’r maes pwnc arfaethedig yn PCYDDS. Pan fyddant wedi’u henwebu, bydd myfyrwyr yn derbyn cyfarwyddiadau ar sut i wneud cais drwy’r cais cyfnewid rhyngwladol.  

Mae myfyrwyr sy’n gwneud cais fel myfyrwyr astudio dramor sy’n talu ffioedd, tu allan i gytundeb cyfnewid, yn gallu gwneud cais yn uniongyrchol cyn y dyddiad cau. 

Mae Cymru’n lle gwych i dreulio’r amser gwerthfawr hwn yn eich gyrfa addysgol.

Students on the steps outside Alex

Pam Cymru

Mae Cymru yn cynnig cyrchfan sy’n ysbrydoli ac yn cyfoethogi ar gyfer y cam allweddol hwn ar eich taith academaidd.  Nid yn unig y mae’r rhaglen Astudio Dramor yn darparu sylfaen academaidd gref mae hefyd wedi’i llunio i’ch trochi ym mhrofiadau diwylliannol a chymdeithasol bywiog Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. 

Rhaglen Academaidd

Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, cewch ddewis o amrywiaeth eang o gyrsiau. Cadarnheir manylion llawn y rhaglenni sydd ar gael gan Dîm Go Global.  

Ar ddechrau’r rhaglen, bydd ein Hathrawon yn cyflwyno pob cwrs, gan eich helpu i benderfynu p’un sy’n cydweddu â’ch diddordebau orau. Ar ôl cofrestru, bydd gennych rhwng 12–17 awr o ddosbarthiadau’r wythnos, gan ennill 60 credyd y DU (30 credyd ECTS) fesul semester.  

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Astudio Dramor, byddwch chi a’ch sefydliad cartref yn derbyn trawsgrifiad swyddogol.