Anrhydedd Dosbarth Cyntaf i Brentis Gradd Ddigidol PCYDDS sy’n helpu i yrru arloesedd yn y GIG
Mae Sam Jackson, Prentis Gradd Ddigidol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi ennill gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Cyfrifiadura Cwmwl tra’n gweithio’n llawn amser i’r GIG.

Mae Sam, sy’n wreiddiol o Gastell-nedd ac sydd bellach yn byw ym Mae Caerdydd, wedi bod yn gweithio yn y GIG ers bron i chwe blynedd, yn bennaf gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, sy’n cwmpasu Gwasanaeth Gwaed Cymru a Chanolfan Ganser Felindre.
Sam sy’n arbenigo mewn Awtomeiddio Prosesau Roboteg , yn defnyddio technolegau blaengar bob dydd yn y GIG. Darparodd ei radd wybodaeth hanfodol am wasanaethau cwmwl, megis Microsoft Azure, sydd wedi gwella ei allu i weithredu atebion cwmwl modern i brosiectau GIG yn y byd go iawn.
Dewisodd Sam y radd brentisiaeth gan ei bod yn darparu’r hyblygrwydd i ddatblygu ei yrfa wrth barhau â’i astudiaethau. Roedd y cwrs wedi caniatáu iddo ddatblygu sgiliau newydd heb adael ei rôl llawn amser, diolch i gefnogaeth ei gyflogwr a PCYDDS.
Meddai: “Roeddwn bob amser eisiau ennill gradd, a gwnaeth r cwrs hwn gyd-fynd orau â’m nodau. Roedd wedi fy ngalluogi i symud ymlaen yn fy ngyrfa wrth astudio, a oedd yn fantais enfawr. Diolch i’r gefnogaeth barhaus gan fy nghyflogwr a’r brifysgol, enillais radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf.”
Fodd bynnag, nid oedd taith Sam heb ei heriau. Cafodd ei mam ddiagnosis o ganser y fron yn hydref 2024, pan oedd yn ysgrifennu ei draethawd hir. Gwnaeth gyfuno ei waith academaidd, ei swydd llawn amser a’i heriau personol ei lethu, ond diolch i hyblygrwydd a chefnogaeth gan PCYDDS a’i gyflogwr, llwyddodd i oedi ei astudiaethau a dychwelyd yn gryfach.
“Roedd y gefnogaeth a gefais yn ystod yr amser anodd hwn yn anhygoel. Roedd wedi fy ngalluogi i gamu yn ôl, ffocysu ar fy nheulu ac yn ddiweddarach, ddychwelyd at fy astudiaethau gyda phenderfyniad o’r newydd,” meddai.
Mae Sam yn ystyried ei gamau nesaf yn barod, gan archwilio cyfleoedd am astudiaethau pellach, gan gynnwys MPhil posibl. Mae’n parhau i fod yn ymrwymedig i barhau â’i ddatblygiad proffesiynol gyda chefnogaeth ei gyflogwr a thîm Prentisiaethau PCYDDS.
Ychwanegodd: “ Allwn i ddim argymell y llwybr prentisiaeth addysg uwch yn fwy. Mae’r gallu i gymhwyso astudiaethau’n uniongyrchol i waith o ddydd i ddydd yn amhrisiadwy – nid yn unig i fyfyrwyr ond hefyd i gyflogwyr, gan ei fod yn helpu i fynd i afael â phrinder sgiliau digidol yng Nghymru. “Byddwn wrth fy modd yn gweld yr opsiwn hwn ar gael yn ehangach i ymadawyr ysgol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071